11. A all cleifion sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu yn Lloegr anfon eu presgripsiynau i Gymru, ac i'r gwrthwyneb?

Mae EPS yn gweithio'r ddwy ffordd dros y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Gall cleifion sy’n byw yng Nghymru enwebu fferyllfa neu ddosbarthwr yn Lloegr i ddosbarthu eu meddyginiaeth, ac i'r gwrthwyneb.

Codir ffioedd presgripsiwn yn Lloegr ond nid yng Nghymru. Os bydd claf yng Nghymru yn enwebu fferyllfa yn Lloegr, gellir codi tâl arno. Yn yr un modd, os bydd claf yn byw yn Lloegr ac yn dewis cael ei bresgripsiwn wedi’i ddosbarthu yng Nghymru, mae'r ffioedd a'r eithriadau perthnasol yn dal i fod yn berthnasol.

Ewch i wefan GIG Lloegr i gael gwybod mwy a gweld y rhestr lawn o eithriadau.