Rydyn ni eisiau rhannu gyda chi beth rydyn ni'n gweithio arno ar hyn o bryd a beth fyddwn ni'n ei ychwanegu yn y dyfodol agos.
Mae Ap GIG Cymru ar gael a gellir ei gyrchu drwy borwr gwe neu ar ddyfais symudol o:
Y fersiynau a argymhellir yw ar gyfer Apple iOS 14 a diweddarach, ac Android 10 a diweddarach.
Gallwch riportio problemau technegol o fewn yr Ap neu ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.
Yr hyn y gallwch ei wneud ar hyn o bryd yn yr Ap
- defnyddio eich mewngofnodi GIG i gofrestru a gwirio eich hunaniaeth
- darganfod gwasanaethau iechyd a gofal eraill
- rheoli dewisiadau rhodd gwaed ac organau
- dod o hyd i ddolenni i GIG 111 Cymru, Rhodd Organau a Gwasanaeth Gwaed Cymru
- defnyddio biometrigau (olion bysedd, wyneb neu iris)
- dod o hyd i ddolenni i dudalennau cymorth ac Ap
- anfon adborth drwy’r Ap
- cofrestru i ymuno â phaneli ymchwil defnyddwyr
- derbyn hysbysiadau gwthio ar gyfer presgripsiynau
- cael mynediad at Fy llinell amser Iechyd
- cael mynediad at Fy nhiwniadur Iechyd
Efallai y gallwch:
- archebu, gweld neu ganslo apwyntiadau
- archebu presgripsiynau ailadrodd a gweld meddyginiaethau presennol a blaenorol
- cael mynediad at eu cofnod iechyd Meddyg Teulu
os yw eich meddygfa wedi gwneud y rhain ar gael yn yr Ap.
Beth sy’n dod nesaf
- Mynediad awdurdodedig (rheoli gwasanaethau iechyd ar ran rhywun arall)
- Gwybodaeth am ofal eilaidd
- Enwebu fferyllfa