Neidio i'r prif gynnwy

Cynhwysiant digidol a Hyrwyddwyr Digidol

Mae Strategaeth Digidol a Data Llywodraeth Cymru ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru (2023-2028) yn pwysleisio pwysigrwydd:  

  • Sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i gael mynediad i wasanaethau iechyd digidol ac elwa ohonynt 
  • Cynnwys pobl yn y gwaith o ddylunio a datblygu gwasanaethau digidol i ddiwallu eu hanghenion penodol 
  • Mynd i’r afael â heriau allgau digidol, megis diffyg mynediad at dechnoleg, sgiliau neu hyder 

Mae’r rhaglen Gwasanaethau Digidol ar gyfer Cleifion a’r Cyhoedd yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod pawb yng Nghymru yn teimlo’n hyderus wrth ddefnyddio dyfeisiau digidol a bod ganddynt y sgiliau, mynediad ac offer angenrheidiol gyda chymorth. Y nod yw cael hyrwyddwyr digidol a all helpu ledled Cymru drwy rwydweithiau mewn gwahanol leoliadau, megis byrddau iechyd, awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector. 

Defnyddiwch y dolenni isod i ddod o hyd i gymorth neu i gymryd rhan: