Rydyn ni wedi creu nifer o dudalennau i helpu cefnogi Ap GIG Cymru sy'n darparu mwy o gymorth a chyfarwyddyd manwl ar gyfer cleifion sy'n cwmpasu:
Os yw cleifion yn hapus i ganiatáu i’r Ap ddefnyddio cwcis neu os ydyn nhw’n cael problem dechnegol gyda’r Ap neu os ydyn nhw am roi adborth am yr Ap yn gyffredinol, gallan nhw anfon adborth o fewn yr Ap gan ddefnyddio’r botwm adborth.
Os nad ydyn nhw’n gallu gweld y botwm adborth, bydd angen iddyn nhw droi cwcis dadansoddol dewisol ymlaen trwy:
Mae cwcis yn ffeiliau bach a ddefnyddir i wneud gwefannau yn gyflymach i gael mynediad iddynt ac yn haws eu defnyddio, a darparu mwy o nodweddion i ddefnyddwyr. Dysgwch ragor am gwcis.
Os yw’n well ganddyn nhw beidio â chaniatáu cwcis, bydd angen iddyn nhw roi gwybod am y broblem drwy lenwi’r arolwg ar-lein
Os bydd y claf yn rhoi gwybod am broblem drwy’r llwybr “Mae gen i broblem gydag Ap GIG Cymru” yn y nodwedd adborth, efallai y byddant yn cael ymateb trwy e-bost gan y ddesg gymorth i gleifion.