Neidio i'r prif gynnwy

Sut caiff gwybodaeth ei rhannu?

 

Caiff gwybodaeth ei rhannu'n aml rhwng sefydliadau GIG Cymru er mwyn:

  • sicrhau eich bod yn cael gofal o'r ansawdd uchaf
  • helpu i redeg a gwella'r GIG yng Nghymru
  • diogelu a gwella iechyd pobl eraill a helpu i greu gwasanaethau newydd.

Pan gaiff gwybodaeth ei rhannu, mae rheolaethau a sicrwydd llym ar waith i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu'n briodol a dim ond pan fo angen.

I gael rhagor o fanylion am sut mae GIG Cymru yn casglu gwybodaeth amdanoch chi a sut y gellir ei defnyddio, darllenwch Eich Gwybodaeth, Eich Hawliau neu Bolisi Preifatrwydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

 

Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI)

Mae WASPI yn fframwaith 'sengl' ar gyfer rhannu gwybodaeth yng Nghymru a gefnogir gan Lywodraeth Cymru. Mae'n helpu ac yn annog sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau i rannu gwybodaeth bersonol berthnasol yn gyfreithlon, yn ddiogel ac yn effeithiol.

Er 2016, mae tîm canolog WASPI wedi'i letya gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae'r tîm canolog hwn yn gyfrifol am gynnal a chadw, hyrwyddo a gwella parhaus y fframwaith a'i wefan.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r wefan WASPI, sy'n cynnwys rhestr o'r holl sefydliadau sydd wedi cofrestru ar gyfer WASPI a chopïau o Brotocolau Rhannu Gwybodaeth â Sicrwydd Ansawdd.