Cyfarwyddwr Pobl a Datblygu Sefydliadol
Cyfarwyddwr Pobl a Datblygu Sefydliadol
Mae Sarah-Jane yn gymrawd siartredig o'r CIPD ac mae'n angerddol am amrywiaeth, rheoli talent ac iechyd a llesiant y gweithlu a'r gymuned ehangach. Mae hi wedi dylunio a chyflwyno nifer o fentrau i hyrwyddo a chadw talent a gwella llesiant, cydraddoldeb a chynhwysiant drwy gydol ei gyrfa hyd yn hyn.
Cyn dechrau yn y swydd yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW), mae Sarah-Jane wedi gweithio yn y llywodraeth a'r GIG ar lefel Cyfarwyddwr ers dros 25 mlynedd. Mae wedi arwain ar drawsnewid gwasanaethau yn ddigidol ar draws grwpiau gweithlu amrywiol yn y gwasanaeth sifil a gwasanaethau cyhoeddus.
Dechreuodd Sarah-Jane ei gyrfa yn yr Adran Iechyd fel gwas sifil, cyn symud i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol lle bu'n arwain timau ledled Cymru a Lloegr fel Pennaeth Corfforaethol a gwnaeth nifer o welliannau sylweddol. Derbyniodd wobr genedlaethol y llywodraeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol am hyrwyddo iechyd, datblygu a gwyrddu’r llywodraeth.
Ynghyd â nifer o uwch swyddi arwain yn y GIG, gan gynnwys gweithio i'r Rheoleiddiwr Iechyd i gefnogi gwell cynllunio gweithlu strategol a gweithio ar draws y system, daeth Sarah-Jane yn Gyfarwyddwr Gweithredol Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol yn y GIG ddechrau 2011. Mae ganddi gyfoeth o brofiad o hyrwyddo gwelliant sefydliadol drwy fabwysiadu ffyrdd newydd o weithio.