Un o brif amcanion rhaglen yr Adnodd Data Cenedlaethol (NDR) yw datblygu platfform data cenedlaethol newydd fel y bydd hi’n haws i weithwyr iechyd a gofal proffesiynol gael gwell gwybodaeth am ein gwasanaethau. Bydd yr NDR yn ei gwneud hi’n bosibl i ddadansoddwyr a gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol ddefnyddio’r wybodaeth i gael gwell darlun o gyflwr iechyd y genedl. Ond beth sydd ei angen i hwyluso hyn? Ac yn bwysicaf oll, sut rydym yn dangos i'n dinasyddion bod eu data wedi'u diogelu yn y broses?
Y pedwar conglfaen i Lywodraethu Gwybodaeth llwyddiannus yw atebolrwydd, tryloywder, diogelu a chydymffurfedd. Mae atebolrwydd yn ein gwneud yn gyfrifol am gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth ac yn dweud bod yn rhaid i ni allu dangos ein bod yn cydymffurfio â safonau uchel preifatrwydd. Rydym hefyd yn arfer hawliau unigolion ac yn rhoi rhagor o reolaeth i bobl dros eu data. Bod yn agored ac yn onest am yr hyn a wnawn gyda chontractio cymorth data personol a rhannu data gyda thrydydd parti.
Agwedd allweddol arall yw diogelu rhag tor diogelwch data, arferion llwgr a cholli data er mwyn diogelu data ein dinasyddion. Yn olaf, mae gan yr NDR a'i ddefnyddwyr ddyletswydd i gydymffurfio â chyfreithiau, rheoliadau, safonau a pholisïau sefydliadol cymwys. Mae hygrededd a statws cyfreithiol yr NDR yn dibynnu ar ei allu i ddangos ei fod yn cynnal ei weithgareddau mewn modd cyfreithlon ac yn rheoli risgiau gwybodaeth yn effeithiol.
Un o brosiectau presennol yr NDR yw gweithredu Fframwaith Llywodraethu Gwybodaeth. Nod y prosiect hwn yw sicrhau bod prosesau cadarn ar waith ar gyfer unrhyw brosiect NDR sy'n defnyddio gwybodaeth bersonol adnabyddadwy a setiau data wedi’u hamhersonoli. Trwy'r broses hon gallwn sicrhau bod y prosiectau a'r gwasanaethau yn bodloni'r safonau gofynnol mewn perthynas â'r conglfeini ar gyfer prosesu cyfreithlon ac ar gyfer diogelu data ein dinasyddion, gan greu ymddiriedaeth a hyder yn y systemau a'r gwasanaethau a gynigiwn.