Tachwedd 2021
Nyrsio digidol yn ennill gwobr ‘Prosiect Gofal Iechyd Gorau’ yng Ngwobrau Diwydiant TG y DU
Mae cofnod gofal nyrsio digidol Cymru, sef Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR) - wedi cipio teitl mawreddog yng Ngwobrau Diwydiant TG Cymdeithas Gyfrifiadura Prydain gan ennill Prosiect TG Gorau’r Flwyddyn y Sector Gofal Iechyd ar gyfer 2021
 
Roedd y beirniaid yn chwilio am brosiect ‘rhagorol’ a oedd yn defnyddio TG er budd y sefydliad a’i gleientiaid. Mae cyflwyno WNCR yn gyflym wedi arwain at newidiadau mawr mewn arferion, gan fod nyrsys bellach yn defnyddio cofnodion digidol yn lle rhai papur, gan symleiddio prosesau gofal a rhyddhau amser ar gyfer nyrsio.
 
“Rydyn ni wrth ein boddau i dderbyn y wobr hon,” meddai Claire Bevan, Uwch Swyddog Cyfrifol WNCR. Am y tro cyntaf erioed, mae'r prosiect hwn wedi golygu y gall nyrsys gwblhau asesiadau safonedig cenedlaethol wrth erchwyn gwely claf mewnol ar wardiau oedolion, ar lechen symudol, neu ddyfais llaw arall, gan arbed amser, gwella cywirdeb, a lleihau dyblygu.
Ym mis Hydref, croesawodd staff yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Helen Thomas o Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) (yng nghanol y rhes flaen) i weld Cofnod Gofal Nyrsio Cymru ar waith.
 
Rhoddodd staff Castell-nedd Port Talbot adborth cadarnhaol am werth y gwasanaeth. Bu Christine Evans yn canmol Cofnod Gofal Nyrsio Cymru mewn fideo YouTube yn ddiweddar, gan ddweud ei fod “yn amhrisiadwy"
Am ddysgu rhagor am sut mae WNCR yn helpu nyrsys a'u cleifion? Ewch i wefan DHCW neu wrando ar Claire Bevan a Fran Beadle - Arweinydd Gwybodeg Glinigol Cenedlaethol ar gyfer Nyrsio a Phennaeth Cynorthwyol Gwybodeg Glinigol Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn ein podlediad DCHW diweddaraf - mae trawsgrifiadau ohono ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Canlyniadau profion endosgopi a broncosgopi Cwm Taf bellach ar gael ledled Cymru
Mae diweddariad i Borth Clinigol Cymru (WCP) yn golygu bod gweithwyr iechyd proffesiynol ledled Cymru bellach yn gallu cael mynediad at gopïau digidol o ganlyniadau profion endosgopi a broncosgopi eu cleifion gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
 
Mae’r gallu i weld y data hyn trwy fewngofnodi unwaith i Borth Clinigol Cymru yn golygu y gall clinigwyr mewn byrddau iechyd eraill dderbyn diweddariadau amser real ar ganlyniadau profion eu cleifion yn eu cofnodion iechyd digidol sengl. Cyn hyn, dim ond trwy system ar wahân y byddai'r wybodaeth hon wedi bod ar gael.
 
Dywedodd yr ymgynghorydd gastroenteroleg, Minesh Patel, fod y diweddariad yn ddatblygiad sylweddol i’r system a’i fod yn helpu i arbed amser iddo, gan ei fod, “yn caniatáu i bob clinigwr yng Nghymru weld y [canlyniadau profion] rhain, sy’n welliant mawr ar gyfer gofal cleifion.”
 
Mae WCP ar gael i glinigwyr ym mhob bwrdd iechyd ledled Cymru ac i Ganolfan Ganser Felindre. Mae'n rhannu ac yn arddangos gwybodaeth ddigidol cleifion o nifer o ffynonellau, hyd yn oed os yw'r wybodaeth honno wedi'i lledaenu ar draws gwahanol sefydliadau iechyd. Mae'r Porth yn caniatáu i glinigwyr gael mynediad at gofnodion cleifion cyfredol a chywir yn y man lle rhoddir gofal, gan ddileu'r angen i ofyn am gopïau, neu, mewn rhai achosion, wneud yr un archwiliadau eto.
 
Bob mis, mae gweithwyr iechyd proffesiynol ledled Cymru yn edrych ar dros filiwn o ganlyniadau profion trwy'r WCP. Mae un o bob deg o'r canlyniadau hyn a welir yn tarddu o fwrdd iechyd arall.
 
Ar hyn o bryd, dim ond canlyniadau profion endosgopi a broncosgopi Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg y gellir eu gweld ym Mhorth Clinigol Cymru. Fodd bynnag, mae gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i gynnwys data endosgopi gan fyrddau iechyd Hywel Dda, Powys a Bae Abertawe. 
Desg Wasanaeth DHCW ar y rhestr fer ar gyfer gwobr a gydnabyddir yn fyd-eang

Mae tîm Desg Wasanaeth Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi cyrraedd rhestr fer y categori Desg Wasanaeth Gorau yng Ngwobrau Sefydliad y Ddesg Wasanaeth (SDI) eleni.
 
Mae'r SDI yn cynrychioli miloedd o gwmnïau a gweithwyr proffesiynol desg wasanaeth mewn dros 150 o wledydd. Mae gwobrau SDI yn canmol timau gwasanaeth a chymorth TG sy'n cyflawni’r lefelau uchaf o ragoriaeth a gwasanaeth i bob cwsmer.
 
Mae ein Desg Wasanaeth yn gwasanaethu GIG Cymru i gyd ac yn gweithredu fel un man cyswllt rhwng gwasanaethau desg lleol a thimau cymorth cenedlaethol. Mae’n darparu canolbwynt ar gyfer adrodd am ddigwyddiadau a gwneud ceisiadau gwasanaeth.
Sgrinio Coluddion Cymru yn gwahodd pobl 58 a 59 oed i gael eu sgrinio

 
Mae’r rhaglen Sgrinio Coluddion Cymru wedi dechrau gwahodd pobl 58 a 59 oed am y tro cyntaf i gael eu sgrinio ar gyfer canser y coluddyn. Bydd y rhaglen yn parhau i wahodd y rhai rhwng 60 a 74 oed, sydd eisoes yn cael eu gwahodd.
 
Mae meddalwedd a ddatblygwyd ac a gefnogir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cefnogi'r rhaglen sgrinio coluddion. Mae’r System Rheoli Gwybodaeth ar Sgrinio Coluddion (BSIMS) yn gymhwysiad diogel ar y we sy’n cefnogi’r broses sgrinio gyfan, drwy ddethol pobl o Gymru i gael eu sgrinio.
 
Anfonir pecyn sgrinio yn y cartref drwy’r post i’r bobl gymwys sy’n cael eu gwahodd i brawf sgrinio. Yna, bydd y pecyn yn cael ei ddychwelyd a’i brofi yn labordai GIG Cymru. Bydd y labordai yn defnyddio BSIMS i ddilyn hynt y pecynnau, i gofnodi’r canlyniadau ac i gynhyrchu llythyrau canlyniadau. Bydd unrhyw un sydd â chanlyniad positif i’r prawf yn cael ei gyfeirio am ymchwiliadau pellach ac asesiad gan ymarferwyr sgrinio arbenigol. Mae BSIMS yn cefnogi’r broses gyda modiwl archebu clinig ac mae’n darparu dyddiadur a ffurflen asesu ar-lein ar gyfer ymarferwyr sgrinio arbenigol.

Canser y coluddyn yw’r ail ganser mwyaf angheuol ymysg dynion a menywod yng Nghymru. Bydd sgrinio’r coluddyn yn canfod canser y coluddyn yn gynnar, yn aml pan na fydd unrhyw symptomau, a phan fydd triniaeth ar ei mwyaf effeithiol.
 
Caiff y feddalwedd sgrinio coluddion a ddatblygwyd yng Nghymru ei defnyddio yng Ngogledd Iwerddon hefyd.
Gallwch ddysgu mwy am sgrinio'r coluddyn trwy ymweld â gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ymunwch â ni ar gyfer Cyfarfod Bwrdd mis Tachwedd Iechyd a Gofal Digidol Cymru
 
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cynnal cyfarfodydd Bwrdd bob yn ail fis. Cynhelir y cyfarfod nesaf am 10am ar 25 Tachwedd.
 
Rydym wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw, ac mae croeso i aelodau'r cyhoedd fynychu ac arsylwi’r cyfarfodydd Bwrdd. Yng ngoleuni'r cyngor a'r arweiniad cyfredol mewn perthynas â Covid-19, rydym wedi penderfynu peidio â chynnal ein cyfarfod Bwrdd yn gyhoeddus ar hyn o bryd, penderfyniad a wnaethom er mwyn diogelu’r cyhoedd, ein staff ac aelodau'r Bwrdd .  
 
Fodd bynnag, rydym yn ffrydio ein holl gyfarfodydd Bwrdd yn fyw trwy Microsoft Teams ac mae croeso i chi eu gwylio, yn ogystal â phob cyfarfod a gynhaliwyd yn y gorffennol, trwy ymweld â:
 
 
Bellach, mae pob cyfarfod yn cynnwys opsiwn cyfieithu ar y pryd Cymraeg. 
Cyfleoedd dysgu proffesiynol ar gael trwy eich e-Lyfrgell GIG Cymru
 
Bydd e-Lyfrgell GIG Cymru yn cynnal cyfres o weminarau a digwyddiadau trwy gydol mis Rhagfyr gan gynnwys:
 
·   6 Rhagfyr - Micromedex ar gyfer Dechreuwyr a Defnyddwyr profiadol - yr e-adnodd Gwybodaeth Meddyginiaethau
·   7 Rhagfyr - Cyflwyniad i TripPro - Peiriant Chwilio Clinigol ar gyfer tystiolaeth ymchwil o ansawdd uchel
·   9 Rhagfyr - Expo e-Lyfrgell - digwyddiad rhithwir a fydd yn arddangos pynciau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a thystiolaeth sy'n effeithio ar Iechyd a Gofal.
 
Anfonwch e-bost at [email protected]i ofyn am ddolen i’r weminar, neu i gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan e-lyfrgell GIG Cymru. 
A hoffech chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau 3.1 miliwn o bobl?

Rydym yn chwilio am weithwyr proffesiynol uchelgeisiol iawn i ymuno â’n tîm newydd. 

Rolau wedi’u lletya gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Rydym yn falch o fod wedi ennill y wobr ‘Y lle gorau i weithio ym maes TG’ yng Ngwobrau Diwydiant TG Cymdeithas Gyfrifiadura Prydain 2020.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael trafodaeth anffurfiol am y rhaglen a’r bobl yr hoffem eu recriwtio, anfonwch e-bost atom (yn cadarnhau pa swydd y mae gennych ddiddordeb ynddi) trwy [email protected].