Neidio i'r prif gynnwy
Llun proffil o Alisistair Klaas Neill - Aelod Annibynnol
Alistair Klaas Neill GM

Aelod Annibynnol

Amdanaf i

Aelod Annibynnol

Mae Alistair yn cyfuno 20 mlynedd o rolau arwain yn gweithio i gwmnïau rhyngwladol yn y sector preifat gyda 2 ddegawd yn brif weithredwr yn y sector cyhoeddus. Ar ôl Unilever, daeth yn gyfarwyddwr marchnata ar gyfer adran BP yn y DU, cyn gweithio am 12 mlynedd mewn rolau Prif Swyddog Gweithredol ar gyfer BP a Masco Corp gan weithio ar Ymylon y Môr Tawel, Ewrop, UDA ac Asia. Gan symud i weithio ym maes llywodraeth leol yn Brif Swyddog Gweithredol Cyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful, arweiniodd welliannau pwysig yn y rhanbarth hwnnw. Yna cafodd Alistair ei recriwtio i Uned Gyflawni'r Prif Weinidog, gan arwain 2 adolygiad gallu a gyhoeddwyd o adrannau mawr y llywodraeth yn Whitehall.

Ar ôl bod yn Brif Swyddog Gweithredol Cyngor Dinas Southampton, daeth Alistair yn Brif Swyddog Gweithredol Cyngor Swydd Henffordd am 8 mlynedd. Yn Brif Weithredwr llywodraeth leol, roedd hyn yn cynnwys cyfrifoldeb cyffredinol am ofal cymdeithasol, iechyd y cyhoedd, gweithio ar y cyd â'r GIG, darparwyr iechyd eraill a chymunedau lleol. Arweiniodd Alistair yr ymateb i'r pandemig tan 2021, ar ôl bod yn Brif Swyddog Gweithredol rhanbarth Gorllewin Canolbarth Lloegr wrth weithio ar y cyd ag iechyd a gofal cymdeithasol, ac mewn gwelliannau i wasanaethau plant. Mae Alistair bellach yn Gynghorydd Sir ac yn Gadeirydd Pwyllgor Perfformiad a Throsolwg y Sir. Mae'n byw yn y Fenni ers 28 mlynedd ac mae wedi ennill Medal y Brenin Siôr, Medal Dewrder Cenedlaethol yr Heddlu, 2 Wobr Arwain Cymru ar gyfer y sector cyhoeddus a phob sector, a Gwobr Pride of Britain.