Neidio i'r prif gynnwy

Integreiddio Gwasanaeth Data a Therminoleg Cyfeirio Cymru (WRTS)

Mae CareDirector wedi’i integreiddio’n ddiweddar â Gwasanaeth Data a Therminoleg Cyfeirio Cymru (WRTS). Mae Claire Latham, Uwch Ddadansoddwr Cymorth a Busnes, yn rhannu'r hyn y mae'r gwaith hwn wedi'i gynnwys a sut mae o fudd i ddefnyddwyr.

Mae integreiddio CareDirector gydag WRTS yn galluogi defnyddwyr y system i gael mynediad at ddata o amrywiaeth o ffynonellau ar draws byrddau iechyd ac awdurdodau lleol. Mae hyn yn cyflymu cyflwyno data ac yn lleihau'r straen ar y systemau gwreiddiol lle mae'r data'n cael eu storio.

Mae Gwasanaeth Data a Therminoleg Cyfeirio Cymru yn cadw data cyfeirio ar ran GIG Cymru. Mae'n gweithredu fel hyb canolog ar gyfer yr wybodaeth hon, gan ei wneud yn hawdd cael gafael arno a sicrhau bod data cyfeirio ar gael pan fo angen.  

 

Beth mae hyn yn ei olygu i ddefnyddwyr?

Aeth yr integreiddio’n fyw ar 5 Awst a gwelwyd 1,369 o bractisiau meddygon teulu yn cael eu cynnwys, a 8,119 o bractisiau eraill wedi’u diweddaru.

Mae'r system bellach yn cynnwys rhestr gyfredol o enwau a chyfeiriadau practisiau meddygon teulu, a fydd yn cael ei diweddaru'n rheolaidd.

Mae'r practisiau meddygon teulu hyn ar gael yn genedlaethol ar draws y system. Anogir defnyddwyr i beidio â chreu eu cofnodion practis meddyg teulu eu hunain i ofyn am gymorth gan eu tîm systemau lleol os oes angen cymorth arnynt.

 

Beth sydd nesaf?

Mae cais wedi'i wneud i gyflenwr y system wella'r swyddogaeth chwilio meddygon teulu, gan ei gwneud yn haws i ddefnyddwyr ddod o hyd i'w practis meddyg teulu gofynnol. Bydd diweddariadau ar y datblygiad hwn yn cael eu darparu wrth iddynt ddod ar gael.