Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth Preifatrwydd

Pam a sut rydym yn prosesu eich data yng Ngwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) Cymru, a'ch hawliau.

 

Rheolydd

GIG Lloegr ar y cyd ag Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC)

Sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth (gweithgareddau prosesu)

Mae'r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yn trosglwyddo gwybodaeth am bresgripsiynau yn ddiogel rhwng systemau rhagnodi (megis systemau meddygon teulu) a systemau dosbarthu (megis systemau fferyllfa) yng Nghymru.

Pan fydd presgripsiwn yn cael ei gyhoeddi, mae'r system ragnodi yn anfon y wybodaeth ganlynol i NHS Spine:

  • Data demograffig y claf (megis rhif GIG, enw, dyddiad geni, cyfeiriad)
  • Fferyllfa enwebedig y claf
  • Y practis meddyg teulu y mae'r claf wedi cofrestru ynddo
  • Y feddyginiaeth neu'r teclyn a ragnodir
  • Cyfarwyddiadau a roddwyd i'r claf a'r dosbarthwr gan y rhagnodydd
  • Manylion y rhagnodydd sy'n rhoi'r presgripsiwn
  • Y system a'r defnyddiwr sy'n cynhyrchu'r presgripsiwn
  • Y llofnod electronig uwch sydd ynghlwm wrth y presgripsiwn

Yna bydd y presgripsiwn electronig ar gael i'r system ddosbarthu ei lawrlwytho o NHS Spine.

I gysylltu â NHS Spine, mae angen y caniatâd cerdyn clyfar GIG priodol ar ddefnyddwyr systemau rhagnodi a dosbarthu.

Gall staff awdurdodedig mewn safleoedd rhagnodi a dosbarthu hefyd wirio statws a lleoliad presgripsiwn gan ddefnyddio Traciwr Presgripsiynau EPS.

Mae dewis y claf o fferyllfa enwebedig wedi'i gofnodi yn y Gwasanaeth Demograffig Personol (PDS). Ar gais claf, gall defnyddwyr system ragnodi a dosbarthu ychwanegu, diweddaru a dileu eu fferyllfa enwebedig.

Defnyddir yr EPS ar draws maes gofal sylfaenol (practisiau meddygon teulu a fferyllfeydd er enghraifft) a lleoliadau gofal brys (megis canolfannau galw heibio ac unedau mân anafiadau). 

Mae'r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig hefyd yn gweithredu yn Lloegr. Am ragor o wybodaeth, gweler Hysbysiad Tryloywder y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yn Lloegr

A yw hyn yn cynnwys data sensitif (categori arbennig) fel gwybodaeth iechyd?

Ydy

Pwy yw derbynwyr y data hwn?

Mae GIG Lloegr yn rhannu data EPS (negeseuon hawliadau electronig) gyda Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) fel y gall PCGC ad-dalu'r dosbarthwr a chodi tâl ar y rhagnodydd am yr eitemau a ddosbarthwyd.

A yw data'n cael ei drosglwyddo y tu allan i'r DU?

Nac ydy

Pa mor hir y cedwir y data?

Uchafswm o 12 mis yn ein system fyw ar ôl i bresgripsiynau gael eu dosbarthu neu ar ôl i bresgripsiwn gael ei ragnodi ond heb ei ddosbarthu. Yna caiff y data ei archifo am 6 blynedd nes ei ddileu'n ddiogel.

Ein sail gyfreithiol dros ddal y data hwn

Tasg gyhoeddus.

Eich hawliau

Tick  Cael y wybodaeth ddiweddaraf

Tick  Cael mynediad iddo

Tick  Cywiro neu ei newid

Cross Dileu neu ei dynnu

Tick Cyfyngu neu atal ei brosesu

Cross  Symud, copïo neu ei drosglwyddo

Tick Gwrthwynebu iddo gael ei brosesu neu ei ddefnyddio

 Cross Gwybod a wnaed penderfyniad gan gyfrifiadur yn hytrach na pherson

 

Sut allwch chi dynnu eich caniatâd yn ôl?

Nid caniatâd yw'r sail ar gyfer prosesu.

A yw'r data yn destun penderfyniadau a wneir gan gyfrifiaduron yn unig? (gwneud penderfyniadau awtomataidd)

Nac ydy

O ble mae'r data hwn yn dod?

Systemau rhagnodi

Y sail gyfreithiol dros gasglu'r data hwn

GDPR Y DU:

Erthygl 6(1)(e) - Tasg gyhoeddus (Adran 255 Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012): Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig ar gyfer GIG Cymru 2022)

Erthygl 9(2)(h) - Rheoli systemau a gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol

DPA 2018: Atodlen 1, Rhan 1, paragraff 2 - Dibenion iechyd neu ofal cymdeithasol

 

Ble rydym yn defnyddio'r data hwn

Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig

Mae'r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) ar gyfer rhagnodwyr a dosbarthwyr ac fe'i defnyddir ym meysydd gofal sylfaenol, eilaidd a chymunedol.

 

 

 

 

 

Dilynwch ni: