YR

PERFFORMIAD

ADRODDIAD

A D R O D D I A D    P E R F F O R M I A D .

• Perfformiad Trosolwg

Mae'r adroddiad perfformiad yn rhoi crynodeb o'n cyflawniadau, ein perfformiad a’n heriau allweddol. Mae'n manylu ar sut rydym wedi perfformio yn erbyn ein cynlluniau a thargedau Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn disgrifio sut rydym wedi cynnal ffocws ar ansawdd.

  • EIN
  • GWELEDIGAETH
  • EIN
  • GWELEDIGAETH
  • EIN
  • GWELEDIGAETH

Darparu gwasanaethau digidol o’r radd flaenaf, gan rymuso pobl i fyw bywydau iachach.  

  • EIN
  • PWRPAS
  • EIN
  • PWRPAS
  • EIN
  • PWRPAS

Gwneud digidol yn rym er gwell ym maes iechyd a gofal.  

Pwy ydym ni
a beth rydym ni’n ei wneud

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn Awdurdod Iechyd Arbennig sydd â rôl unigryw o ran darparu gwasanaethau digidol, data a thechnoleg cenedlaethol i gefnogi darparu iechyd a gofal yng Nghymru. Fe’n sefydlwyd o dan statud ar 1 Ebrill 2021, ac rydym yn cael ein hariannu’n bennaf gan Lywodraeth Cymru ac yn gweithio’n agos ac mewn partneriaeth â byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, gofal sylfaenol, gofal cymdeithasol, gwyddorau bywyd, diwydiant a’r byd academaidd.

Mae ein cymwysiadau digidol yn galluogi staff iechyd a gofal i gofnodi a chyrchu’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt yn y lle cywir, ar yr amser cywir, i gefnogi gwneud penderfyniadau gwybodus. Rydym yn gweithredu dwy ganolfan ddata genedlaethol ac rydym yn rheoli seilwaith digidol cenedlaethol mawr, gan gynnwys seiberddiogelwch.

Mae ein gwaith yn cefnogi ymchwil, arloesi a thrawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i gyflawni canlyniadau iechyd a lles gwell i bobl yng Nghymru. Rydym yn cyflwyno rhaglenni trawsnewid digidol cenedlaethol gan gynnwys yr Adnodd Data Cenedlaethol, Moddion Digidol, dwy raglen newid diagnostig, systemau digidol newydd ar gyfer gofal dwys a gofal mamolaeth, gofal sylfaenol cenedlaethol, iechyd cymunedol ac iechyd meddwl, Dewis Fferyllfa a brechlynnau.

Rydym yn gweithio i ddarparu mynediad digidol gwell i’r cyhoedd drwy Ap GIG Cymru i alluogi pobl i reoli eu hiechyd a’u lles eu hunain yn fwy effeithiol.

Rydym yn rhoi pobl wrth wraidd yr hyn a wnawn, gan weithio gyda phartneriaid i ddarparu gwasanaethau digidol a data ar gyfer iechyd a gofal yng Nghymru. Rydym yn gwerthfawrogi ein staff ac yn gweithio i wneud IGDC yn lle cefnogol a boddhaus i weithio iddo. Cydnabuwyd IGDC fel y lle gorau i weithio i weithwyr TG proffesiynol yn y DU gan Gymdeithas Cyfrifiaduron Prydain (BCS) yn 2020 ac eto yn 2022.

Fel aelod allweddol o deulu GIG Cymru, rydym yn datblygu ac yn darparu’r systemau a’r gwasanaethau digidol sy’n cefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddarparu gofal diogel ac effeithiol.

Mae ein heffaith yn amlwg drwy'r mwy na 100 o wasanaethau gweithredol a ddefnyddir bob dydd gan ein partneriaid.

Mae IGDC wedi’i strwythuro i saith cyfarwyddiaeth:

Strategaeth Ddigidol

Gwasanaethau Gweithredol

Clinigol

Gwasanaethau Digidol Cymunedol, Sylfaenol ac Iechyd Meddwl

Pobl a Datblygiad Sefydliadol

Cyllid a Sicrwydd Busnes

Llywodraethu Corfforaethol a Chyfathrebu

Mae mwy na hanner ein gweithwyr yn weithwyr technegol, gan gynnwys peirianwyr meddalwedd, dadansoddwyr data a phenseiri digidol. Mae ein model gweithredu hybrid yn golygu bod ein staff yn elwa o gyfuniad o gydweithio yn un o'n swyddfeydd a gweithio gartref.

Llwyddodd IGDC i ennill gwobr ‘Safon Aur’ mewn Gwiriad Statws Uwch yn y Safon Iechyd Corfforaethol

ym mis Mai 2023. Dyfernir y wobr i gyflogwyr sy'n rhagori ym maes iechyd a llesiant yn y gweithle.

Dywedodd yr aseswyr:“Roedd hi’n amlwg iawn bod ethos a diwylliant llesiant IGDC yn rhagorol, yn flaengar ac yn gynhwysfawr ac wedi’i ddatblygu i fod yn gwbl strategol o ran ymagwedd. Mae’n amlwg bod llesiant wrth wraidd popeth y mae IGDC yn ei wneud.”

Crynodeb o’r

dadansoddiad perfformiad

Crynodeb o’r

dadansoddiad perfformiad

Gyda thair blynedd lwyddiannus fel Awdurdod Iechyd Arbennig (AIA), mae IGDC yn parhau i ehangu ei rôl arweinyddiaeth ddigidol. Mae ein gweithlu wedi cynyddu o 1,030 i 1,177 yn 2023/24, gyda chyfanswm cyllid (refeniw a chyfalaf) o £186.0m. Rydym yn darparu mwy na 100 o wasanaethau digidol gwydn, technolegau, a gwybodaeth sy'n hanfodol ar gyfer darparu gofal iechyd.

Eleni, cyhoeddwyd ein strategaeth hirdymor a nifer o strategaethau ategol gan gynnwys:

Yn ystod y flwyddyn, trosglwyddwyd llywodraethu rhaglenni digidol allweddol i IGDC. Gwnaethom sefydlu Pwyllgor Cyflawni Rhaglenni i roi sicrwydd a chraffu ar gyflawni rhaglenni mawr a gynhelir gan IGDC mewn modd agored a thryloyw. Yn ogystal, sefydlwyd swyddfa rheoli rhaglen newydd i symleiddio a safoni prosesau llywodraethu rhaglenni a llywio'r broses o wneud penderfyniadau a chyflawni.

CENHADAETH 1

Darparu platfform ar gyfer galluogi trawsnewid digidol

Rydym yn darparu platfform ar gyfer trawsnewid digidol trwy ddiogelu data, seilwaith a gwybodaeth, a thrwy agor pensaernïaeth GIG Cymru i alluogi rhannu data yn gyflymach gyda phartneriaid a chyflenwyr, gan gefnogi gofal cyson cydgysylltiedig.

CENHADAETH 2

Darparu cynhyrchion a gwasanaethau digidol o ansawdd uchel

Wrth i dechnoleg ac anghenion iechyd a gofal esblygu, rydym yn datblygu ac yn darparu gwasanaethau safonedig i ddarparwyr iechyd a gofal Cymru, yn ogystal â darparu gwasanaethau newydd yn gyflym i ymdopi â sefyllfaoedd nas rhagwelwyd, wrth gefnogi effeithlonrwydd a gwelliannau mewn prosesau gofal yr un pryd.

CENHADAETH 3

Ehangu’r cofnod iechyd a gofal digidol a’r defnydd o ddulliau digidol i wella iechyd a gofal

Mae gwybodaeth glinigol a gofal iechyd i ddinasyddion yng Nghymru ar gael i'w darparwyr gofal drwy'r cofnod iechyd a gofal digidol, pryd bynnag a lle bynnag y bo ei hangen, gan helpu i wella ansawdd triniaeth. Wrth symud ymlaen, bydd mwy o elfennau'r cofnod ar gael yn uniongyrchol i ddinasyddion.

CENHADAETH 4

Ysgogi gwerthoedd a chanlyniadau gwell drwy arloesi

Mae'r angen am ddata cywir ar gyfer mewnwelediadau a dadansoddeg yn bwysicach nag erioed i wella iechyd a gofal. System wedi’i sbarduno gan ddata sy’n cefnogi gwerth mewn gofal iechyd trwy wybodaeth amserol i helpu i wneud penderfyniadau a sicrhau canlyniadau gwell.

CENHADAETH 5

Bod yn bartner strategol dibynadwy ac yn sefydliad cynhwysol ac uchelgeisiol o ansawdd uchel

Mae bod yn un o sefydliadau GIG Cymru yr ymddiriedir ynddo yn allweddol i gyflawni gweledigaeth Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn llwyddiannus a chyflawni popeth a ddisgwylir gennym.

Cenadaethau

Yn ystod y flwyddyn rydym wedi datblygu ein strategaeth hirdymor sy’n nodi’r rôl y byddwn yn ei chwarae yn y system iechyd a gofal yng Nghymru dros y chwe blynedd nesaf. Mae'r strategaeth yn adeiladu ar ein cenadaethau, sef y pileri canolog sy'n arwain ein Cynllun Tymor Canolig Integredig (CTCI). Mae'n disgrifio ein hamcanion strategol a'r effaith drawsnewidiol yr ydym yn disgwyl ei chael ar ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal.

Mae ein pum cenhadaeth yn rhoi golwg strwythuredig o'n gweithgaredd, a'r hyn yr ydym yn ei wneud i wella technolegau digidol a data i gefnogi gwell gwasanaethau iechyd a gofal. Mae’r cenadaethau yn arwain sut rydym yn rheoli darpariaeth ar draws ein sefydliad, gan ein helpu i flaenoriaethu buddsoddi ac adnoddau ar draws gwasanaethau byw a rhaglenni trawsnewid.

Mae’r pedair cenhadaeth gyntaf yn canolbwyntio ar yr hyn yr ydym yn ei wneud, gyda gweithgareddau wedi’u rhannu’n 14 portffolio cyflawni. Mae'r bumed genhadaeth strategol yn canolbwyntio ar sut rydym yn gweithio fel sefydliad, gyda gweithgareddau wedi'u rhannu'n chwe galluogwr strategol.

Mae’r Adnodd Data Cenedlaethol (NDR) yn rhaglen gydweithredol a fydd yn darparu platfform data cwmwl modern ledled Cymru. Wedi'i lansio ym mis Awst 2023, mae Platfform Data NDR yn galluogi rhannu data di-dor rhwng platfformau cenedlaethol a lleol. Mae gweithredu cynnyrch rheoli Rhyngwynebau Rhaglennu Cymwysiadau Google Apigee (API) wedi symleiddio cyfathrebu â chynhyrchion ein cyflenwr.

Rydym yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi GIG Cymru gyda seilwaith cenedlaethol helaeth, gan gynnwys canolfannau data, seilwaith rhwydwaith, gwasanaethau seiberddiogelwch, cymorth dyfeisiau defnyddwyr terfynol a gwasanaethau cydweithredu. Mae trosglwyddo i ganolfan ddata newydd wedi gwella ein hargaeledd gwasanaeth i 99.984%. Mae’r ganolfan ddata newydd yn cefnogi ein Cynllun Datgarboneiddio, ac rydym yn parhau i leihau allyriadau sydd wedi gostwng 43% eleni o gymharu â’n blwyddyn waelodlin yn 2019-20.

Rydym wedi datblygu Fframwaith Llywodraethu Gwybodaeth (IG) newydd, sy’n helpu i fonitro a gwella dealltwriaeth o arferion trin gwybodaeth cyfrifol ledled Cymru. Mae'r fframwaith hwn yn gosod safonau uchel ar gyfer rheoli gwybodaeth ac yn rhoi'r offer i sefydliadau gyrraedd y safonau hyn.

Rydym yn datblygu ac yn darparu systemau a gwasanaethau digidol o ansawdd uchel sy’n hanfodol i’n partneriaid ar draws GIG Cymru ddarparu iechyd a gofal effeithiol.

Mae portffolio rhaglenni IGDC wedi ehangu, gyda rhaglen System Rheoli Gwybodaeth Labordy (LIMS) a rhaglen Caffael System Gwybodeg Radioleg (RISP) yn cael eu trosglwyddo i IGDC o Raglen Gydweithredol GIG Cymru ym mis Ionawr 2023. Gan weithio’n agos gyda byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru, mae gennym bellach gynllun masnachol a chyflawni integredig clir a fydd yn moderneiddio tirwedd diagnosteg. Yn yr un modd, trosglwyddwyd y Rhaglen Ddigido Gofal Llygaid i IGDC o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a byddwn yn ceisio gweithredu rhagdybiaethau cynllunio Llywodraeth Cymru dros y flwyddyn nesaf.

Nod y weledigaeth ar gyfer gofal wedi'i gynllunio yng Nghymru yw diwallu anghenion clinigol cleifion yn well, o atgyfeirio effeithiol i gael at driniaeth briodol ar yr amser ac yn y lle cywir. Rydym yn chwarae rhan arwyddocaol yn hyn, drwy gefnogi gweinyddiaeth cleifion ar hyd eu taith gofal drwy systemau fel WPAS (System Gweinyddu Cleifion Cymru).

WPAS yw'r brif ffynhonnell o ddata gweinyddol ar gyfer cleifion mewn lleoliad gofal eilaidd, sy'n cadw manylion adnabod cleifion, ac yn cofnodi manylion ymweliadau cleifion ag ysbytai, gan gynnwys rheoli rhestrau aros, cofnodion meddygol, triniaeth cleifion mewnol, apwyntiadau cleifion allanol ac ymweliadau brys. Eleni, lansiodd IGDC enghraifft gyfunol o’r WPAS ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gan wella mynediad at wybodaeth cleifion a rhyngweithiadau ar draws yr ardal – gan arbed amser, cynyddu diogelwch cleifion a gwella profiad cleifion.

Ym mis Tachwedd 2023, cleifion yn y Rhyl oedd y cyntaf yng Nghymru i elwa ar Wasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) newydd, gan alluogi meddygon teulu i anfon presgripsiynau ar-lein yn ddiogel i fferyllfa gymunedol ddewisol y claf, gan ddileu’r angen am ffurflenni papur. Hyd yn hyn, mae fferyllfeydd wedi prosesu 1,457 o bresgripsiynau drwy'r system.

Rydym yn cefnogi defnyddwyr gofal sylfaenol drwy ddarparu gwasanaethau cyfrifiadura defnyddwyr terfynol a systemau meddygon teulu i 12,216 o ddefnyddwyr mewn practisau meddygon teulu. Yn ystod y flwyddyn, disodlwyd 4,000 o gyfrifiaduron ar gyfer meddygon teulu. Yn ogystal, cynhaliwyd proses cystadleuaeth fach y Contract Fframwaith Systemau Meddygon Teulu, gan ganiatáu i bob practis meddyg teulu ddewis eu system glinigol nesaf.

Nododd System Imiwneiddio Cymru (WIS) garreg filltir arwyddocaol yn ddiweddar drwy gofnodi ei 10 miliynfed brechiad COVID. Mae WIS yn cefnogi dros 22,000 o ddefnyddwyr ar draws yr holl fyrddau iechyd, i ddarparu brechiadau COVID a ffliw tymhorol mewn practis cyffredinol ac mewn fferyllfeydd.

Rydym yn gweithio i ddarparu gwell mynediad digidol i helpu pobl i reoli eu hiechyd a’u lles eu hunain yn fwy effeithiol. Mae Ap GIG Cymru wedi’i gyflwyno i bob un o’r 373 o bractisau meddygon teulu ac yn 2023-24 cafodd yr ap ei lawrlwytho gan 170,000 o ddefnyddwyr. Mae’r Ap a’r wefan bwrdd gwaith sy’n cyd-fynd ag ef yn cynnig mynediad hawdd at ystod o wasanaethau iechyd a gofal trwy ffonau clyfar, llechi, a chyfrifiaduron personol, gan ganiatáu i gleifion a’r cyhoedd reoli eu hiechyd a’u lles eu hunain.

Mae ein gwaith yn gwneud gwahaniaeth i’n cydweithwyr iechyd a gofal a’r gwasanaethau y maent yn eu darparu i bobl Cymru. Mae'r e-Lyfrgell Iechyd, sy'n cefnogi darpariaeth gofal iechyd effeithiol trwy ddarparu gwybodaeth ar-lein berthnasol ac amserol sy'n seiliedig ar dystiolaeth, wedi cynyddu ei sylfaen defnyddwyr 981 gan gyrraedd cyfanswm o 14,441 o ddefnyddwyr. Yn ogystal, mae 227 o weithwyr cymdeithasol a rheolwyr gofal cymdeithasol wedi cofrestru i ddefnyddio'r e-lyfrgell.

Mae ein Canolfan Ragoriaeth Microsoft 365 yn cefnogi dros 100,000 o ddefnyddwyr ar draws GIG Cymru. Rydym yn parhau i weithio tuag at wneud y mwyaf o werth a defnydd y pecyn cymorth hwn yng Nghymru.

Nod ein swyddogaeth Ymchwil ac Arloesi (R&I) newydd yw meithrin y wybodaeth, yr arloesi a'r mewnwelediad sy'n angenrheidiol ar gyfer gwella gwasanaethau, trawsnewid a chanlyniadau iechyd gwell. Rydym wedi datblygu ein strategaeth drwy wella partneriaethau ac adnoddau. Mae ein hymagwedd yn cynnwys asedau, adnoddau, diwylliant, partneriaeth, gwerth ac effaith.

Rydym yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid, gan gynnwys y Ganolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru, i ysgogi gwerth o ddata. Mae hyn yn cynnwys creu dangosfyrddau sy’n cefnogi darpariaeth gofal iechyd mewn meysydd fel gofal sylfaenol a llwybrau canser. Drwy gydol y flwyddyn, mae IGDC wedi gweithio i ehangu a gwella'r defnydd o wasanaethau digidol a data ar gyfer defnyddwyr clinigol, darparwyr gofal ac eraill sy’n allweddol wrth wneud penderfyniadau ym maes iechyd a gofal. Rhoddir rhagor o wybodaeth am y dangosfyrddau hyn a’u heffaith yn ddiweddarach yn yr adroddiad hwn.

Rydym wedi dechrau rhoi ein Strategaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol 2022-25 ar waith, drwy ddatblygu ein staff drwy gynlluniau arweinyddiaeth a rheoli talent. Mae hyn yn sicrhau bod gennym y cymysgedd cywir o sgiliau i wneud digidol yn rym er gwell.

Mae ansawdd a diogelwch yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud. Yn dilyn cyhoeddi Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 ar 1 Ebrill 2023, mae IGDC yn mynd i’r afael â’r gofynion diffiniedig yn rhagweithiol. Ni oedd y cyntaf yng Nghymru i gyhoeddi adroddiad 'Parhaol' ac rydym yn datblygu hyfforddiant a phrosesau i gefnogi'r Ddyletswydd Ansawdd. Cefnogir y gwaith hwn gan bedair tystysgrif ISO gan gynnwys ISO 20000, ISO 9001, ISO 140001, and ISO 27001.

Yn ystod y flwyddyn, gwnaethom gyflawni ein rhwymedigaethau statudol a nodi £0.7m o arbedion a ddychwelwyd i Lywodraeth Cymru i gefnogi pwysau ariannol ehangach y GIG. Mae'r amgylchedd masnachol digidol yn cydnabod fwyfwy pwysau cydgrynhoi a chwyddiant, yn enwedig o ran trwyddedu.

Rydym wedi gweithio gyda rhanddeiliaid ledled Cymru i gytuno ar fframwaith buddion a phecyn cymorth wedi’i adnewyddu gan ddefnyddio set ddata safonol. Yn ogystal, rydym yn datblygu system Adrodd ar Fuddiannau Cymru Gyfan a fydd yn coladu adroddiadau ar holl fanteision rhaglenni digidol. Mae hyn yn ein helpu i ddeall yn well y gwerth y mae ein systemau yn ei roi i GIG Cymru.

Mae'r crynodeb uchod yn rhoi trosolwg o'r cynnwys yng ngweddill y ddogfen hon sy'n cynnig rhagor o fanylion a gwybodaeth am weithgarwch ychwanegol.

Ein blwyddyn mewn rhifau

Argaeledd Gwasanaethau 99.984%
Cymorth Bwrdd Gwaith i 16,628 o ddefnyddwyr ar draws sefydliadau GIG, carchardai a hosbisau
Disodlwyd 4,000 o liniaduron meddygon teulu
System Imiwneiddio Cymru Cefnogwyd 10 miliwnfed brechiad COVID
System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru 16,853 o ddefnyddwyr ar draws iechyd a gofal cymdeithasol
Gwasanaeth Gweinyddu Cleifion Cymru 52,653 o ddefnyddwyr, 6 miliwn o ddogfennau, 4.5bn o drafodion
Dewis Fferyllfa 34,453 o ymgynghoriadau drwy'r gwasanaeth anhwylderau cyffredin, 77% fyddai wedi gweld meddyg teulu
E-lyfrgell ar gyfer iechyd 14,441 o ddefnyddwyr, 227 o weithwyr cymdeithasol a rheolwyr gofal
System Rheoli Gwybodaeth Labordy Cymru 40 miliwn o brofion labordy wedi'u rheoli
Porth Clinigol Cymru 36,977 o ddefnyddwyr, 1.5 miliwn o ddogfennau wedi'u storio
Data wedi'i storio yn y warws data 25 Terabeit
Cofnod Gofal Nyrsio Cymru 20.9 miliwn o asesiadau risg digidol wedi'u cwblhau
Datgarboneiddio rydym wedi lleihau ein hallyriadau gan 43% ar ein gwaelodlin
Ap GIG Cymru cyflwynwyd yn gyflym i bob un o'r 373 o bractisau meddygon teulu, 170,000 o lawrlwythiadau o siopau app
System Rheoli Gwybodaeth Radioleg Cymru dros 4500 o ddefnyddwyr, 2.8 miliwn o geisiadau radioleg
 
 
English