Neidio i'r prif gynnwy

Creu'r profiad gorau i gleifion

Drwy roi’r prosesau cywir ar waith, gallwch helpu i sicrhau bod eich cleifion yn cael profiad cyson a boddhaol pan fyddan nhw’n defnyddio gwasanaethau meddygon teulu ar-lein drwy’r ap. 

Argaeledd apwyntiadau 

Os gellir gwneud apwyntiad dros y ffôn, ystyriwch ei gynnig ar yr ap hefyd. 

Mwy o wybodaeth am apwyntiadau 

Mynediad i gofnodion iechyd 

Mae’r ap yn caniatáu i bractisiau wneud cofnodion iechyd yn hygyrch i gleifion, hyd at eu cofnodion iechyd meddyg teulu manwl wedi’u codio. Dylai fod gan eich practis broses ar waith i reoli ceisiadau i gael gweld cofnodion manwl wedi’u codio, ac ystyried materion diogelu a phreifatrwydd cleifion. 

Mwy o wybodaeth am fynediad i gofnodion iechyd 

Profiad cyson ar draws lleoliadau 

Os oes gan eich practis fwy nag un lleoliad, sicrhewch fod pob cangen wedi’i drefnu yn yr un modd i gynnig apwyntiadau, presgripsiynau a chofnodion ar yr ap. Noder: Os oes gennych chi fwy nag un lleoliad, mae taith presgripsiynau rheolaidd yr ap yn cynnwys maes testun rhydd sy’n gofyn i’r claf nodi o ba leoliad maen nhw am godi eu presgripsiwn. 

Hyrwyddo’r Ap 

Bydd mabwysiadu’r ap yn eang yn helpu practisiau i reoli llwyth cleifion. Gall leihau’r amser a dreulir ar dasgau gweinyddol megis trefnu apwyntiadau ac archebion presgripsiynau rheolaidd. I gleifion, mae’n cynnig mynediad haws a mwy cyfleus at wasanaethau’r practis, ar amser sy’n gyfleus iddyn nhw, ac mae’n gwella gofal cleifion trwy wneud defnydd gwell o ddatrysiadau digidol. Gall eich practis gefnogi hyn trwy hyrwyddo’r ap ac annog cleifion i’w ddefnyddio. 

Lawrlwythwch ddeunyddiau hyrwyddo ar gyfer eich practis 

Cyfeirio at gymorth i gleifion ar gyfer yr ap 

Wrth i gleifion ddod yn ymwybodol o’r ap, efallai y bydd ganddyn nhw gwestiynau ar gyfer staff sy’n wynebu cleifion yn y practis. Nid oes disgwyl i staff ddarparu cymorth technegol na chymorth system am yr ap, na dysgu cleifion sut i ddefnyddio ei nodweddion. Fodd bynnag, gallai staff elwa o ymgyfarwyddo â sut mae’r ap yn gweithio, a sut y gall cleifion gael cymorth a chefnogaeth. Gall cleifion hefyd adael adborth o fewn yr ap ac ar dudalennau cymorth a chefnogaeth yr ap (apphelp.nhs.wales a helpap.gig.cymru). Mae hyn yn ein helpu i barhau i wneud gwelliannau. 

Rhagor o wybodaeth am gymorth a chefnogaeth i gleifion ar ddefnyddio’r ap 

Y Gymraeg 

Gall cleifion newid rhwng y Gymraeg a’r Saesneg ym mhob rhan o’r ap. Mae’n ddyletswydd ar ddarparwyr gofal sylfaenol i ddarparu negeseuon i ddefnyddwyr yn y Gymraeg a’r Saesneg oni bai bod dewis iaith y claf wedi’i nodi. Gweld mwy am negeseuon y gellir eu haddasu 

Gallwch gynnwys gwybodaeth am ieithoedd llafar a rhywedd staff clinigol i helpu cleifion i wneud apwyntiadau. Mwy o wybodaeth am apwyntiadau 

Cefnogaeth practis 

Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi wrth i staff a chleifion eich practis ddechrau defnyddio Ap GIG Cymru. Bydd y pecyn cymorth hwn yn ateb llawer o’ch cwestiynau, ac rydyn ni hefyd yn cynnig cymorth ychwanegol. 

Canllaw datrys problemau