Mae nodwedd Darganfod gwasanaethau iechyd a gofal eraill yn Ap GIG Cymru yn darparu mynediad at wybodaeth, gwasanaethau a rhaglenni sgrinio gan Fyrddau Iechyd GIG Cymru, Ymddiriedolaethau a Gwasanaethau GIG eraill. Mae'n llyfrgell o adnoddau gan gynnwys apiau digidol a gwefannau sy'n cael eu cynnal ar wefan borth Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC).
Gall cleifion gael mynediad at nodwedd Darganfod gwasanaethau Iechyd a gofal eraill yn adran 'Mwy' Ap GIG Cymru, ond gellir ei chyrchu'n annibynnol o borwr gwe hefyd. Nid oes unrhyw integreiddio na chyfnewid data rhwng yr adnoddau hyn a gynhelir ac Ap GIG Cymru.
Darganfod gwasanaethau iechyd a gofal eraill
Gall adnoddau gynnwys dolenni i wefan neu Ap, ond dylent fod yn gysylltiedig ag Iechyd a Gofal yn unig. Mae rhai enghreifftiau o adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd trwy nodwedd Darganfod Gwasanaethau Iechyd a Gofal Eraill yn cynnwys 'Sgrinio'r Fron' a 'Pwysau Iach, Byw’n Iach'.
Ar hyn o bryd, dim ond Byrddau Iechyd GIG Cymru, Ymddiriedolaethau a Gwasanaethau GIG eraill all gyflwyno cais i ychwanegu dolen i wefan neu Ap at y porth.
Mae proses achredu wedi'i datblygu i sicrhau bod gwasanaethau a chymwysiadau digidol yn addas i'r cyhoedd eu defnyddio drwy lynu wrth safonau ansawdd, diogelwch a defnyddioldeb. Mae'r broses hon yn cynnwys gwerthuso cynhyrchion digidol yn erbyn meini prawf sefydledig i gadarnhau eu bod yn bodloni'r gofynion angenrheidiol.
Mae'r broses yn cynnwys tair rhan:
Bydd pob un o'r rhannau hyn yn cael eu gweithredu fel ffurflenni cipio data unigol gan ddefnyddio Microsoft Forms.
Mae rhagor o fanylion am y broses achredu a chanllawiau ar gyfer cwblhau'r ffurflenni ar gael yma
Os hoffech i'ch Ap neu’ch gwefan fod ar gael i gleifion drwy nodwedd Darganfod Gwasanaethau Iechyd a Gofal Eraill yn GIG Cymru, yna dechreuwch y broses achredu drwy gwblhau Rhan A.
Mae'r adrannau isod yn esbonio pob rhan yn fanylach.