Neidio i'r prif gynnwy

Profi Olrhain Diogelu

 

Cefnogodd yr Is-adran Gwasanaethau Gwybodaeth y datrysiad Profi Olrhain Diogelu dros dro trwy ddarpariaeth rhestrau taenlen i dimau olrhain Awdurdodau Lleol, yn seiliedig ar ddata canlyniadau gan System Rheoli Gwybodaeth Labordai (LIMS) ar labordai Cymru, ynghyd â data canlyniadau eraill gan y Rhwydwaith Labordai Goleudy.

Yn dilyn hynny, treuliodd yr Is-adran Gwasanaethau Gwybodaeth gryn dipyn o amser yn deall y strwythurau data cymhleth sy'n is na'r system Profi Olrhain Diogelu byw, a ddatblygwyd gan ddefnyddio Microsoft CRM. Mae hwn yn cynnwys mwy na chant o dablau cronfeydd data a rhai miloedd o golofnau, ac felly er mwyn symleiddio hyn ar gyfer dadansoddi ac adrodd, mae’r data hyn wedi’u trosi yn dair tudalen cronfa ddata cryno hawdd eu defnyddio, wedi’u lleoli yng nghronfa ddata Azure SQL yn y Cwmwl, sy’n cael ei diweddaru yn agos at amser real, wrth i wybodaeth gael ei hychwanegu i’r system Profi Olrhain Diogelu.

Mae'r tudalennau hyn hefyd yn cael eu tynnu i warws data Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) bob 6 awr, gan sicrhau eu bod ar gael i fyrddau iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) a sefydliadau GIG Cymru eraill, mewn amgylchedd lle gellir cysylltu cofnodion â ffynonellau iechyd eraill.

Yn unigryw ar gyfer data Profi Olrhain Diogelu, mae NWIS, ICC a'r Awdurdodau Lleol i gyd yn gyd-reolwyr data, ac felly mae data wedi dechrau bod ar gael i awdurdodau lleol trwy gronfa ddata Azure SQL, ac, mewn gwirionedd, mae staff awdurdodau lleol Caerdydd wedi bod yn cefnogi datblygiad adroddiadau Power BI gan ddefnyddio'r mecanwaith hwn.

Mewn perthynas ag adrodd, mae’r Is-adran Gwasanaethau Gwybodaeth (gyda chefnogaeth gan Awdurdod Lleol Caerdydd a BIP Betsi Cadwaladr) wedi sicrhau bod cyfres o ddangosfyrddau ar gael i staff y GIG a'r Awdurdod Lleol trwy ddau ap Power BI. Mae'r cyntaf yn cynnwys ystadegau lefel uchel am niferoedd yr achosion cyfeirio a chyswllt, niferoedd (a chanrannau) y rhai a olrheiniwyd yn llwyddiannus, a'r niferoedd a olrheiniwyd o fewn 24 a 48 awr. Mae cael mynediad i’r ail ap yn fwy cyfyngedig, gan ganiatáu i ddefnyddwyr gweithredol a thimau gwyliadwriaeth iechyd y cyhoedd dwrio i achosion unigol, a nodi mannau problemus o ran yr haint neu archledaenwr fel y'u gelwir.

Mae'r adroddiadau sydd wedi'u cynnwys yn y ddau ap Power BI yn cael eu diweddaru'n awtomatig bob 2 awr, gan ddefnyddio porth Power BI sydd newydd ei osod gan Is-adran Gwasanaethau Gwybodaeth. Mae mynediad yn cael ei reoli trwy gyfres o grwpiau cyfeiriadur gweithredol, gyda mecanwaith wedi'i ddatblygu i ychwanegu defnyddwyr nad ydynt yn y GIG i gyfeiriadur gweithredol er mwyn i staff awdurdod lleol a staff LlC gael mynediad diogel i'r apiau hyn. Oherwydd cyfyngiadau diogelwch ochr LlC, mae problemau o hyd o ran mynediad i staff LlC, ond mae staff o bob un o'r 22 awdurdod lleol yn gallu cael mynediad i'r adroddiadau hyn yn llwyddiannus.

Mae Is-adran Gwasanaethau Gwybodaeth yn parhau i weithio â LlC, ICC ac Awdurdodau Lleol i ychwanegu at yr ystod o adroddiadau sydd ar gael trwy’r ddau ap Power BI.