Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Ap GIG Cymru (yr ap) yn y cam Beta Cyhoeddus ar hyn o bryd. Mae hyn yn golygu bod y gwasanaeth yn fyw ac ar gael i’r cyhoedd, er bod yr ap yn dal i gael ei ddatblygu a’i brofi.

Mae’r ap yn darparu ffordd syml a diogel i gleifion gael mynediad at ystod o wasanaethau ar eu dyfeisiau symudol neu borwr gwe. 

 
Mae’r ap yn galluogi cleifion i: 

  • chwilio am gyngor meddygol gan wasanaeth ar-lein 111 GIG Cymru 
  • nodi eu dewisiadau o ran rhoi organau a gwaed  
  • darganfod gwasanaethau iechyd a gofal eraill, megis rhaglenni sgrinio 

 
Os yw eich practis yn fyw yn yr ap, yn dibynnu ar y gwasanaethau rydych chi’n eu cynnig, bydd eich cleifion hefyd yn gallu: 

  • gwneud a chanslo apwyntiadau 
  • archebu presgripsiynau rheolaidd 
  • gweld eu cofnod iechyd meddyg teulu yn ddiogel 
  • defnyddio Llinell Amser Fy Iechyd a Fy Nghofnod Iechyd 

Bydd mwy o nodweddion GIG Cymru yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol. Wrth i’r nodweddion hyn ddod ar gael, bydd y pecyn cymorth hwn yn cael ei ddiweddaru. 

Mae’r manteision i’ch practis meddyg teulu

  • Mae’r ap yn cefnogi gweithgareddau sy’n gritigol o ran amser ar gyfer staff, fel rhyddhau amser a dreuliwyd yn flaenorol yn y dderbynfa yn trefnu apwyntiadau a chymryd archebion presgripsiynau rheolaidd dros y ffôn 
  • Mae’n darparu mynediad haws a mwy cyfleus i gleifion at wasanaethau’r practis, ar amser sy’n gyfleus iddyn nhw 
  • Mae’n gwella gofal cleifion trwy well defnydd o ddatrysiadau digidol 

Pwy all ddefnyddio Ap GIG Cymru         

I ddefnyddio Ap GIG Cymru, mae’n rhaid i gleifion: 

  • fod wedi cofrestru gyda phractis meddyg teulu yng Nghymru 
  • fod yn 16 mlwydd oed neu’n hŷn 
  • fedru profi pwy ydyn nhw (ID llun fel pasbort neu drwydded yrru) 
  • feddu ar eu cyfeiriad e-bost unigol eu hunain, oherwydd bod y cyfeiriad e-bost yn gweithredu fel dynodwr unigryw ar gyfer cyfrif NHS login 

Gall cleifion lawrlwytho’r ap i’w dyfeisiau iOS neu Android (chwiliwch am “Ap GIG Cymru”/“NHS Wales App” yn yr App Store/Google Play), neu ddefnyddio’r ap ar borwr gwe (https://app.nhs.wales a https://ap.gig.cymru).  

Mynediad cleifion i wasanaethau meddyg teulu  

NHS login a lefelau dilysu 

 
Er mwyn gallu mewngofnodi a defnyddio’r ap, mae’n rhaid bod gan ddefnyddwyr NHS login.  

Mae dwy lefel o ddilysu ar gael ar NHS login. 

  1. Dilysu lefel ganolig: Mae’r claf yn darparu eu rhif GIG, dyddiad geni a chod post eu cyfeiriad cartref fel y’i cofrestrwyd gyda’u practis meddyg teulu. Nid yw’r lefel hon o fynediad yn caniatáu mynediad at wybodaeth bersonol, gwasanaethau fel apwyntiadau ac archebu presgripsiwn, na chofnodion iechyd ar yr ap. 

  1. Dilysu lefel uchel: Rhaid i’r claf brofi pwy ydyn nhw gydag ID llun dilys a sgan wyneb neu fideo. Ar y lefel hon, gall cleifion gael mynediad at yr holl wasanaethau y mae eich practis yn eu darparu ar-lein, gan gynnwys apwyntiadau, presgripsiynau a chofnodion iechyd. 

Noder: Nid yw’r llwybr cofrestru ar gyfer NHS login sy’n galluogi cleifion i gofrestru heb ID llun drwy ddefnyddio llythyr dilysu o’u practis, o’r enw Gwasanaeth Dilysu Hunaniaeth Cymru (WIVS), ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda NHS login i alluogi hyn. Ar hyn o bryd, os na all cleifion brofi pwy ydyn nhw gydag ID llun, ni allant gael dilysiad lefel uchel, ac ar hyn o bryd ni fyddant yn gallu defnyddio gwasanaethau ar-lein meddygon teulu o fewn Ap GIG Cymru. 

Mwy o wybodaeth am reolau defnyddio NHS login 

Atodiad 1: Mae gwiriadau lefel GIG a mynediad i’r ap yn dangos at ba ddiben y gall cleifion ddefnyddio’r ap, yn dibynnu ar y newidiynnau hyn. 

Mynediad drwy ddirprwy 

Bydd Ap GIG Cymru yn cynnig mynediad drwy ddirprwy cyn bo hir. Bydd hyn yn golygu y bydd cleifion yn gallu defnyddio’r ap ar ran plentyn dan oed neu fel gofalwr. Bydd rhagor o fanylion ar gael maes o law. 

 

Cymorth a chefnogaeth

Dod o hyd i help a chefnogaeth ar gyfer defnyddio Cegedim

Dod o hyd i help a chefnogaeth ar gyfer defnyddio Emis