Neidio i'r prif gynnwy

Beth allwch chi ei ddisgwyl?

Dyma grynodeb o’r Weithdrefn Dyletswydd Gonestrwydd y bydd y GIG yn ei dilyn:

  1. Wrth ddod yn ymwybodol bod y ddyletswydd gonestrwydd yn berthnasol, rhaid i’r GIG hysbysu’r defnyddiwr gwasanaeth neu’r unigolyn sy’n gweithredu ar ei ran. Dylai’r cyswllt hwn fod ‘yn bersonol’, sy’n golygu dros y ffôn, galwad fideo neu wyneb yn wyneb.
  2. Pwrpas hysbysu’r claf ‘yn bersonol’ yw cynnig ymddiheuriad, rhoi esboniad o’r hyn sy’n hysbys bryd hynny, cynnig cymorth, egluro’r camau nesaf a darparu manylion pwynt cyswllt.
  3. Anfonir llythyr at y defnyddiwr gwasanaeth neu’r unigolyn sy’n gweithredu ar ei ran o fewn pum diwrnod gwaith, a fydd yn cadarnhau’r hyn a ddywedwyd yn yr hysbysiad ‘yn bersonol’.
  4. Bydd y GIG yn cynnal ymchwiliad i ddarganfod yr hyn a ddigwyddodd a pham, a sut y gallwn ei atal rhag digwydd eto. Bydd hyn yn digwydd yn unol â Gweithdrefn ‘Gweithio i Wella’ GIG Cymru.
  5. Bydd y pwynt cyswllt enwebedig a ddarperir fel rhan o’r weithdrefn Dyletswydd Gonestrwydd yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am y broses hon a’r hyn a fydd yn digwydd nesaf.

Os nad ydych am i ni gysylltu â chi, neu os byddai’n well gennych i rywun weithredu ar eich rhan, rhowch wybod i ni a byddwn yn gwneud y trefniadau angenrheidiol.