Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw Platfform Data?

 

 

 

Beth yw Platfform Data? 

Platfform data yw set integredig o dechnolegau sy’n cydweithio i fodloni anghenion data sefydliad o'r dechrau i'r diwedd. Mae'n galluogi caffael, storio, paratoi, darparu a llywodraethu eich data, yn ogystal â haen o ddiogelwch ar gyfer defnyddwyr a chymwysiadau. Mae defnyddio platfform data yn allweddol i ganfod gwerth eich data. Mae'r cysyniad platfform data wedi'i lunio'n bennaf ar sail technolegau cwmwl, gan fod warysau data sydd eisoes yn defnyddio technoleg cwmwl bellach yn cael eu prosesu ar y cyd. Gall piblinellau data drin terabytes o ddata. Mae storio bellach yn rhad ac yn gyflym, a gall fframweithiau prosesu data drin llawer iawn o ddata.

Y gallu i gadw a phrosesu data ansafonol y tu allan i gronfeydd data perthynol ac ychwanegu cymhlethdod a gwerth at y data a gedwir, tra bod Deallusrwydd Artiffisial a Dysgu Peirianyddol yn cynnig offer newydd pwerus i adeiladu ar sut y defnyddir y data. Yr her sy’n ein hwynebu yw bod seilos data nad oes modd eu hehangu, yn cynnwys data dyblyg, sy’n aml yn hen, wedi’u cloi mewn atebion perchnogol, ac nid oes ganddynt haen o ddiogelwch. Mae’r platfform data modern yn ceisio datrys y broblem hon. Mae'n gyfuniad o dechnolegau rhyngweithredol, a mae modd eu hehangu a’u newid yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni ein gofynion lefel menter cyffredinol ar gyfer data. 

Y Platfform Data, yr Adnodd Data Cenedlaethol a GIG Cymru 

 Mae’r Adnodd Data Cenedlaethol wedi sefydlu pensaernïaeth gysyniadol a rhesymegol ar gyfer y platfform data sydd ei angen i gefnogi amcanion y rhaglen. Wrth wneud hynny mae modd nodi galluoedd gofynnol y bensaernïaeth. Gwnaeth ymgysylltiad pellach â Gartner asesiad o'r darparwyr Cwmwl  gan ddefnyddio fframwaith gwerthuso yn seiliedig ar y galluoedd hyn a’n hanghenion.

Yn seiliedig ar y gwaith hwn a'n hymchwiliadau mewnol yn ogystal â'n strategaeth aml-gwmwl, rydym wedi caffael mynediad i gynhyrchion a gwasanaethau Google Cloud i gyflawni galluoedd allweddol y platfform data. Bydd y prosiect hwn yn cyflawni ffrydiau gwaith y Platfform Data a Phensaernïaeth Rheoli Data o’r Map Trywydd Strategaeth Data. Amcan y prosiect yw sefydlu Platfform Data yr Adnodd Data Cenedlaethol a fydd yn cefnogi'r galluoedd a ddisgrifir yn y bensaernïaeth data cysyniadol a rhesymegol yn y strategaeth ddata a darparu'r amgylchedd a'r offer er mwyn i sefydliadau gaffael, trefnu, dadansoddi, darparu, sicrhau a llywodraethu data iechyd a gofal: 

Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy bensaernïaeth a ddarperir trwy Google Cloud Platform (GCP) a bydd y prosiect yn cynnwys: 

  • Pecyn Gwaith 1 - Caffael ailwerthwr ar gyfer gwasanaethau cwmwl ac ymgynghori Google 

  • Pecyn Gwaith 2 - Dylunio a chomisiynu’r amgylchedd Google Cloud Platform ar gyfer GIG Cymru 

  • Pecyn Gwaith 3 - Dylunio a chomisiynu platfform data (gan gynnwys dylunio rhesymegol a phrosesau dylunio a sicrwydd seiberddiogelwch a chysylltiadau rhwydwaith cadarn) 

  • Pecyn Gwaith 4 - Rheoli Gwasanaeth cyfan ar gyfer y Platfform Data (gan gynnwys llywodraethu a Sicrwydd ar gyfer y platfform a phrosesau ar gyfer sefydlu datrysiadau technegol a setiau data pellach). 

 

Ble ydyn ni nawr?

Mae'r cynnydd sylweddol i’w weld o ran y prosiect ac mae ymarfer caffael wedi’i gwblhau gyda chontract ar gyfer cytundeb fframwaith yn ei le gydag ailwerthwr. Ar draws y pecynnau gwaith eraill bu cynnydd o ran nodi gwasanaethau i'w darparu gan y prosiect a sut maent yn ymddangos mewn perthynas â maes pensaernïol y platfform. Yn ogystal, mae’r gwaith i sefydlu'r timau gofynnol i gefnogi a gweithredu'r gwasanaethau hyn ar y gweill.  

O ran datblygu’r prosiect, mae’r darn o waith i adeiladu a phrofi'r bensaernïaeth gan ddefnyddio dau brif achos defnydd ar y gweill; bydd un yn canolbwyntio ar ffrydio data i'r platfform gan drosi'n broffil FHIR a galluogi’r data i gael ei brosesu a dadansoddi. Mae'r achos defnydd arall yn canolbwyntio ar ddiweddariad swp o ddata a fydd hefyd yn cael ei brosesu, ei storio a'i ddadansoddi. Unwaith y bydd y bensaernïaeth wedi'i phrofi'n briodol a’r dyluniad wedi'i gadarnhau, bydd y datblygiadau'n symud ymlaen i gam profi a chynhyrchu yn barod ar gyfer cwblhau'r gwaith sicrwydd a llywodraethu. Bydd yr amgylcheddau hyn yn cael eu cydgysylltu â rhwydwaith GIG Cymru gan ganiatáu i staff y GIG eu defnyddio yn ôl yr angen.

Manteision ar gyfer Cymru Iachach

Mantais allweddol y prosiect fel galluogwr yw’r ffaith bod yr Adnodd Data Cenedlaethol yn ceisio darparu llawer o fanteision o ran ansawdd data, argaeledd data a hyd yn oed buddion ariannol o’r gwaith y bydd yn ei gyflawni. Bydd holl fuddion yr Adnodd Data Cenedlaethol yn y dyfodol ar gael drwy set offer wedi’i hysgogi gan safonau unigol i reoli a defnyddio'r data a gedwir ar draws y sbectrwm Iechyd a Gofal yng Nghymru yn effeithiol.