Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r Ddyletswydd Gonestrwydd?

Mae’r Ddyletswydd Gonestrwydd yn ofyniad cyfreithiol i Sefydliadau GIG Cymru fod yn agored ac yn onest gyda’r defnyddwyr gwasanaethau sy’n derbyn gofal a thriniaeth. Amlinellir hyn yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020. Mae’r Ddyletswydd Gonestrwydd yn berthnasol os yw’r gofal a ddarparwn wedi, neu y gallai fod wedi cyfrannu at niwed cymedrol neu ddifrifol annisgwyl neu anfwriadol, neu farwolaeth.