Yn 2024 trawsnewidiwyd Rhaglen System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS) yn Cysylltu Gofal. Mae'r newid hwn yn nodi newid sylweddol yng nghyfeiriad y rhaglen ac yn adlewyrchu ei rôl gynyddol wrth wella iechyd a gofal yng Nghymru.
Yma rydym yn trafod pam y digwyddodd y newid hwn a’r hyn mae'n ei olygu ar gyfer gwaith y rhaglen yn y dyfodol.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, cafodd y rhaglen, a noddir gan Lywodraeth Cymru, ei hailwampio a’i hailwerthuso’n sylweddol ar ôl Adolygiad Strategol annibynnol yn gynnar yn 2022.
Gwnaeth yr adolygiad hwn nifer o argymhellion, gan gynnwys awgrym i’r rhaglen ailystyried ei henw a’i brandio ar adeg briodol. Yn dilyn ymarfer y llynedd i sicrhau brandio clir a chyson ar draws portffolio systemau a gwasanaethau IGDC, barnwyd mai dyma'r amser cywir i Raglen WCCIS ymgymryd â'r newid hwnnw.
O 1 Mawrth, 2024, daeth yr holl waith yn ymwneud â disodli'r datrysiad presennol, a elwid gynt yn Gam 2, yn Cysylltu Gofal.
Mae'r datrysiad presennol, sydd â dros 18,500 o ddefnyddwyr, yn cynrychioli bron i 70% o sefydliadau dibynnol ledled Cymru.
Fodd bynnag, mae newid ein henw i Cysylltu Gofal yn dynodi cam newydd yn y rhaglen, sydd wedi ehangu i gynnwys caffael cynnyrch masnachol parod yn lle’r datrysiad presennol sy’n darparu mynediad at wybodaeth berthnasol, gywir a chyfredol am ofal cleifion a thriniaeth a rennir ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd y gwaith hwn hefyd yn cefnogi’r gwaith parhaus o ddigideiddio gwasanaethau gofal cymunedol, iechyd meddwl a chymdeithasol ledled Cymru i raddfa a chymhlethdod llawer mwy na llawer o fentrau digidol strategol eraill.
Disgwylir i’r rhaglen Cysylltu Gofal effeithio ar bron holl boblogaeth Cymru a bod o fudd iddi, gan gynnwys 40,000 o ddefnyddwyr terfynol awdurdodau iechyd ac awdurdodau lleol ar draws 18 awdurdod lleol a saith bwrdd iechyd.
Drwy weithio gyda rhanddeiliaid, nod Cysylltu Gofal yw darparu gofal gwell, mwy cydgysylltiedig i bobl Cymru. Bydd yn rhoi’r offer digidol sydd eu hangen ar staff i gydweithio a rhannu gwybodaeth er budd dinasyddion.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at Dîm y Rhaglen Genedlaethol drwy ConnectingCare.Programme@wales.nhs.uk.