Data swyddogol yw hwn ac mae’n cynnwys gwybodaeth o 2016/17 i 2021/22 (echdynnwyd y data ar gyfer 2021/22 o’r gronfa ddata Gofal Cleifion a Dderbyniwyd yng Nghymru ar 3 Hydref 2022).
Mae’r dangosfwrdd yn cynnwys ffigyrau pennawd sy'n ymwneud â derbyniadau i ysbytai (cleifion mewnol, cleifion allanol a derbyniadau mamolaeth) sydd ar gael i’w gweld ar-lein neu i’w lawrlwytho mewn fformat dogfen gludadwy (PDF); a thablau data rhyngweithiol yn cynnwys dadansoddiad ar wahân yn ôl diagnosis, llawdriniaeth, arbenigedd, Grŵp Adnoddau Gofal Iechyd, Bwrdd Iechyd Lleol preswylfa arferol y claf a gwybodaeth presenoldeb rheolaidd.
Mae’r data ar gyfer 2014/15 ar gael i’w lawrlwytho ar ffurf Excel a PDF trwy glicio ar y ddolen isod