Negeseuon y gellir eu haddasu yw negeseuon byr y gall eich practis eu gwneud ar gael i gleifion yn yr Ap. Mae’r negeseuon yn ymddangos mewn mannau allweddol yn y daith wrth i’ch cleifion ddefnyddio’r ap ac maen nhw’n benodol i dasg neu ddiben y dudalen y maen nhw’n ymddangos arni, er enghraifft:
- neges o groeso, sy’n rhestru'r ymgynghoriadau a'r apwyntiadau y mae eich practis yn eu cynnig
- archebu apwyntiadau gyda meddyg teulu, gan ddweud wrth gleifion pa fath o apwyntiadau y gallant eu harchebu drwy'r Ap
- archebu presgripsiynau rheolaidd, gan atgoffa cleifion pa mor hir y mae angen iddynt aros cyn casglu presgripsiwn o'u fferyllfa enwebedig
Defnyddiwch y canllaw byr hwn i'ch helpu i greu negeseuon sy'n cyd-fynd ag egwyddorion GIG Cymru fel bod cleifion ledled Cymru yn cael profiad cyson.
Llais a thôn
Er bod rhaid cadw negeseuon yn fyr, cadwch nhw'n broffesiynol ac yn gyson â llais a thôn GIG Cymru.
Mae ein llais yn niwtral ac yn ffeithiol. Mae’n awdurdodol, ond hefyd yn dawel ac yn galonogol. Mae’n grymuso, nid yn nawddoglyd, ac yn bersonol, nid yn ffurfiol. Rydym yn:
- cyfarch y defnyddiwr yn uniongyrchol
- tawelu meddwl trwy ddweud pethau fel “Gall Sertraline achosi sgîl-effeithiau, ond mae llawer o bobl yn cael dim sgîl-effeithiau neu rai mân yn unig”
- grymuso trwy ddweud pethau fel “siaradwch â’ch meddyg am ...” yn hytrach na “bydd eich meddyg yn dweud wrthych am ...”
- osgoi defnyddio berfau fel “dylech” gan y gall hyn swnio’n nawddoglyd
Negeseuon sy’n benodol i’r dudalen
Dyma rai negeseuon enghreifftiol gyda rhai atgofion o beth i'w gynnwys. Cofiwch gadw negeseuon yn fyr, yn gryno ac hyd at 250 nod.
Neges o groeso
Uchafswm nifer y nodau a argymhellir: 250 o nodau.
Nodiadau arddull
Rhestrwch y math o ymgynghoriadau ac apwyntiadau rydych chi'n eu cynnig, er enghraifft:
- apwyntiadau arferol y gellir eu trefnu o flaen llaw gyda meddygfa Meddyg Teulu
- apwyntiadau brysbennu
- profion gwaed
- profion ceg y groth
- asthma a COPD
- ysgrifennwch mewn testun plaen, nid html
Neges sampl
Gallwch bellach gael mynediad at wasanaethau iechyd o [enw eich practis] ar Ap GIG Cymru.
Gallwch ddefnyddio’r ap i gael mynediad at wasanaethau GIG Cymru fel cyngor iechyd GIG 111 Cymru a rhoi gwaed ac organau.
Gall cleifion cymwys hefyd ddefnyddio'r Ap i:
- drefnu apwyntiadau arferol
- archebu presgripsiynau rheolaidd
I gael mynediad at wasanaethau practis meddyg teulu ar-lein drwy’r ap, rhaid bod gennych chi NHS Login wedi’i ddilysu’n llawn, neu ID llun dilys i greu un.
Gwneud apwyntiad meddyg teulu
Uchafswm nifer y nodau a argymhellir: (250 o nodau)
Nodiadau arddull
Atgoffwch gleifion i ddewis y lleoliad cywir wrth archebu. Rhestrwch y math o ymgynghoriadau rydych chi'n eu cynnig os oes gennych chi fwy nag un gangen, er enghraifft:
- apwyntiadau meddyg teulu arferol y gellir eu harchebu ymlaen llaw
- apwyntiadau brysbennu
- profion gwaed
- profion ceg y groth
- asthma a COPD
- darparu dolen o fewn y neges, os yw'n briodol
- ysgrifennwch mewn testun plaen, nid html
Neges sampl
Gallwch drefnu’r mathau canlynol o apwyntiad ar-lein:
- apwyntiadau meddyg teulu arferol y gellir eu harchebu ymlaen llaw
- apwyntiadau brysbennu
- profion gwaed
- profion ceg y groth
- asthma neu COPD
Archebu presgripsiwn rheolaidd
Uchafswm nifer y nodau a argymhellir: (250 o nodau)
Nodiadau arddull
- Nodwch yr amser gweithredu arferol ar gyfer prosesu ceisiadau am bresgripsiynau rheolaidd
- Nodwch ei fod o fferyllfa, nid siop gemist
- ysgrifennwch mewn testun plaen, nid html
Neges sampl
Arhoswch 3 diwrnod gwaith cyn mynd i gasglu presgripsiynau o’r practis neu’ch fferyllfa enwebedig. Os na welwch chi’r presgripsiwn rheolaidd y mae angen i chi ei archebu, cysylltwch â ni ar [rhif ffôn].
Arfer gorau ar gyfer ysgrifennu iechyd a Saesneg/Cymraeg clir
- Osgowch jargon meddygol – gweler y canllaw A to Z of NHS health writing
- defnyddiwch Saesneg neu Gymraeg plaen a chael gwared ar eiriau diangen, hyd yn oed geiriau cwrteisi fel os gwelwch yn dda a diolch
- cadwch negeseuon yn fyr ac yn berthnasol, gan fod eich lle yn gyfyngedig
- defnyddiwch gyfangiadau cadarnhaol fel rydych chi'n neu byddwch chi’n, os ydych chi eisiau swnio'n fwy anffurfiol a chyfeillgar
- defnyddiwch “cannot” a “do not” yn Saesneg n lle cyfangiadau negyddol, fel can't neu don't, gan fod ymchwil yn dangos bod y rhain yn haws i'w darllen
- cawch at un pwynt i bob neges - gan fod o bwyntiau neu alwadau i weithredu yn ddryslyd ac efallai y bydd y defnyddiwr yn camddeall
- peidiwch ag ysgrifennu mewn LLYTHRENNAU BRAS – gall hyn fod yn frawychus neu’n annymunol
- peidiwch â chynnwys enwau personau cyswllt
- rhowch un pwynt cyswllt i gleifion o fewn neges, os ydych chi eisiau iddyn nhw gysylltu â chi
- os ydych chi'n defnyddio termau iechyd, talfyriadau neu acronymau, esboniwch beth maen nhw'n ei olygu
- ysgrifennwch mewn testun plaen, nid html