Unwaith y bydd presgripsiwn yn cael ei lawrlwytho o'r Spine gan fferyllfa gymunedol, nid yw ar gael mwyach i fferyllfa arall ei gyflenwi, oni bai bod y fferyllfa gyntaf yn ei ddychwelyd i'r Spine. Yr unig sefyllfa lle gallai hyn fod yn bosibl yw os caiff presgripsiwn electronig ei greu, ei lofnodi a'i anfon i'r Spine a bod ail bresgripsiwn yn cael ei greu yn yr un ffordd neu ei argraffu a'i lofnodi â beiro. Yn union fel nawr, byddai'r cyfrifoldeb o atal hyn yn gorwedd gyda'r presgripsiynydd er mwyn gwirio nad yw’n dyblygu presgripsiynau.