Neidio i'r prif gynnwy
Sam Morgan

Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl a Datblygu Sefydliadol

Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl a Datblygu Sefydliadol

Mae Sam Morgan yn ymuno â ni fel Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl a Datblygu Sefydliadol, gyda hanes cryf o ysgogi newid diwylliannol a gosod pobl wrth galon y broses o wneud penderfyniadau.

Mae gan Sam brofiad mewn rolau arweinyddiaeth uwch yng Ngweithrediaeth y GIG ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mewn sawl rôl Cyfarwyddwr Anweithredol yn y trydydd sector, lle bu’n darparu arweiniad strategol a throsolwg llywodraethu, gan alinio nodau gweithredol ag effaith gymdeithasol ehangach.

Bu Sam hefyd yn gweithio fel Cyfarwyddwr Pobl yn y sector addysg ac yn GE Healthcare. Mae ei harweinyddiaeth wedi bod yn allweddol wrth sefydlu fframweithiau sy’n seiliedig ar werthoedd ac ysgogi gwelliannau diwylliannol. Gyda’i hangerdd am arweinyddiaeth ystyriol, mae hi’n meithrin amgylcheddau lle mae unigolion yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a’u grymuso i ffynnu.

Yn Gymrawd o’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) a’r Academi Addysg Uwch, mae Sam wedi arwain mentrau arobryn, gan gynnwys cyd-ddylunio fframweithiau cenedlaethol ac arwain trawsnewid diwylliannol. Mae ei hymagwedd gydweithredol a’i harbenigedd mewn ymddygiad sefydliadol wedi ei galluogi i adeiladu partneriaethau cryf a chyflawni canlyniadau sy’n cydbwyso effeithlonrwydd gweithredol ag ethos sy’n canolbwyntio ar bobl.

Fel meddyliwr systemau, mae Sam wedi gweithio’n agos gydag uwch swyddogion gweithredol a chyrff y llywodraeth, gan ysgogi cydweithredu traws-system ac alinio nodau ag amcanion polisi ehangach i ddarparu datrysiadau arloesol i heriau cymhleth.
Gyda’i harbenigedd strategol, ei dull o arwain sy’n canolbwyntio ar bobl a’i phrofiad llywodraethu, mae Sam nawr yn cefnogi IGDC yn ein cenhadaeth i yrru trawsnewid digidol ym maes gofal iechyd.