Neidio i'r prif gynnwy
Marilyn Bryan-Jones

Aelod Annibynnol

Amdanaf i

Aelod Annibynnol

Mae Marilyn yn dod â chyfoeth amrywiol o brofiad sy'n cynnwys y Sector Preifat, y Sector Cyhoeddus a'r Trydydd Sector. Treuliodd y rhan fwyaf o'i bywyd yn gwneud gwaith gwirfoddol ochr yn ochr â’i gwaith cyflogedig. Cyn hynny, roedd yn Ymddiriedolwr Cyngor Cydraddoldeb Rhanbarthol. Bu’n gweithio gyda Strategaeth Tai Cyngor Caerdydd lle datblygodd bartneriaethau strategol i helpu dioddefwyr o aflonyddu hiliol. Hi hefyd oedd cydlynydd a sylfaenydd Prosiect Iechyd Meddwl Du ac Asiaidd Awetu.

Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant yw ei hangerdd, ac mae hyn yn amlwg mewn unrhyw gyfraniad mae hi’n ei wneud, boed hynny yn ei gwaith cyflogedig fel Hyfforddwr, Ymgynghorydd neu Hwylusydd neu fel gwirfoddolwr.

Ar hyn o bryd mae'n Llywodraethwr Cymunedol ac yn Gadeirydd Treftadaeth Caribïaidd Cymru ac mae hi newydd orffen ei rôl fel Llywydd Clwb Siarad. Mae Marilyn hefyd yn ymwneud â Hyfforddi Chwaraeon ac yn hyrwyddo ymarfer corff a symud a bwyta'n iach er mwyn gwella Iechyd Meddwl.