Mae data o ansawdd da yn hanfodol i ddarparu iechyd a gofal o ansawdd da. Mae argaeledd a rhannu data ar lefel dinasyddion a chleifion yn gonglfaen ar gyfer gwella canlyniadau i unigolion a gwella ansawdd y gwasanaethau a ddarperir ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae safon data yn ffordd o sicrhau bod data yn cael eu trefnu mewn ffordd unffurf yn unol â gofynion yr holl ddefnyddwyr data.
Mae'r gwaith safoni data sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd yn rhan o'r gwaith o ddatblygu Cofnod Gofal Gwasanaeth Cymunedol/Iechyd Meddwl Cenedlaethol.
Mae’r Cynllun Digidol a Data Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Cymunedol ac Iechyd Meddwl yng Nghymru wedi’i ddatblygu drwy gyfres o grwpiau Gorchwyl a Gorffen a dan arweiniad ymarferwyr.
Arweinir y gwaith hwn gan glinigwyr sy'n ein helpu i sicrhau bod unrhyw wybodaeth, boed yn weithredol neu'n glinigol, yn cael ei chasglu mewn modd cyson.
Mae allbwn y gwaith hwn yn cynnwys eitemau data sy'n sail i broses glinigol Gwasanaethau Cymunedol/Iechyd Meddwl ac sy'n cyd-fynd â Safonau Cenedlaethol, gan gynnwys y Cofnod Gofal Iechyd Meddwl Cenedlaethol.
Mae’r gwaith hwn yn sicrhau bod unrhyw ddata neu wybodaeth a gesglir mewn system fel CareDirector, neu'r system a fydd yn ei disodli yn y pen draw, yr un fath waeth beth fo’r Bwrdd Iechyd neu Awdurdod Lleol, gan helpu i adrodd a darparu dadansoddiad i wneud gwelliannau.
Mae’r gwaith dylunio yn cael ei lywio gan wasanaethau ac, felly, mae’n fwy perthnasol i ymarferwyr sydd wedi bod yn ymwneud â’r datblygiad o’r cychwyn cyntaf.
Mae’r gwaith hwn yn helpu i ddiffinio prosesau gofal ar gyfer pob darparwr iechyd, ni waeth sut y cânt eu sefydlu a gall helpu i wella agweddau ar ofal megis lleihau’r angen i gleifion ailadrodd eu stori sawl gwaith, amseroedd aros yn ogystal â lleihau’r baich gweinyddol ar gyfer staff. Mae’r gwaith hwn yn helpu i ddiffinio prosesau gofal ar gyfer pob darparwr iechyd, ni waeth sut maent wedi’u sefydlu. Gall helpu i wella agweddau ar ofal megis lleihau’r angen i gleifion ailadrodd eu stori sawl gwaith, lleihau amseroedd aros yn ogystal â lleihau’r baich gweinyddol ar gyfer staff, gan helpu i wella rheolaeth llwyth achosion o ddydd i ddydd a sicrhau bod gofal yn deg.
Drwy ein helpu i adeiladu proses glir, mae Darparwyr Gofal ar draws sawl sefydliad yn gallu nodi pwyntiau cipio data. Mae hyn yn golygu y gellir mewnbynnu data unwaith ac yna eu dadansoddi sawl gwaith, gan sicrhau bod yr wybodaeth gywir ar gael ar yr amser cywir. Mae hyn yn galluogi timau i adolygu prosesau a datblygu arferion sy'n canolbwyntio mwy ar ganlyniadau.
Bydd dadansoddiad effaith cofnodion Gofal Iechyd Meddwl Cenedlaethol yn cael ei adolygu'n derfynol gyda thîm Safonau Data IGDC cyn cael sicrwydd gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB).
Unwaith y bydd yn sicr, bydd Hysbysiad Newid Set Ddata (DSCN) yn cael ei gyhoeddi i fandadu'r Safonau Cenedlaethol yng Nghymru.
Bydd dyddiad gweithredu ar gyfer casglu’r data hwn yn cael ei drafod ar wahân gyda Byrddau Iechyd i benderfynu pryd y byddant yn gallu dechrau casglu’r safonau Cenedlaethol ar gyfer y gwasanaethau o fewn eu systemau cleifion electronig.
Mae Hysbysiad Newid Safonau Data yn orchymyn i’r GIG a’i sefydliadau partner a chyflenwyr systemau i sicrhau eu bod yn gallu cefnogi safon data newydd neu safon data wedi newid.
Gallwch ddarllen rhagor am y gwaith hwn mewn blog gan Bethany Paines-Chumbley, y Dadansoddwr Busnes