Neidio i'r prif gynnwy

Dilysu hunaniaeth

Mae dwy lefel o ddilysu ar gael ar NHS login: 

  1. Dilysu lefel ganolig. Mae’r claf yn darparu eu rhif GIG, dyddiad geni a chod post eu cyfeiriad cartref fel y’i cofrestrwyd gyda’u practis meddyg teulu. Nid yw’r lefel hon o fynediad yn caniatáu mynediad at wybodaeth bersonol, gwasanaethau fel apwyntiadau ac archebu presgripsiwn, na chofnodion iechyd ar yr ap. 
  2. Dilysu lefel uchel. Mae’n rhaid i’r claf brofi pwy ydyn nhw gydag ID llun dilys a sgan wyneb neu fideo, neu drwy ddefnyddio Gwasanaeth Dilysu Hunaniaeth Cymru. Ar y lefel hon, gall cleifion gael mynediad at yr holl wasanaethau y mae eich practis yn eu darparu ar-lein, gan gynnwys apwyntiadau, presgripsiynau a chofnodion iechyd. 

Gall pob claf dros 13 oed greu neu ddefnyddio NHS login dilysu lefel ganolig sy’n bodoli eisoes i fewngofnodi i Ap GIG Cymru. Ar y lefel hon, gall cleifion ddefnyddio holl wasanaethau cyffredinol GIG Cymru sydd ar gael ar yr ap, megis GIG 111 Cymru a Rhoi Organau a Gwaed.  

Pan fydd NHS login yn bodoli ar unrhyw lefel ddilysu, bydd yn cael ei gysylltu’n awtomatig â’u cyfrif gwasanaethau ar-lein yn y system practis meddyg teulu. 

Rhaid i gleifion fod yn 16 oed neu’n hŷn i allu creu a defnyddio cyfrif NHS login lefel uchel. 

Gall cleifion sydd â NHS login dilysu lefel uchel gael mynediad at holl wasanaethau cyffredinol GIG Cymru â’r holl wasanaethau meddygon teulu y mae eu practis yn eu darparu ar Ap GIG Cymru, megis apwyntiadau, archebu presgripsiynau a mynediad at eu cofnodion iechyd. 

Mwy o wybodaeth am reolau defnyddio NHS login  

Gwasanaeth Dilysu Hunaniaeth Cymru 

Mae Gwasanaeth Dilysu Hunaniaeth Cymru (WIVS) yn caniatáu i gleifion nad oes ganddynt ddogfennau ID llun ar gyfer NHS login, megis pasbort neu drwydded yrru, gael eu dilysu ar y lefel uwch. Bydd cleifion angen hyn i ddefnyddio NHS login i gael mynediad at nodweddion o wasanaethau ar-lein meddygon teulu yn Ap GIG Cymru.

Bydd y gwasanaeth hwn yn caniatáu i hunaniaeth claf gael ei wirio yn eu practis. Mae cam ar NHS login lle gall claf ddewis sut y bydd yn cadarnhau pwy ydyn nhw. Bydd y claf yn dewis “llythyr dilysu hunaniaeth gan fy mhractis meddyg teulu.” Bydd y claf yn mynd i’w bractis a gofynnir iddo lenwi ffurflen gais WIVS er mwyn cael gwirio ei hunaniaeth. Yna bydd y claf yn derbyn llythyr dilysu hunaniaeth y bydd yn ei ddefnyddio i ddilysu ei hunaniaeth ar yr ap.

Lawrlwytho ffurflen gais WIVS 

Gwirio hunaniaeth rhywun 

Mae dwy ffordd y gall y practis wirio hunaniaeth claf:  

1. Adnabod trwy Ddogfennaeth  

Rhaid i’ch practis gymharu hunaniaeth y claf wyneb yn wyneb er mwyn sicrhau bod cysylltiad clir rhwng y dull adnabod a dderbyniwyd, yr unigolyn a’i gofnod iechyd. Dylid nodi manylion y math o ddogfen a dderbynnir fel prawf adnabod ar yr adran briodol o’r ffurflen. 

Mae rheolau penodol ynghylch copïo rhai dogfennau, felly dylai staff y practis nodi pa ddogfennau maen nhw wedi’u gweld. Gellir uwchlwytho'r ffurflen berthnasol i system y practis yn lle'r dogfennau adnabod. 

Mae’n rhaid darparu o leiaf un ddogfen adnabod â llun fel rhan o’r broses adnabod. Rhaid iddynt fod yn ddogfennau gwreiddiol ar fformat papur. Ni allwch dderbyn copïau digidol o ddogfennau. Bydd rhaid i gleifion ddarparu’r canlynol:   

  • un darn o dystiolaeth o golofn A ac un darn o dystiolaeth o golofn B neu C, neu
  • dau ddarn o dystiolaeth o golofn B neu C

Mae’r tabl isod yn dangos y dystiolaeth a dderbynnir fel y’i ceir yn y safon a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Colofn A 

Dull Adnabod Ffotograffig 

Colofn B

Dull Adnabod Ffotograffig 

Colofn C

Dull Adnabod Ffotograffig 

Dogfen deithio gan y Swyddfa Gartref: 

  • dogfen deithio confensiwn 
  • dogfen person di-wladwriaeth 
  • dogfen un ffordd 
  • tystysgrif deithio 
Pasbortau sy’n bodloni manylebau’r Sefydliad Hedfan Sifil Rhyngwladol (ICAO) ar gyfer dogfennau teithio y gellir eu darllen gan beiriannau, megis pasbort De Affrica.  Pasbortau biometrig sy’n bodloni manylebau ICAO ar gyfer e-basbortau, fel pasbort y DU. 
Cardiau teithio a gyhoeddwyd gan y llywodraeth neu awdurdod lleol fel y’u cyhoeddwyd yn y DU (er enghraifft, Tocyn Rhyddid). Cardiau adnabod o wlad yr UE neu’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) sy’n dilyn safonau Rheoliad y Cyngor (CE) Rhif 2252/2004. Cardiau adnabod o wlad yr UE neu’r AEE sy’n dilyn safonau Rheoliad y Cyngor (CE) Rhif 2252/2004 ac sy’n cynnwys gwybodaeth fiometrig.
Cerdyn Teithio Rhatach Cymru i Rywun 60 a Throsodd.  Trwyddedau gyrru cerdyn-llun y DU. Hawlen breswylio fiometrig y DU.
Cerdyn Teithio Rhatach Cymru i Berson Anabl. Trwyddedau gyrru’r UE neu’r AEE sy’n dilyn Cyfarwyddeb Ewropeaidd 2006/126/EC.   
Tystysgrif addysg gan sefydliad addysgol a reoleiddir a chydnabyddedig (fel NVQ, SQA, TGAU, Lefel A neu dystysgrif gradd). Cerdyn Pasbort yr UD.  
Tystysgrif geni neu fabwysiadu. Cyfrif credyd.  
 Bathodyn Glas.  Cerdyn clyfar gyrrwr tacograff digidol.  
Hunaniaeth electronig ‘sylweddol’ o gynllun eIDAS hysbysedig. Cerdyn adnabod y lluoedd arfog.  
Cerdyn prawf oedran a gydnabyddir o dan y Cynllun Safonau Prawf Oedran (PASS). Cerdyn prawf oedran a gydnabyddir dan PASS gyda chyfeirnod unigryw.  
Tystysgrif dryll  Hunaniaeth electronig ‘uchel‘ o gynllun eIDAS hysbysedig.  
Dull Adnabod arall  Dull Adnabod arall  Dull Adnabod arall 
Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil. Dogfen adnabod etholiadol y DU (er enghraifft, Tystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr).   
Tystysgrif addysg gan sefydliad addysgol a reoleiddir a chydnabyddedig (fel NVQ, SQA, TGAU, Lefel A neu dystysgrif gradd). Cyfrif cyfredol banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd (y gall yr hunaniaeth honedig ei ddangos trwy roi cerdyn banc i chi).   
Tystysgrif geni neu fabwysiadu. Cyfrif benthyciad myfyriwr.  
Cyfrif credyd nwy neu drydan. Cyfrif credyd.  
Cytundeb rhentu neu brynu ar gyfer eiddo preswyl. Cyfrif benthyciad (gan gynnwys cyfrifon hurbwrcasu).   
Bathodyn Glas.    

Cewch hyd i ragor o wybodaeth am ddulliau dilysu hunaniaeth trwy ddogfennau a thrwy dystio wyneb yn wyneb

yn y Canllawiau i Bractisiau Meddygon Teulu: Dilysu Hunaniaeth ar gyfer Gwasanaeth Dilysu Hunaniaeth Cymru

2. Adnabod trwy Dystio  

Dylai’r person sy’n tystio wyneb yn wyneb fod yn weithiwr iechyd proffesiynol. Bydd hyn yn cynnwys unrhyw un sydd wedi’i gyflogi i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal fel rheolwr y practis. Bydd hyn hefyd yn cynnwys clinigwyr fel meddyg teulu neu nyrs practis sydd wedi’u hawdurdodi i weld y cofnod iechyd ac a all gysylltu’r claf â’r cofnod hwnnw.

Mewn achosion lle nad yw staff y feddygfa yn adnabod yr unigolyn yn dda, dim ond clinigwr all wirio ei hunaniaeth. Gallant ddewis derbyn tystiolaeth y maen nhw’n meddwl sy’n ddigonol i sicrhau y gallant dystio i’r claf.   

Nid yw pob practis yn cynnig gwirio hunaniaeth trwy dystio felly bydd angen i gleifion ofyn i’w practis.

Cofnodwch sut y gwnaethoch chi wirio hunaniaeth y claf, naill ai trwy dystio wyneb yn wyneb neu gyda dogfen adnabod yn Vision (Cegedim) neu EMIS:

Dod o hyd i gymorth a chefnogaeth ar gyfer defnyddio EMIS 

Gwybodaeth hyrwyddo ar gyfer eich practis

Gwybodaeth hyrwyddo (fersiynau Saesneg): 

Gwybodaeth hyrwyddo (fersiynau Cymraeg): 

Sgript i helpu ateb rhai cwestiynau gan gleifion.

Share: