Mae casglu gofynion yn gam pwysig i sicrhau bod cyflenwyr yn darparu datrysiad sy'n diwallu anghenion cleifion, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a'n rhanddeiliaid a'n partneriaid eraill.
Mae gallu cyrchu a chofnodi gwybodaeth o bell trwy apiau, integreiddio deallusrwydd artiffisial yn ddiogel a chefnogi darparu gofal trwy wardiau rhithwir yn rhai o'r gofynion sydd wedi'u nodi ar gyfer datrysiadau a ddarperir gan y rhaglen Cysylltu Gofal.
Trafododd Andy Barnes, Dadansoddwr Busnes yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru y broses casglu gofynion barhaus ar gyfer y rhaglen Cysylltu Gofal.
Mae wedi bod yn fraint enfawr i arwain y broses casglu gofynion ar gyfer Cysylltu Gofal ar draws GIG Cymru gyda thîm IGDC. Y nod yw diwallu anghenion gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a phobl Cymru drwy ddatrysiad sy’n casglu gwybodaeth yn ddiogel ac y gellir ei rhannu ar draws gwasanaethau cymunedol, iechyd meddwl a gofal cymdeithasol.
Bydd y datrysiad yn rhoi'r wybodaeth hanfodol sydd ei hangen ar glinigwyr ac ymarferwyr i ddeall, a thrin cleifion yn well, gan wella effeithlonrwydd trwy ddigideiddio a rhannu gwybodaeth ar yr un pryd.
Er ei bod wedi bod yn her fawr cynnwys yr holl randdeiliaid perthnasol i sicrhau datrysiad sy’n canolbwyntio ar y claf ac sy’n glinigol, mae wedi bod yn wych gweld y byrddau iechyd a’r awdurdodau lleol yn cydweithio’n agos i ddatblygu datrysiad ar gyfer GIG Cymru. Mae’r dull hwn wedi’i gydnabod gan Gyfarwyddwyr Digidol ar draws GIG Cymru a thîm Gweithredol IGDC.
Dechreuodd y tîm trwy ddatblygu set o 'Straeon' sylfaenol neu achosion defnydd lefel uchel. Yna ehangwyd y rhain i fod yn ofynion manwl a oedd yn canolbwyntio ar daith gofal y claf, gan gynnwys atgyfeirio, triniaeth a rhyddhau, a rheoli llwyth achosion, sef y swyddogaethau swyddfa gefn pwysig sy'n ymwneud â rheoli newidiadau i lwythi achosion. Casglwyd y gofynion hyn o bob rhan o GIG Cymru, gan ddefnyddio’r hyn a ddysgwyd o gaffaeliadau tebyg.
Yn ystod haf a hydref 2023, cynhaliwyd cyfres o sesiynau gweithdy gyda’n Swyddogion Gwybodeg Clinigol arbenigol yn IGDC, Hyrwyddwyr Gofal, a chynrychiolwyr o bob rhanbarth bwrdd iechyd. Nod y sesiynau hyn oedd dilysu'r dull gweithredu, adolygu a mireinio'r gofynion, a sicrhau eu bod yn ddigon cynhwysfawr ar gyfer caffael datrysiadau newydd ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a gofal iechyd. Defnyddiwyd senarios cymdeithasol ac iechyd cymhleth a ddarparwyd gan y byrddau iechyd i groesgyfeirio’r gofynion, gan sicrhau bod unrhyw senario, neu gyfuniad o senarios ledled Cymru yn cael sylw llawn.
Ers mis Chwefror 2024, mae’r ffocws wedi bod ar ddefnyddio’r gofynion hyn i arwain y broses gaffael gydag arbenigwyr caffael IGDC.
Mae cam dilysu terfynol ar y gweill ar hyn o bryd ac mae’r byrddau iechyd yn cwblhau’r gofynion iechyd meddwl, ac iechyd cymunedol. Bydd hyn yn galluogi’r broses o gaffael datrysiad i’w gwblhau yn y dyfodol agos, gan baratoi’r ffordd ar gyfer integreiddio gwell o ran darparu gwybodaeth a gwasanaethau gofal trawsnewidiol i bobl Cymru.