Neidio i'r prif gynnwy
Claire Osmundsen-Little

Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Sicrwydd Busnes

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Sicrwydd Busnes

Ymunodd Mrs Claire Osmundsen-Little â Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru fel Cyfarwyddwr Cyllid a Sicrwydd Busnes ym mis Mawrth 2019, o Ysbyty Treforys ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, lle’r oedd yn Gyfarwyddwr Cyllid Cysylltiol.  

Mae Claire yn Gyfrifydd Cymwysedig â Gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes o Brifysgol Warwick a Gradd BA (anrhydedd) mewn Cyfrifeg a Chyllid.  Cyn ymuno â’r GIG ym mis Mehefin 2016, gweithiodd Claire i Tata Steel am dros 20 mlynedd mewn uwch swyddi cyllid amrywiol yn ne Cymru, Ijmuiden yn yr Iseldiroedd, a Gwlad y Basg, Sbaen. Mae wedi bod yn gysylltiedig â datblygu a threfnu strategaethau ariannol trawsffurfiol, ac mae ganddi ddiddordeb mewn dadansoddi data a chyfleoedd ar gyfer effeithlonrwydd gofal iechyd.  Mae gan Claire ddiddordeb brwd mewn datblygu strategaethau digidol i helpu cefnogi Cymru Iachach.

Mae Claire a’i gŵr, Garry, yn byw yn Llanelli, gyda’i merched, sy’n efeilliaid.