Neidio i'r prif gynnwy

Canllaw cyfeirio cyflym

Lawrlwythwch y canllaw cyfeirio cyflym (Word, 88KB) 

 

Pwy all ddefnyddio Ap GIG Cymru? 

I ddefnyddio Ap GIG Cymru, mae’n rhaid i gleifion: 

  • fod wedi cofrestru gyda phractis meddyg teulu yng Nghymru 
  • fod yn 16 mlwydd oed neu’n hŷn 
  • fedru profi pwy ydyn nhw (ID llun fel pasbort neu drwydded yrru) 

Bydd angen i gleifion hefyd gael eu cyfeiriad e-bost unigol eu hunain. Mae hyn oherwydd bod eu cyfeiriad e-bost yn gweithredu fel eu dynodwr unigryw ar gyfer paru eu cyfrif NHS login ag Ap GIG Cymru, ac felly nid oes modd ei rannu. 

Bydd hefyd angen rhif ffôn symudol arnynt, ar gyfer dilysu dau ffactor. Gellir rhannu’r rhif ffôn hwn rhwng cleifion. 

 

Sut i lawrlwytho Ap GIG Cymru 

Gall cleifion a’r cyhoedd lawrlwytho’r ap o App Store neu Google Play drwy chwilio am “Ap GIG Cymru” neu “NHS Wales App”. Gallant hefyd weld yr ap ar borwr gwe yn https://app.nhs.wales a https://ap.gig.cymru  

 

Nid oes gan y claf ID llun. Sut gallan nhw fewngofnodi i Ap GIG Cymru? 

 
Ar hyn o bryd, ni all cleifion heb ID llun dilys, fel pasbort neu drwydded yrru, ddefnyddio Ap GIG Cymru ar gyfer y rhan fwyaf o’r gwasanaethau sydd ar gael. Rydym yn gweithio gyda NHS login ar system ddilysu i Gymru. Byddwn yn rhoi gwybod i bractisiau a chleifion cyn gynted ag y bydd hwnnw ar gael. Darganfod mwy am NHS login a lefelau dilysu 

Mae cleifion yn sôn am broblemau wrth gofrestru neu fewngofnodi i’r ap. Sut gallan nhw gael cefnogaeth? 

Er mwyn mewngofnodi a defnyddio’r ap, rhaid i gleifion gael NHS login, sy’n wasanaeth a reolir gan GIG Lloegr. 

Os yw cleifion yn cael problemau gyda’u cyfrif NHS login, bydd angen iddyn nhw ymweld â Chanolfan Gymorth NHS login, NHS login Help Centre (login.nhs.uk). Mae’r Ganolfan Gymorth yn cynnig cymorth ac arweiniad ar gyfer problemau gyda NHS login. Mae hefyd yn rhoi manylion am sut i gysylltu â thîm cymorth NHS login. Cysylltwch â ni (login.nhs.uk) 

Dim ond yn Saesneg y mae’r system NHS login ar gael, ac mae gennym oddefeb arbennig gan Lywodraeth Cymru ar gyfer hyn. 

 

Mae cleifion yn adrodd am broblemau wrth gyrchu nodweddion Ap GIG Cymru, er eu bod wedi llwyddo i fewngofnodi gan ddefnyddio NHS login 

Ar gyfer cleifion Vision, efallai na fydd rhai sydd wedi defnyddio NHS login i ddilysu eu hunain yn llawn yn cael eu trosglwyddo’n awtomatig i’r system glinigol. Bydd angen i’r practis: 

  1. Ychwanegu a gwirio cyfeiriad e-bost y claf. 
  2. Ychwanegu’r math o ddull adnabod. 
  3. Uwchraddio’r cyfrif OSU i alluogi gwasanaethau. 

Mae hyn yn rhywbeth sy’n cael ei weithio arno. Fodd bynnag, ni fydd y datrysiad yn ôl-weithredol. Mae hyn yn golygu y gall rhai pobl fod angen y broses â llaw. 

Mae cleifion yn adrodd am broblemau gydag Ap GIG Cymru. Sut gallan nhw gael cefnogaeth? 

Os nad yw’r mater yn ymwneud â NHS login, yna anogwch gleifion i ymweld â thudalennau cymorth a chefnogaeth Ap GIG Cymru. Gall cleifion gyrchu tudalennau cymorth a chefnogaeth trwy ddewis yr eicon Help ar unrhyw sgrin.  

Os oes ganddyn nhw broblem dechnegol gyda’r ap neu os ydyn nhw am roi adborth am yr ap yn gyffredinol, gallan nhw anfon adborth o fewn yr ap gan ddefnyddio’r botwm adborth ar waelod y sgrin. Gallan nhw hefyd wneud hyn o’r tudalennau cymorth.  

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch gyda materion technegol wrth ddefnyddio’r ap, ewch i’r porth hunanwasanaeth Pwynt Gwasanaeth neu e-bostiwch it.servicedesk@wales.nhs.uk, gan nodi ‘Ap GIG Cymru’ yn llinell pwnc yr e-bost. 

I gael rhagor o wybodaeth am setiau data sylfaenol i’w cynnwys gydag ymholiadau desg wasanaeth, gweler Cymorth ap ar gyfer practisiau meddygon teulu

 

Mae cleifion yn adrodd na allant weld slotiau apwyntiad, er bod gennym apwyntiadau ar gael 

Bydd Ap GIG Cymru yn dangos unrhyw apwyntiadau rydych wedi’u cynnig i’w harchebu ar-lein o fewn yr 16 wythnos nesaf. Gellir cyfyngu ar nifer yr apwyntiadau y gall un claf eu gwneud fel y nodir yn y cyfluniad system meddygon teulu.  

Nid yw cleifion yn gallu gweld eu presgripsiynau sydd ar fin cael eu harchebu, neu feddyginiaethau acíwt 

Dim ond meddyginiaethau a fydd yn cael eu harchebu yn ystod y 28 diwrnod nesaf y bydd Ap GIG Cymru yn eu dangos. Nid yw Ap GIG Cymru yn cynnig nodwedd archebu presgripsiwn sydd ddim yn bresgripsiwn rheolaidd ar hyn o bryd. Gallant weld rhestr o’u meddyginiaethau acíwt, rheolaidd cyfredol, a rheolaidd sydd wedi dod i ben, yn yr adran Fy Iechyd, o dan Presgripsiynau. 

Mae cleifion yn gofyn am fynediad i’w cofnod Iechyd. Sut gall y practis gefnogi hynny? 

Dylai practisiau fod wedi galluogi’r Cofnod Gofal Cryno (SCR) ar gyfer pob claf fel gosodiad safonol.  
Gall claf ofyn am fynediad at wybodaeth bellach yn y cofnod manwl wedi’i godio. Mae angen cymeradwyo hyn trwy gais y claf i’r practis meddyg teulu. Cyfrifoldeb y practis yw gwirio’r wybodaeth cyn ei rhyddhau i’r claf. Gweler Gwefan Gofal Sylfaenol fewnol IGDC am bethau eraill i’w hystyried cyn rhoi mynediad i gofnodion: Adnoddau i Bractisiau ar y Cofnod Meddygol Manwl wedi’i Godio (sharepoint.com) 

Os nad yw’r practis yn dymuno cynnig y gwasanaeth hwn, fe’ch cynghorir i nodi hyn ar wefan y practis i helpu i reoli disgwyliadau cleifion. 

Mwy o wybodaeth am fynediad at gofnodion cleifion a diogelu