Neidio i'r prif gynnwy

Cofnod Meddyginiaethau a Rennir

Nyrs yn gweithio ar ei gliniadur ac yn dal ffôn symudol

 

Y Cofnod Meddyginiaethau a Rennir yng Nghymru

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw'r bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i ddechrau defnyddio'r SMR, gyda byrddau iechyd eraill i fod i ddechrau ei ddefnyddio yn 2026. Fel rhan o'u lansiad ePMA gyda'u partner Better, byddant yn dechrau ysgrifennu meddyginiaethau i'r SMR ar yr adeg y caiff claf ei ryddhau o'r ysbyty, gan helpu i greu cofnod cyfunol.

Mewn ail gam, bydd system ePMA y bwrdd iechyd yn darllen gwybodaeth a data am feddyginiaethau, alergeddau ac anoddefiadau o'r SMR, gan gynnwys meddyginiaethau meddygon teulu. Bydd hyn yn cefnogi cysoni meddyginiaethau mewn modd diogel a chywir

ac yn caniatáu i fanylion meddyginiaethau gael eu nodi ar y system ePMA, gan ddileu'r angen i drawsgrifio â llaw neu ofyn am wybodaeth gan feddyg teulu'r claf.

Dilynwch ni: