Neidio i'r prif gynnwy

 

Mae’r System Rheoli Atgyfeiriadau Deintyddol yn caniatáu i ymarferwyr deintyddol cyffredinol atgyfeirio cleifion yn electronig i ofal sylfaenol neu ofal eilaidd ar gyfer gofal arbenigol a thriniaeth bellach.

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno atgyfeiriadau deintyddol electronig ar draws yr holl arbenigeddau deintyddol.

Rydym yn darparu'r system hon mewn partneriaeth â RMS ltd. Mae'n disodli atgyfeiriadau papur traddodiadol, gan leihau'r risg o golli gwybodaeth neu lythyrau ac mae’n darparu data sy'n llywio'r gwaith o gynllunio a rheoli gwasanaethau.

Mae hyn yn cwmpasu'r holl arbenigeddau ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd, gan gynnwys:

  • orthodeintyddion
  • llawfeddygaeth y geg
  • llawfeddygaeth y genau a’r wyneb
  • meddygaeth y geg
  • deintyddiaeth adferol
  • gwasanaethau deintyddol cymunedol (pediatreg a gofal arbennig)
  • canser posibl y tybir bod angen sylw brys arno
  • gwasanaethau tawelyddu