21. Beth ddylwn i ei wneud os oes angen imi ganslo presgripsiwn?

Mae EPS yn caniatáu i bresgripsiynydd ganslo presgripsiwn cyn belled ag nad yw wedi'i ddosbarthu i glaf. Mae'r cerdyn clyfar a'r Traciwr EPS yn caniatáu ichi olrhain presgripsiwn a'i ganslo os byddwch chi’n sylweddoli bod camgymeriad wedi'i wneud neu os oes angen dewis arall. Mae rhagor o wybodaeth am ddefnyddio'r traciwr EPS ar gael ar ein gwefan SharePoint.

Arfer da yw ffonio'r fferyllfa a enwebwyd a'r claf i egluro'r cansliad hwn. Fel ar hyn o bryd, os yw'r feddyginiaeth eisoes wedi'i dosbarthu, bydd angen trafod gyda'r claf os oes angen canslo neu ddiwygio.