Gwneud apwyntiadau ar-lein
Er mwyn i gleifion fedru gweld y slotiau apwyntiad sydd ar gael yn yr ap, rhaid i’r practis sicrhau yn gyntaf eu bod ar gael i’w harchebu ar-lein yn y system glinigol.
Rydyn ni’n argymell bod unrhyw apwyntiadau sydd ar gael i’w harchebu dros y ffôn hefyd yn cael eu cynnig ar-lein drwy’r ap. Rydyn ni’n cydnabod bod practisiau wedi gorfod newid y ffordd maen nhw’n trefnu apwyntiadau yn ddiweddar. Mae’r ap yma i’ch cefnogi chi trwy’r newidiadau hyn.
Dyma enghreifftiau o apwyntiadau y gallai practis eu cynnig ar-lein:
- apwyntiadau arferol y gellir eu harchebu ymlaen llaw
- apwyntiadau brysbennu
- apwyntiadau cynorthwyydd gofal iechyd
- profion gwaed
- sgrinio serfigol (profion ceg y groth)
- apwyntiadau asthma/COPD
Po fwyaf o fathau o apwyntiadau y gallwch eu cynnig i’w harchebu ar-lein, y mwyaf y bydd pobl yn defnyddio’r ap a’r mwyaf o amser y bydd hyn yn ei arbed i staff y dderbynfa.
Fodd bynnag, mae hi fyny i bob practis i wneud y penderfyniadau am archebu ar-lein sydd fwyaf addas ar gyfer eich ffordd chi o weithio. Disgwylir y bydd meddygfeydd yn brysbennu cleifion cyn cynnig apwyntiad y gellir ei archebu. Gallwch ddefnyddio nodweddion yn eich systemau clinigol i gefnogi eich prosesau.
Gall y rhain gynnwys:
- defnyddio embargos, fel bod apwyntiadau ar gael ar-lein ar yr un pryd ag y bydd eich llinellau ffôn yn agor
- cyfyngu ar nifer yr apwyntiadau y gall cleifion fod wedi’u trefnu ar un adeg - ond sylwer y bydd hyn yn cyfyngu ar gyfanswm yr apwyntiadau, p’un a ydyn nhw’n cael eu trefnu ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb
- os yw ar gael yn y system a ddefnyddiwch, gofynnwch i’r claf nodi rheswm dros wneud apwyntiad; gall hyn helpu staff y dderbynfa i frysbennu a chysylltu ag unrhyw glaf sydd wedi trefnu apwyntiad nad yw’n addas
Mae’r dulliau’n amrywio mewn gwahanol systemau clinigol. Gallwch gael cymorth gan eich cyflenwr system. Rydyn ni wedi darparu canllawiau byr ar sicrhau bod eich apwyntiadau ar gael ar-lein o fewn systemau clinigol penodol.
Bydd Ap GIG Cymru yn dangos unrhyw apwyntiadau rydych wedi’u cynnig i’w harchebu ar-lein o fewn yr 16 wythnos nesaf.
Os ydych chi’n defnyddio offer fel eConsult, rhowch ddolen i hwn yn eich negeseuon y gellir eu haddasu.
Apwyntiadau - Beth ddylech chi ei wneud a’i osgoi
Gwneud
- Dylech ei gwneud yn glir os yw’r apwyntiad yn apwyntiad dros y ffôn neu ar-lein – e.e. “apwyntiad ffôn – cyffredinol” – gan gofio bod yn rhaid creu apwyntiadau ffôn fel “lleoliad” ar wahân.
- Dylech ddefnyddio iaith syml – yr oedran darllen cyfartalog yn y DU yw 9 oed.
- Dylech wneud pwrpas yr apwyntiad yn glir.
- Dylech nodi ar gyfer pa grwpiau y mae’r slot apwyntiad – e.e. “pobl dros 50 oed – brechlyn ffliw gaeaf”
Osgoi
- Peidiwch â defnyddio termau clinigol – e.e. “prawf gwaed” yn hytrach na “fflebotomi” (gweler A to Z of NHS health writing)
- Peidiwch â defnyddio termau fel “diofyn”, “rhyngrwyd” neu “embargo” – gan nad ydyn nhw’n gwneud unrhyw synnwyr i gleifion
- Peidiwch â chynnwys enw aelod o’r practis, amser neu leoliad – caiff y rhain eu harddangos ar wahân
Enwau clinigol – Beth ddylech chi ei wneud a’i osgoi
Gwneud
- Dylech gynnwys rhywedd yr aelod o’r feddygfa yn y maes enw drwy nodi (G) neu (B) – mae ymchwil yn dangos bod hyn yn bwysig i gleifion
Osgoi
- Peidiwch â chynnwys enw’r aelod o’r practis mewn enwau apwyntiadau – mae hyn yn achosi dryswch gan fod enw’r clinigwr yn cael ei arddangos ar wahân
Gwirio a newid enwau eich apwyntiadau
Mae’r dull o newid yr enwau yn dibynnu ar eich system glinigol.
EMIS: cyfarwyddiadau ar gyfer enwi apwyntiadau
Yn EMIS gall cleifion weld Enw’r Sesiwn a Math y Slot.
I newid Enw’r Sesiwn:
- Yn y tab “Appointment Book”, cliciwch ar “Create Session” ac yna dewis “Load from template”.
- Golygwch Enw’r Sesiwn a chliciwch ar “Save as template”.
- Os yw’r templed sesiwn hwn eisoes yn cael ei ddefnyddio, bydd naidlen yn ymddangos yn gofyn a ydych am ddiweddaru sesiynau presennol – dewiswch “Yes” i’w hail-enwi.
I newid y math o slot:
- Yn y tab “Appointment Book”, cliciwch ar “Appts Config” a dewiswch “Slot Types”.
- Cliciwch ar y math o slot rydych chi am ei olygu, a chliciwch ar “Edit”.
- Newidiwch yr Enw a chliciwch ar OK, ac yna OK eto.
Vision: cyfarwyddiadau ar gyfer enwi apwyntiadau
Bydd y claf yn gweld enw’r math o slot yn Ap GIG Cymru, nid yr enw VOS (Vision Online Services), felly mae angen i chi wirio enwau’r mathau o slotiau a’u newid os oes angen.
- O “Management Tools”, dewiswch Control Panel > File Maintenance > Online.
- O dan “Services”, dewiswch “Configure Appointments”.
- Dewiswch y tab “Slot Type”.
- Cliciwch ddwywaith ar y math o slot rydych chi am ei ddiweddaru.
- Golygwch enw’r math o slot.