Neidio i'r prif gynnwy

Mynediad at gofnodion cleifion a diogelu

Beth ddylai staff practis cyffredinol ei wybod 

Rydyn ni’n galluogi cleifion sy’n defnyddio Ap GIG Cymru i gael mynediad at eu cofnodion iechyd meddyg teulu, hyd at eu cofnodion iechyd meddyg manwl wedi’u codio. (Mae hyn yn union yr un fath â Fy Iechyd Ar-lein). 

Dylai practisiau fod wedi galluogi’r Cofnodion Gofal Cryno (SCRs) ar gyfer pob claf fel gosodiad safonol yn barod. Dangosir hyn yng ngosodiadau cyffredinol y practis, neu EMAS Manager. 

 

Gweithredu mynediad at gofnodion meddygol manwl wedi’u codio 

Anogir practisiau meddygon teulu i hyrwyddo a chynnig mynediad i gleifion drwy’r ap at wybodaeth o’u cofnodion manwl wedi’u codio (DCR). Dylai fod gan y practis broses ar waith ar gyfer delio â cheisiadau DCR. 

Dyma rai pwyntiau i’w hystyried: 

  • a ddylech roi mynediad ar-lein i glaf sy’n gofyn am fynediad – a pha lefel o fynediad i’w roi 
  • pwy ddylai wneud y penderfyniad i roi mynediad – e.e. clinigwr, neu aelod o staff anghlinigol sydd wedi’i hyfforddi’n briodol gyda chymorth 
  • a oes angen lefelau mynediad gwahanol ar wahanol gleifion (neu ddim mynediad) 
  • sut i esbonio unrhyw benderfyniadau ar fynediad i gleifion mewn ffordd anwahaniaethol 

Ystyriaethau ar gyfer mynediad DCR 

Wrth droi Ymchwiliadau ymlaen ar lefel Claf, byddwch yn ymwybodol o’r ffordd y caiff canlyniadau eu harddangos i gleifion yn eu cyfrif. Oherwydd y ffordd y caiff y rhain eu rheoli yn y system glinigol, mae oedi o 72 awr cyn y gellir gweld y canlyniadau trwy’r ap, gan roi amser i feddygfa brosesu a ffeilio canlyniadau labordy. Gellir ystyried gweithredoli yr holl opsiynau ffurfweddu sy’n weddill, gan gynnwys: 

  • Problemau 
  • Diagnosis 
  • Meddyginiaethau 
  • Risgiau a rhybuddion 
  • Gweithdrefnau 
  • Ymchwiliadau 
  • Archwiliadau 
  • Digwyddiadau ac adalw 

Dylai staff practis fod yn ymwybodol: 

  • y bydd cleifion yn gweld gwybodaeth newydd unwaith y caiff ei mewnbynnu, neu ei ffeilio, ar eu cofnod yn y system glinigol 
  • o sut i reoli hyn fel newid i’ch llif gwaith 
  • sut i sicrhau bod gwybodaeth sensitif yn cael ei golygu (ei gwneud yn anweledig i’r claf) wrth ei rhoi ar y system glinigol 
  • y gallai fod yn amhriodol rhoi mynediad i glaf at ei gofnod mewn rhai amgylchiadau prin 

Os yw eich practis yn defnyddio EMIS, dylai eich staff fod yn ymwybodol hefyd: 

  • y bydd mynediad cleifion yn cynnwys llythyrau a dogfennau (os na chânt eu golygu) 
  • y bydd cleifion yn gweld cofnodion newydd yn eu cofnod meddyg teulu 
  • na fydd y newid hwn yn rhoi mynediad newydd i wybodaeth cofnodion iechyd hanesyddol, neu flaenorol, oni bai bod hyn wedi’i awdurdodi’n benodol gan eu practis meddyg teulu 

Mae GIG Cymru yn argymell na ddylai dogfennau nac unrhyw opsiwn sy’n gallu arddangos testun rhydd gael eu gweithredoli ar lefel Practis neu Glaf ar hyn o bryd. Gellir ystyried gweithredoli’r holl opsiynau ffurfweddu sy’n weddill ar Lefel Practis a Chleifion. 

Diogelu a rheoli defnydd amhriodol 

Bydd galluogi cleifion i weld eu cofnodion meddygol drwy Ap GIG Cymru o fudd i’r rhan fwyaf o gleifion, ond efallai y bydd heriau i leiafrif, yn enwedig lle gallai mynediad at wybodaeth achosi niwed meddyliol neu gorfforol difrifol i’r claf neu drydydd parti. 

Mae hi’n hollbwysig diogelu cleifion neu unrhyw drydydd parti a allai gael ei effeithio pan roddir mynediad i wybodaeth. Gall fod yn briodol golygu gwybodaeth benodol a gofnodwyd yng nghofnod meddygol y meddyg teulu, neu atal y claf rhag cael mynediad i’r wybodaeth. 

Cleifion sy’n agored i niwed ac mewn perygl 

Gall cofnod claf sy’n agored i niwed gynnwys gwybodaeth a allai achosi niwed corfforol neu feddyliol iddyn nhw, ac na ddylai’r claf ei gweld. Mewn rhai amgylchiadau efallai y bydd cynlluniau diogelu ar waith ac yn hysbys i’r practis. Dylech ystyried atal mynediad at rannau o’r cofnod lle byddwch yn ystyried bod claf yn agored i orfodaeth, lle mae caniatáu mynediad at y cofnod yn debygol o achosi niwed i’w iechyd corfforol neu feddyliol neu i iechyd meddwl eraill. Mae’r nodwedd hon eisoes yn bodoli mewn systemau practis cyffredinol. 

Efallai y bydd amgylchiadau eraill lle, ym marn y practis meddyg teulu, na fyddai mynediad at wybodaeth o gofnodion manwl wedi’u codio er budd y claf. 

Er enghraifft: 

  • gallai achosi niwed difrifol i iechyd corfforol neu feddyliol y claf neu rywun arall 
  • mae’r cofnod yn cynnwys gwybodaeth am rywun nad yw wedi cydsynio i’w datgelu 
  • mae gwybodaeth mewn maes testun rhydd na allwch ei wahanu na’i olygu oddi wrth weddill y cofnod manwl wedi’i godio 
  • mae’r claf yn canslo apwyntiadau sydd eu hangen arnynt, er enghraifft os oes ganddyn nhw ddementia (gellir canslo apwyntiadau trwy’r ap hyd yn oed os ydyn nhw wedi’u gwneud all-lein) 
  • mae mynediad ar-lein yn rhoi’r claf mewn perygl o orfodaeth 

Gwybodaeth sensitif 

Efallai y bydd rhai sefyllfaoedd sensitif yn gofyn am agwedd fwy ystyriol at fynediad. Mae rhai mathau o wybodaeth yn arbennig o sensitif.

Dyma rai enghreifftiau: 

  • triniaethau ffrwythlondeb 
  • camddefnyddio alcohol a chyffuriau 
  • gweithgaredd troseddol 
  • rhywedd a rhywioldeb 
  • iechyd meddwl 

Mewngofnodi a mynediad ar-lein i gleifion 

Gan fod Ap GIG Cymru yn defnyddio NHS login, gall y rhan fwyaf o gleifion gael mynediad at y gwasanaethau meddyg teulu ar-lein sydd ar gael trwy’r ap heb i’r practis gael unrhyw gysylltiad â nhw. 

Os nad oes gan gleifion gyfrif gwasanaethau ar-lein meddyg teulu eisoes, pan fyddan nhw’n creu cyfrif ar-lein, byddan nhw’n cael lefel ddiofyn y practis o ran mynediad at y gwasanaethau hyn. Yn gyffredinol, mae hynny’n golygu y gallan nhw drefnu apwyntiadau a gofyn am bresgripsiynau rheolaidd yn ogystal â gweld eu Cofnod Gofal Cryno. 

Mae canllawiau ar orfodaeth ac ystyriaethau eraill i’w gweld yn yr RCGP guidance on GP online services 

Atal cleifion rhag cyrchu gwasanaethau 

Er mwyn atal claf rhag cael mynediad at y gwasanaethau diofyn, bydd angen i chi newid y gosodiadau yn eu manylion gwasanaeth ar-lein cofnodion claf yn eich system glinigol. 

Os oes angen i chi ddirymu mynediad claf at drefnu apwyntiadau neu at gofnodion meddygol, mae’n bwysig gwneud hynny o fewn gosodiadau cyfrif ar-lein y claf unigol. Os ydych yn dileu eu cyfrif mynediad ar-lein yn gyfan gwbl, bydd un newydd yn cael ei greu yn awtomatig y tro nesaf y byddan nhw’n defnyddio Ap GIG Cymru. 

Trafod mynediad cyfyngedig neu ddim mynediad gyda’r claf 

Efallai eich bod yn pryderu am wrthdaro â chlaf os byddwch yn penderfynu cyfyngu ar neu wrthod mynediad. 

Pan wrthodir mynediad i glaf neu pan roddir mynediad cyfyngedig iawn, ystyriwch a oes angen sgwrs wyneb yn wyneb rhwng y clinigwr a’r claf. Gall cynnwys y claf yn gynnar a chynnig tryloywder helpu i osgoi gwrthdaro a chwynion. 

Arweiniad pellach 

Mewn ymateb i bryderon diogelu, mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn diweddaru ei becyn cymorth Gwasanaethau Ar-lein i Feddygon Teulu mewn cydweithrediad ag arbenigwyr diogelu. Bydd hyn yn cwmpasu sefyllfaoedd lle gall pryderon godi, a’r camau y gallai clinigwyr eu cymryd i liniaru’r risgiau hyn. 

Diogelu a phrosesu data cleifion 

Y Practis Meddyg Teulu fydd Rheolydd y Data Personol a brosesir mewn perthynas â darparu gwasanaethau meddyg teulu a ddarperir gan Ap GIG Cymru o fewn ystyr Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU a Deddf Diogelu Data 2018. Felly, y practis fydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol am sicrhau bod yr holl brosesu data yn cael ei wneud yn unol â’r Ddeddf. 

Dylai’r Rheolydd Data gymeradwyo’r polisïau a’r gweithdrefnau a ddefnyddir gan y practis meddyg teulu ar gyfer cynnig mynediad i gleifion at eu Cofnod Meddygol Manwl wedi’i Godio cyn i’r gwasanaeth gael ei roi ar waith. 

Dylai practisiau: 

  • adolygu pob polisi ac arfer newydd i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â diwygiadau rheoliadol neu newidiadau mewn arferion lleol 
  • gytuno ar ddull cyson o wirio cofnodion cleifion a phwy fydd yn gallu caniatáu mynediad i gleifion at eu gwybodaeth fanwl wedi’i godio 
  • ddweud wrth staff sut y bydd y gwasanaeth ar gael fel eu bod yn deall eu rôl yn y broses 

Gallwch wirio safonau yn erbyn offeryn hunanasesu Pecyn Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth Cymru