Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol / Ysgrifennydd y Bwrdd
Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol / Ysgrifennydd y Bwrdd
Mae Chris Darling yn ymuno â'r sefydliad newydd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, lle mae ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Busnes Corfforaethol ac yn Bennaeth Staff i'r Prif Weithredwr. Mae'r cyfrifoldebau allweddol yn y rôl hon yn cynnwys arwain ar ymateb y Bwrdd Iechyd i'w statws uwchgyfeirio (Mesurau Arbennig ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth ac Ymyrraeth wedi'i Dargedu ar gyfer Ansawdd a Llywodraethu) a ddatblygu fframwaith gwella Cwm Taf Morgannwg ar gyfer Ansawdd a Llywodraethu.
Treuliodd Chris 10 mlynedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro lle bu'n ymwneud â chynllunio a rheoli strategol y Rhaglen Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Dechreuodd Chris ei yrfa fel archwilydd mewn cwmni cyfrifeg siartredig, gan archwilio a ymgymryd ag aseiniadau ymgynghori a oedd ymwneud yn bennaf â sefydliadau'r sector cyhoeddus. Ymunodd â'r GIG yn ardal Southampton yn 2004 cyn symud i Gymru yn 2007.