Y Datganiad Llywodraethu Blynyddol

Free Abstract 3D render

Cwmpas y cyfrifoldebau

Mae Bwrdd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn atebol am:

  • Gosod y cyfeiriad strategol
  • Y fframwaith llywodraethu
  • Naws a diwylliant sefydliadol
  • Llywio’r derbynioldeb risg a goruchwylio risgiau strategol
  • Datblygu perthnasoedd cryf gyda rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol
  • Creu a chyflawni’r Strategaeth Hirdymor y sefydliad yn llwyddiannus

Mae’r Bwrdd yn atebol am Lywodraethu, Rheoli Risg a Rheolaeth Fewnol. Fel Prif Weithredwr y Bwrdd, mae gennyf gyfrifoldeb dros gynnal strwythurau a gweithdrefnau llywodraethu priodol ynghyd â system gadarn o reolaeth fewnol sy’n cefnogi cyflawni polisïau, nodau ac amcanion y sefydliad, wrth ddiogelu’r arian cyhoeddus ac asedau’r sefydliad yr wyf yn gyfrifol amdanynt yn bersonol. Cyflawnir y rhain yn unol â’r cyfrifoldebau a neilltuwyd gan Swyddog Atebol GIG Cymru.

Mae’r adroddiad blynyddol yn amlinellu’r gwahanol ffyrdd y mae’r sefydliad wedi gweithio’n fewnol a chyda phartneriaid yn ystod 2024/25. Mae’n egluro’r trefniadau ar gyfer sicrhau bod safonau llywodraethu’n cael eu cynnal, bod risgiau’n cael eu nodi a’u lliniaru, a bod sicrwydd wedi’i geisio a’i ddarparu. Lle bo angen, darperir gwybodaeth ychwanegol yn y Datganiad Llywodraethu (DL), ond y bwriad oedd lleihau dyblygu lle bo modd. Felly mae angen adolygu adrannau eraill yn yr Adroddiad Blynyddol ochr yn ochr â’r Datganiad Llywodraethu hwn.

Mae’r Datganiad Llywodraethu hwn yn egluro cyfansoddiad a threfniadaeth strwythurau llywodraethu IGDC a sut maen nhw’n cefnogi cyflawni ein hamcanion. Mae cefndir IGDC, ei swyddogaethau a’i gynlluniau wedi’u hamlinellu yn yr Adroddiad Perfformiad.

Mae’r Bwrdd ar frig ein system llywodraethu a sicrwydd mewnol. Mae’n gosod amcanion strategol, yn monitro cynnydd, yn cytuno ar gamau gweithredu i gyflawni’r amcanion hyn ac yn sicrhau bod rheolaethau priodol ar waith ac yn gweithio’n iawn. Mae’r Bwrdd hefyd yn cael sicrwydd gan ei Bwyllgorau, asesiadau yn erbyn safonau proffesiynol a fframweithiau rheoleiddio.

Cyd-drefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd

O dan y Trefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd ar y Cyd, mae Llywodraeth Cymru yn cyfarfod ag Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (y Grŵp Triphlyg) ddwywaith y flwyddyn i asesu pob Bwrdd Iechyd, Ymddiriedolaeth ac Awdurdod Iechyd Arbennig. Caiff yr asesiadau hyn eu llywio gan ystod eang o ddata a ffynonellau deallusrwydd i nodi unrhyw bryderon sy’n dod i’r amlwg.

Mae’r Fframwaith Goruchwylio ac Uwchgyfeirio Llywodraeth Cymru – Sefydliadau GIG Cymru yn diffinio pum lefel uwchgyfeirio:

  • Trefniadau arferol
  • Maes sy’n peri pryder
  • Monitro uwch
  • Ymyrraeth wedi’i thargedu
  • Mesurau arbennig

Ers ei sefydlu ym mis Ebrill 2021, mae IGDC wedi gweithredu ar lefel 1 – monitro arferol. Fodd bynnag, ar 11 Mawrth 2025, cafodd IGDC ei uwchgyfeirio i lefel 3 – monitro uwch. Mae’r newid hwn yn ymwneud â’r parth ‘perfformiad a chanlyniadau’, yn benodol cyflawni rhaglenni cenedlaethol mawr.

Dilynodd yr uwchgyfeirio heriau parhaus o ran cwrdd â therfynau amser cyflawni a chynnal cyflymder ar draws prif flaenoriaethau cenedlaethol. Mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi cyfres o feysydd i IGDC fynd i’r afael â hwy ac wedi cyfathrebu’n glir y disgwyliadau ar gyfer gwelliant.

Bydd cyfarfodydd rheolaidd IGDC gyda Llywodraeth Cymru — gan gynnwys sesiynau’r Tîm Gweithredol ar y Cyd (JET) a’r Grŵp Cynllunio, Ansawdd a Chyflenwi Integredig (IQPD) — yn rhoi ffocws ychwanegol ar raglenni mawr ac yn olrhain yn agos y cerrig milltir a nodwyd yng nghynllun gwella’r uwchgyfeirio.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cytuno gydag IGDC ar amlder parhaus y gweithgareddau cefnogi, ymyrryd a monitro. Yn fewnol, bydd Pwyllgor Cyflawni Rhaglenni IGDC yn goruchwylio gweithredu’r cynllun gwella uwchgyfeirio ac yn darparu diweddariadau rheolaidd i Fwrdd yr Awdurdod Iechyd Arbennig ar gynnydd.

Bod yn Agored ac yn Dryloyw

Yn unol â Deddf Cyrff Cyhoeddus (Derbyn i Gyfarfodydd) 1960 ac fel rhan o ymrwymiad IGDC i fod yn agored ac yn dryloyw, rydym wedi mabwysiadu nifer o fesurau i sicrhau hygyrchedd ac ymgysylltiad cyhoeddus:

  • Ffrydio byw a recordio ein cyfarfodydd Bwrdd Cyhoeddus, gyda'r recordiadau'n cael eu cyhoeddi ar ein gwefan o fewn 5 diwrnod gwaith.
  • Cofnodi ein cyfarfodydd Pwyllgor a'u postio ar ein gwefan o fewn 5 diwrnod gwaith.
  • Rhoi gwybod i randdeiliaid am ein bwriad i gynnal cyfarfodydd Bwrdd a Phwyllgorau 10 diwrnod ymlaen llaw.
  • Rhannu papurau cyfarfodydd ag aelodau 7 diwrnod cyn y cyfarfodydd a chyhoeddi papurau cyhoeddus ar ein gwefan ar yr un pryd.
  • Hyrwyddo cyfarfodydd cyhoeddus y Bwrdd a'r Pwyllgorau yn weithredol drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol, gan annog presenoldeb rhanddeiliaid a rhannu uchafbwyntiau cyfarfodydd.
  • Darparu adroddiadau uchafbwyntiau ar gyfer pob cyfarfod Pwyllgor a Grŵp Cynghori (yn cynnwys eitemau agenda cyhoeddus a phreifat) i'r Bwrdd a'u cyhoeddi ar ein gwefan.
  • Er bod y Pwyllgor Tâl a Thelerau Gwasanaeth a'r Fforwm Partneriaeth Lleol (LPF) yn breifat, rhennir adroddiad uchafbwyntiau o'r ddau gyfarfod ym mhob cyfarfod Bwrdd Cyhoeddus i gefnogi tryloywder.

Mae’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol hwn yn canolbwyntio’n bennaf ar y cyfnod adrodd rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025.

Ein Fframwaith Llywodraethu a'n System Sicrwydd

Bwriad rheolau sefydlog IGDC yw trosi’r gofynion statudol a amlinellir yng Ngorchymyn IGDC (Sefydliad a Chyfansoddiad) 2020 i arferion gweithredu dydd-i-ddydd. Ynghyd â mabwysiadu cyfres o benderfyniadau wedi’u neilltuo i’r Bwrdd, cynllun dirprwyaethau i swyddogion ac eraill, a chyfarwyddiadau ariannol sefydlog, maen nhw’n darparu’r fframwaith rheoleiddiol ar gyfer cynnal busnes IGDC ac yn diffinio ei ‘ffyrdd o weithio’. Mae’r dogfennau hyn, ynghyd â’r ystod o bolisïau corfforaethol, gan gynnwys y Polisi Safonau Ymddygiad a osodwyd gan y Bwrdd, yn ffurfio'r Fframwaith Llywodraethu.

Adolygodd a chymeradwyodd y Bwrdd rheolau sefydlog IGDC ym mis Mawrth 2025. Hefyd, derbyniodd ddiweddariad ar cydymffurfiaeth IGDC â rheolau sefydlog yn ystod 2024‑25. Nid oedd unrhyw amrywiadau i reolau sefydlog IGDC yn ystod 2024‑25.

Nid oedd y strwythur gorchymyn wedi’i actifadu yn ystod 2024/25.

Yn unol â rheolau sefydlog a chynllun dirprwyo IGDC, cymeradwywyd y polisïau canlynol gan y Bwrdd a’i Bwyllgorau yn ystod 2024/25:

  • POL-CG-019 – Polisi Rheoli Gwastraff
  • POL-POD-002 – Polisi Absenoldeb Rhiant a Rennir
  • POL-CG-009 – Safonau Ymddygiad
  • POL-OSD-005 – Polisi Wrth Gefn
  • DHCW-POL-32 – Polisi Diogelwch Tân
  • POL-QRC-001 – Polisi Ansawdd
  • POL-DHCW-001 – Polisi System Rheoli Integredig
  • POL-SMS-004 – Polisi Rheoli Problemau
  • POL-SMS-005 – Polisi Rheoli Digwyddiadau
  • POL-SMS-003 – Polisi Galluogi Newid
  • DHCW-POL-46 – Polisi Rheoli Parhad Busnes
  • POL-NWIS-013 – Polisi Patsio
  • POL-IG-006 – Polisi Mynediad at Wybodaeth
  • POL-SMS-010 – Polisi Rheoli Argaeledd
  • DHCW-POL-5 – Polisi Targed Lefel Gwasanaeth
  • CS-POL-5 – Polisi Defnydd Derbyniol
  • NEW – Polisi Cyfrinair GIG Cymru
  • DHCW-POL-8 – Polisi Rheoli Lefel Gwasanaeth
  • DHCW-POL-25 – Polisi Cyflawni Ceisiadau
  • POL-OSD-007 – Polisi Cryptograffeg
  • POL-CG-006 – Rheoli Contractwyr

Parhad busnes

Mae angen i’r GIG gynllunio ar gyfer ac ymateb i ystod eang o achosion brys a allai effeithio ar iechyd neu ofal cleifion. Serch hynny, nid yw IGDC wedi’i enwi’n ffurfiol yn Neddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, fel “Ymatebydd” wedi’i Gategoreiddio o dan y Ddeddf. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod pwysigrwydd rôl IGDC ynghylch cynllunio at argyfwng a pharhad busnes ar sail Cymru Gyfan. I’r perwyl hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnwys IGDC yn ffurfiol yn Fframwaith Cymru Gydnerth newydd ac wedi cyfarwyddo IGDC i weithredu fel Ymatebwr Categori 1 hyd nes y gellir cynnwys IGDC yn gyfreithiol yn y Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl fel y mae’n berthnasol i Gymru.

Mae IGDC wedi parhau â’i ymagwedd gydweithredol at barhad busnes a chynllunio at argyfwng trwy aelodaeth weithredol o grwpiau Cynllunio:

  • Grŵp Cynghori Cynllunio at Argyfyngau Iechyd Cymru
  • Grŵp Gwydnwch a Chynllunio System Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

Mae igdc hefyd yn mynychu pedwar Fforwm Cadernid Lleol Cymru. Bydd hyn yn helpu i fodloni’r gofyniad i gydweithio, cynllunio, rhannu gwybodaeth ac arfer cynlluniau gwydnwch ar sail aml-asiantaeth.

Rôl y Bwrdd

Mae’r Bwrdd wedi’i gyfansoddi i gydymffurfio â Rheoliadau Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) 2020.

Yn ogystal â'r cyfrifoldebau a'r atebolrwydd a nodir yn y telerau ac amodau penodi, mae Aelodau Annibynnol wedi gweithio gyda'r Cadeirydd i gytuno ar eu rolau Hyrwyddwr Bwrdd. Adroddiad Blynyddol Hyrwyddwyr Bwrdd yn ein cyfarfod Bwrdd fis Mawrth 2025.

Mae'r Bwrdd yn cynnwys Aelodau Annibynnol a Chyfarwyddwyr Gweithredol

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
DHCW Board Structure
 

Yn ystod 2024/25, cynhaliwyd sesiynau datblygu a briffio’r Bwrdd a oedd yn cynnwys pwyslais ar yr elfennau llywodraethu canlynol:

  • Parodrwydd i Dderbyn Risg ac Adolygiad Fframwaith Sicrwydd y Bwrdd
  • Adolygiad o Benderfyniadau Bwrdd AIA
  • Trawsnewid gan ymgorffori'r Dull Cynnyrch
  • Datblygu’r Gweithlu Digidol
  • Diweddariad ar y Saernïaeth Darged Genedlaethol / EHR
  • Ymgysylltu â Rhanddeiliaid – Adborth o’r Adolygiad Annibynnol
  • Mabwysiadu Cwmwl
  • Adolygiad Llywodraethu Data, Digidol a Thechnoleg (DDaT)
  • Gwireddu Buddion
  • Fframwaith Rheoli Perfformiad
  • Goblygiadau Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru
  • INPS
  • Porth Mynediad Deintyddol
  • CTCI 2025/26 – 2027/28
  • Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu
  • Digidol drwy Ddylunio (Dysgu o Adroddiad Archwilio Cymru)
  • Agor y Drws
  • Digidol Cyhoeddus (Allanol)
  • Ymweliad Safle Clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe | IGDC

Amlinellir aelodaeth lawn y Bwrdd yn Atodiad 1. Rhoddir isod grynodeb o strwythur y Bwrdd a Phwyllgorau, sy’n adlewyrchu’r strwythur arfaethedig yn rheolau sefydlog IGDC.

DHCW Board and Committee Structure
 

Mae’r Bwrdd yn darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad i’r sefydliad ac mae ganddo rôl allweddol wrth sicrhau bod trefniadau llywodraethu cadarn ar waith. Mae hefyd yn hyrwyddo diwylliant agored a safonau uchel wrth gynnal ei waith. Gyda’i gilydd, mae aelodau’r Bwrdd yn rhannu cyfrifoldeb corfforaethol am bob penderfyniad ac yn chwarae rhan bwysig wrth fonitro perfformiad y sefydliad.

Cynhaliwyd pob cyfarfod Bwrdd yn ystod 2024/25 gyda chworum priodol. Mae’r materion busnes allweddol a’r risgiau a ystyriwyd gan y Bwrdd yn ystod y flwyddyn wedi’u hamlinellu yn y datganiad hwn. Mae gwybodaeth bellach ar gael yn y papurau cyfarfod ar ein gwefan.

Rôl y Pwyllgorau

Mae gan y Bwrdd bedwar pwyllgor: y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd, y Pwyllgor Tâl a Thelerau Gwasanaeth, y Pwyllgor Llywodraethu a Diogelwch Digidol, a'r Pwyllgor Cyflenwi Rhaglenni.

Mae’r pwyllgorau hyn yn cael eu cadeirio gan Gadeirydd neu Aelodau Annibynnol y Bwrdd ac mae ganddynt rolau allweddol mewn perthynas â’r system llywodraethu a sicrwydd, gwneud penderfyniadau, craffu ac asesu risgiau cyfredol. Mae'r pwyllgorau'n darparu adroddiadau sicrwydd a materion allweddol i bob cyfarfod o’r Bwrdd er mwyn cyfrannu at asesiad y Bwrdd o sicrwydd a chraffu ar gyflawni amcanion.

Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am adolygu'r strwythur pwyllgorau yn gyson ac mae’n adolygu ei reolau sefydlog yn flynyddol. Bydd y Bwrdd yn ystyried a oes angen unrhyw newidiadau yn ystod 2025/26 yn unol â fframwaith llywodraethu’r Bwrdd a blaenoriaethau’r Cynllun Tymor Canolig Integredig.

Mae IGDC wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw o ran y ffordd y mae'n cynnal ei fusnes pwyllgor. Nod Bwrdd Iechyd a Gofal Digidol Cymru a'i bwyllgorau yw cyflawni cyn lleied â phosibl o’u busnes mewn sesiynau caeedig a sicrhau bod busnes yn cael ei ystyried yn gyhoeddus, lle bynnag y bo modd, a bod papurau sesiwn agored yn cael eu cyhoeddi ar y wefan IGDC. Ymgymerir â gwybodaeth a dderbynnir mewn cyfarfodydd sesiwn gaeedig oherwydd natur gyfrinachol y busnes. Gall materion cyfrinachol o'r fath gynnwys materion masnachol sensitif, materion personol neu drafod cynlluniau yn eu camau ffurfiannol.

Yn ogystal, mae Adroddiadau Blynyddol y Pwyllgorau a’r Grŵp Cynghori yn rhoi trosolwg o’r gweithgarwch a wnaed yn ystod y flwyddyn ac maen nhw i’w gweld yma:

Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd

Un o Bwyllgorau pwysig y Bwrdd mewn perthynas â'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol hwn yw'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd. Mae'r Pwyllgor yn adolygu cynllun a digonolrwydd trefniadau llywodraethu a sicrwydd IGDC a'i system rheolaeth fewnol yn barhaus.

Yn ystod 2024/25, roedd y materion allweddol a ystyriwyd gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd yn ymwneud â threfniadau llywodraethu cyffredinol y sefydliad yn cynnwys:

  • Ailedrych ar ei gylch gorchwyl, a fydd yn cael ei adolygu'n rheolaidd
  • Cymeradwyo'r Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer 2024/25 ac adolygu'r Adroddiadau Archwilio Mewnol dilynol yn barhaus. Nodi meysydd risg allweddol ac olrhain ymatebion rheolwyr i wella systemau a pholisïau sefydliadol
  • Sicrhau bod systemau a gweithdrefnau rheoli ariannol effeithiol ar waith
  • Monitro’r systemau rheoli risg
  • Monitro safonau ymddygiad, gan gynnwys datgan buddiannau, rhoddion, lletygarwch a nawdd
  • Datblygu trefniadau i weithio gydag Archwilio Cymru, ac ystyried Asesiad Strwythuredig 2024 a Chynllun Archwilio 2025–26 Archwilio Cymru
  • Monitro cynnydd ar ddatblygu Cynllun Iaith Gymraeg IGDC
  • Cymeradwyo ac adolygu Fframwaith Sicrwydd Deddfwriaethol IGDC
  • Datblygu a chymeradwyo polisïau, strategaethau a fframwaith newydd i gefnogi llywodraethu da a rheolaeth briodol

Y Pwyllgor Tâl a Thelerau Gwasanaeth

Mae’r Pwyllgor Tâl a Thelerau Gwasanaeth yn ystyried ac yn argymell cyflogau, dyfarniadau cyflog a thelerau ac amodau cyflogaeth ar gyfer y Tîm Gweithredol ac uwch staff allweddol eraill. Yn ystod 2024/25, roedd y materion allweddol a ystyriwyd gan y Pwyllgor Tâl a Thelerau Gwasanaeth yn cynnwys:

  • Perfformiad Cyfarwyddwyr Gweithredol yn erbyn amcanion unigol
  • Strwythur y Tîm Gweithredol
  • Cadarnhau swyddi'r Tîm Gweithredol

Pwyllgor Llywodraethu a Diogelwch Digidol

Mae’r Pwyllgor Llywodraethu Digidol a Diogelwch yn rhoi cyngor a sicrwydd i'r Bwrdd o ran ansawdd a chywirdeb, diogelwch a defnydd priodol o wybodaeth a data i gefnogi darparu iechyd a gofal a gwella gwasanaethau a darparu iechyd a gofal digidol o ansawdd uchel. Roedd y materion allweddol a ystyriwyd gan y Pwyllgor yn 2024/2025 yn ymwneud â’i gylch gwaith yn cynnwys:

  • Ailedrych ar ei gylch gorchwyl, a fydd yn cael ei adolygu'n rheolaidd
  • Trefniadau Seiberddiogelwch
  • Adolygu digwyddiadau a dysgu sefydliadol
  • Llywodraethu Gwybodaeth
  • Sicrwydd Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Sicrwydd Gwybodeg
  • Sicrwydd Ymchwil ac Arloesi
  • Sicrwydd Dylunio Technegol

Pwyllgor Cyflawni Rhaglenni

Mae’r Pwyllgor Cyflawni Rhaglenni yn cynghori ac yn sicrhau’r Bwrdd o ran sut y caiff rhaglenni eu darparu, yn enwedig bod ganddynt lywodraethu rheolaidd a phriodol, bod ganddynt brosesau rheoli ac adrodd cadarn, a’u bod yn dangos cynllunio, rheoli a chyflawni da.

Bydd y Pwyllgor hefyd yn rhoi sicrwydd i’r Bwrdd ar gyflawni rhaglenni fel portffolio, dyrannu adnoddau wedi’u blaenoriaethu, rhaglenni’n effeithio ar ddarpariaeth ehangach IGDC, a thrawsnewid gweithgarwch rhaglenni i wasanaethau byw sy’n gynaliadwy yn y tymor hwy. Roedd y materion allweddol a ystyriwyd gan y Pwyllgor yn 2024/2025 yn ymwneud â’i gylch gwaith yn cynnwys:

  • Mireinio a chytuno ar gylch gorchwyl y Pwyllgor a fydd yn cael ei adolygu'n rheolaidd
  • Sicrwydd Rhaglenni
  • Sicrwydd Portffolio
  • Llywodraethu (gan gynnwys adolygu pa raglenni sydd o fewn cwmpas y Pwyllgor)

Hunanasesiad Effeithiolrwydd

Cynhaliodd y Bwrdd a Phwyllgorau’r Bwrdd hunanasesiad ar gyfer 2024/25 rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2025 a thrafodwyd y canfyddiadau yn y cyfarfod pwyllgor perthnasol a’u hadrodd i’r Bwrdd AIA.

Seiliwyd holiadur y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd ar Lawlyfr y Pwyllgor Archwilio ac fe'i dosbarthwyd i aelodau a mynychwyr y Pwyllgor.

Roedd holiaduron y Bwrdd AIA, Pwyllgor Llywodraethu a Diogelwch Digidol, Pwyllgor Cyflawni Rhaglenni, Pwyllgor Tâl a Thelerau Gwasanaeth a’r Fforwm Partneriaeth Lleol wedi’u seilio ar gyfansoddiad, sefydlu a dyletswyddau, ac yna gwestiynau arweinyddiaeth a chefnogaeth Bwrdd, Pwyllgor, a Grŵp Cynghori’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd.

Aelodaeth y Bwrdd a'i Bwyllgorau

Atodiad 1 yn amlinellu aelodaeth a phresenoldeb y Bwrdd a’i Bwyllgorau ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2024 i 31 Mawrth 2025. Mae aelodau'n ymgymryd ag ystod o weithgareddau eraill ar ran y Bwrdd gan gynnwys Sesiwn Datblygu a Briffio’r Bwrdd, ac ystod o gyfarfodydd mewnol ac allanol.

Mae angen i'r Bwrdd gymeradwyo unrhyw newidiadau arfaethedig i strwythur ac aelodaeth pwyllgorau'r Bwrdd. Mae’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd a’r Pwyllgor Llywodraethu a Diogelwch Digidol, ynghyd â’r Pwyllgor Cyflawni Rhaglenni, wedi ystyried eu cylch gorchwyl eu hun ac wedi argymell newidiadau i’r Bwrdd.

Bydd y Bwrdd yn sicrhau bod cylch gorchwyl pob pwyllgor yn cael ei adolygu’n flynyddol i sicrhau bod gwaith y pwyllgorau yn adlewyrchu’n glir unrhyw ofynion llywodraethu, newidiadau i drefniadau dirprwyo neu feysydd cyfrifoldeb. Mae holl bwyllgorau a grwpiau cynghori’r Bwrdd wedi datblygu adroddiadau blynyddol ar eu busnes a’u gweithgareddau a ddaeth i law ac a nodwyd ym mis Mawrth 2025.

Mae’r swyddogion arweiniol wedi’u cynnwys yn Atodiad 2 ac mae rhestr o gyfarfodydd y Bwrdd a Phwyllgorau yn 2024/2025 wedi’i chynnwys yn y tabl yn Atodiad 3.

Fforwm Partneriaeth Lleol

Mae Fforwm Partneriaeth Lleol IGDC yn darparu’r mecanwaith ffurfiol ar gyfer partneriaeth gymdeithasol o fewn IGDC yn ogystal â chyfrwng ar gyfer ymgysylltu, ymgynghori, negodi a chyfathrebu rhwng undebau llafur a rheolwyr IGDC.

Yn ystod 2024/25, mae’r Fforwm Partneriaeth Lleol wedi cyfarfod bob chwarter ac wedi canolbwyntio ar faterion strategol ac ymarferol gan gynnwys diwylliant, gwerthoedd ac ymddygiadau, cydnabod staff, llesiant, ffyrdd newydd o weithio a diogelwch, datblygiad sefydliadol, polisïau cyflogaeth a chydraddoldeb ac amrywiaeth.

Diben y system Rheolaeth Fewnol

Cynlluniwyd system rheolaeth fewnol Bwrdd IGDC i reoli risg i lefel resymol yn hytrach na dileu pob risg. Mae hyn wedi’i fynegi yn natganiad parodrwydd i dderbyn risg IGDC. Dim ond sicrwydd rhesymol y gall ei roi ynghylch effeithiolrwydd, felly, yn hytrach na sicrwydd absoliwt.

Mae'r system rheolaeth fewnol wedi’i seilio ar broses barhaus a luniwyd i amlygu a blaenoriaethu risgiau i gyflawni'r polisïau, y nodau a’r amcanion. Mae hefyd yn gwerthuso'r tebygolrwydd y bydd y risgiau hynny'n cael eu gwireddu a'r effaith pe baent yn cael eu gwireddu, a'u rheoli'n effeithlon, yn effeithiol ac yn economaidd.

Mae’r system rheolaeth fewnol wedi bod ar waith ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025, a hyd at ddyddiad cymeradwyo’r adroddiad blynyddol a’r cyfrifon.

Adolygwyd a chymeradwywyd Fframwaith Sicrwydd y Bwrdd gan y Bwrdd ym mis Mai 2024. Mae Fframwaith Sicrwydd y Bwrdd yn nodi'r holl reolaethau allweddol a llinellau sicrwydd i'w hadrodd i'r Bwrdd. Mae cylch adrodd blynyddol ein Fframwaith Sicrwydd Bwrdd i’w weld isod.

 
Diagram cylch adrodd blynyddol Fframwaith Sicrwydd y Bwrdd
 

Rydym yn defnyddio system a phroses Fframwaith Sicrwydd y Bwrdd i fonitro, ceisio sicrwydd a sicrhau bod diffygion yn derbyn sylw trwy graffu gan y Bwrdd a'i Bwyllgorau. Goruchwylir ein system Cofrestr Risg Gorfforaethol trwy graffu a monitro gan y Bwrdd a'i Bwyllgorau.

Diffinnir rheolaethau allweddol fel y rheolaethau a'r systemau hynny sydd ar waith i helpu i sicrhau y cyflawnir amcan strategol y Bwrdd. Asesir effeithiolrwydd y system rheolaeth fewnol gan ein harchwilwyr mewnol ac allanol.

 
Sgrinlun o'r system rheolaeth fewnol

Y gallu i ymdrin â risg

Y Prif Weithredwr/Swyddog Atebol sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am reoli risg ond arweinydd risg yr AIA yw Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol / Ysgrifennydd y Bwrdd. Mae hyn yn golygu arwain ar ddylunio, datblygu a gweithredu Strategaeth Rheoli Risgiau a Fframwaith Sicrwydd y Bwrdd.

Mae datganiad parodrwydd i dderbyn risg IGDC, a amlinellir isod, yn disgrifio ymagwedd IGDC at reoli risg a'r risgiau y mae'n barod i'w derbyn neu eu goddef wrth geisio cyflawni ei nodau strategol:

  • Mae’n rhaid i IGDC gymryd risgiau i gyflawni ei nodau strategol a sicrhau canlyniadau buddiol i randdeiliaid
  • Cymerir risgiau mewn modd ystyriol a rheoledig
  • Bydd amlygiad i risgiau yn cael ei gadw i lefel effaith a ystyrir yn dderbyniol gan y Bwrdd
  • Gallai’r lefel dderbyniol amrywio o bryd i'w gilydd ac felly bydd yn cael ei hadolygu a’i diwygio unwaith y flwyddyn o leiaf
  • Mae’n bosibl y bydd unrhyw risg y tu allan i’n derbynioldeb risg y cytunwyd arno yn cael ei derbyn a bydd yn destun proses lywodraethu i sicrhau gwelededd a rheolaeth

Mae’n bosibl y derbynnir rhai risgiau penodol uwchlaw’r parodrwydd i dderbyn risg y cytunwyd arno oherwydd:

  • bernir bod y tebygolrwydd y byddant yn digwydd yn ddigon isel
  • gallent arwain at wireddu gwobr/budd sylweddol
  • ystyrir eu bod yn rhy gostus i'w rheoli o ystyried blaenoriaethau eraill
  • byddai'r gost o'u rheoli yn fwy na chost yr effaith pe byddent yn cael eu gwireddu
  • nid oes ond cyfnod byr o amlygiad iddynt
  • mae angen i barti allanol gymryd camau lliniaru

Mae parodrwydd IGDC i dderbyn risg yn ystyried ei allu i ddelio â risg, sef faint o risg y mae'n fodlon ei dderbyn wrth gyflawni ei amcanion o ystyried ei adnoddau ariannol ac adnoddau eraill, cyn i rwymedigaethau a dyletswyddau statudol gael eu torri.

Mae'r goddefiant risg yn rhoi arweiniad ynghylch uwchgyfeirio risgiau ar draws ei gweithgareddau. Mae'r ffeithlun isod yn rhoi manylion y meysydd risg a nodwyd ac a gytunwyd gan Fwrdd IGDC, y parodrwydd cysylltiedig a’r lefelau goddefiant, ac yn gosod disgwyliadau'r Bwrdd o ran nifer y rheolaethau allweddol wrth adolygu Risgiau Corfforaethol yn y categorïau hynny yn Adroddiad Sicrwydd y Bwrdd.

 
WYDDUS Rhoddir gwybod i'r Bwrdd am risg gyda
sgôr o 25 neu uwch
Lead Executive:
None
AGORED Rhoddir gwybod i'r Bwrdd am risg gyda
sgôr o 20 neu uwch
Lead Executive:
Datblygu Gwasanaethau
CYMEDROL Rhoddir gwybod i'r Bwrdd am risg gyda
sgôr o 15 neu uwch
Lead Executive:
Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol
PWYLLOG Rhoddir gwybod i'r Bwrdd am risg gyda
sgôr o 12 neu uwch
Lead Executive:
Diogelwch Ariannol ac ynghylch Enw Da, Llesiant, Cyflawni Gwasanaethau, Gwybodaeth - Cyrchu a Rhannu
NIWEIDIOL Rhoddir gwybod i'r Bwrdd am risg gyda
sgôr o 9 neu uwch
Lead Executive:
Cydymffurfiaeth, Gwybodaeth – Storio a Chynnal a Chadw, Diogelwch Dinasyddion
 

Bydd yr holl risgiau’n cyd-fynd yn glir ag amcanion y sefydliad gyda chysylltiad â Fframwaith Sicrwydd y Bwrdd. Mae gan ein Fframwaith Sicrwydd y Bwrdd bum prif risg, a drafodwyd y rhain yn fanwl gyda’r Bwrdd a’u cymeradwyo ym mis Mai 2024. Ymgymerwyd â gwaith gan y Bwrdd drwy gydol y flwyddyn i ddiffinio’r prif risgiau i’r amcanion strategol.

Yn ogystal, ym mis Mai 2024 cymeradwyodd y Bwrdd barodrwydd IGDC i dderbyn risg ar gyfer pob prif risg, a oedd yn cynnwys newid yn y parodrwydd i dderbyn risg ar gyfer Cenhadaeth 2 o ‘Ofalus’ i 'Gymedrol' i ddangos parodrwydd y sefydliadau i symud ar gyflymder â chynhyrchion a gwasanaethau newydd.

Y prif risgiau presennol yn erbyn ein cenadaethau strategol

 

Yn ystod 2024/25 oherwydd yr argyfwng economaidd, mae proffil risg ariannol IGDC wedi gweld cynnydd sylweddol yn y risgiau a nodwyd sydd â’r potensial i effeithio ar ein gallu i gyflawni amcanion a’r hyn sydd i’w gyflawni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a’r potensial i effeithio’n fawr ar ein gallu i gyflawni amcanion yn y cyfnod ariannol nesaf. Mae’r rhain yn amrywio o fuddsoddiad ar gyfer datblygiadau digidol i lefelau staffio.

Mae diffyg model ariannu cynaliadwy ar gyfer IGDC, yn enwedig mewn perthynas â rhaglenni a ariennir drwy gronfa Blaenoriaethau Buddsoddi Digidol, wedi peri risg i'r sefydliad dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae hynny wedi peri risg i lefelau staffio. Mae ein timau Cyllid a Pobl a Datblygu Sefydliadol wedi lliniaru hyn drwy ymgysylltu'n barhaus â Llywodraeth Cymru a gweithio i sicrhau ein bod yn parhau i ddatblygu ein set sgiliau gweithlu a'n cronfa dalent sydd ar waith ar hyn o bryd.

Yn ystod 2024-25 bu mwy o risg a bygythiad o ymosodiad seiber. Fel sefydliad rydym yn cydnabod y bydd hon yn risg hirdymor a bydd bygythiadau sy'n dod i'r amlwg yn parhau i gynyddu o ran dwyster a deallusrwydd. Fel sefydliad, rydym wedi cynnal gwerthusiad helaeth o'n risgiau presennol, rheolaethau allweddol a sicrwydd i nodi Cynllun Gwella Gwasanaeth sylweddol sy'n cynnig sicrwydd a diogelwch i'n sefydliad a hefyd i Barth GIG Cymru ehangach.

Yn ystod 2024-25 mae IGDC wedi sylweddoli diffyg dealltwriaeth ehangach gan Wasanaeth y GIG o'i swyddogaethau craidd y mae'r sefydliad yn cyrchu ac yn defnyddio data cleifion drwyddynt. Mae bylchau mewn dealltwriaeth gyffredin a chyfeiriad polisi cyson sy'n sail iddo wedi golygu nad yw wedi bod yn hawdd sefydlu sail gyfreithiol gadarn ar gyfer casglu, prosesu a lledaenu data trigolion Cymru. Mae hyn yn peri risg gynyddol i'r sefydliad ac yn cael effaith uniongyrchol ar Raglenni Strategol IGDC.

Fframwaith rheoli risg

Mae’r Bwrdd yn ystyried bod rheoli risg yn weithredol ac yn integredig yn elfennau allweddol o bob agwedd ar ein swyddogaethau a’n cyfrifoldebau i gyflawni ein busnes yn llwyddiannus. Mae'r Bwrdd a'i Bwyllgorau yn nodi ac yn monitro risgiau yn y sefydliad.

Grŵp Rheoli Risg – Adolygiadau
 

Caiff risgiau eu huwchgyfeirio i'r Bwrdd fel y bo'n briodol. Ar lefel weithredol, mae'r Cyfarwyddwyr Gweithredol yn gyfrifol am adolygu Cofrestrau Risg eu Cyfarwyddiaethau yn rheolaidd ac am sicrhau bod rheolaethau a chynlluniau gweithredu effeithiol ar waith a monitro cynnydd.

Grŵp Rheoli Risg – Adolygiadau
 

Mae'r fframwaith yn cynnwys strategaeth ac offer gweithredol ac yn darparu'r cyd-destun ymarferol ar gyfer staff y sefydliad o ran rheoli risg o nodi a sgorio hyd at fonitro.

YMGORFFORI RHEOLAETH RISG EFFEITHIOL

Mae aelodau o dîm llywodraethu corfforaethol IGDC yn darparu hyfforddiant rheoli risg, cymorth a chyngor i'r sefydliad. Darperir hyfforddiant llawn hefyd ar ein System Rheoli Gwybodaeth Risg cyn caniatáu mynediad, er mwyn sicrhau dull cyson o ysgrifennu risgiau, cynlluniau gweithredu lliniaru a mapio dibyniaethau:

CYFLWYNIAD I REOLI RISG

Mae'r hyfforddiant hwn yn rhoi trosolwg o sut i nodi, sgorio, ysgrifennu, monitro ac uwchgyfeirio risg.

 
RHEOLI RISG AR GYFER PERCHNOGION A THRINWYR RISG

Mae'r hyfforddiant hwn yn rhoi gwybodaeth fanwl am sut i ddefnyddio system rheoli risg y sefydliad ac yn ail-ddilysu'r broses asesu a rheoli risg gan ganolbwyntio ar elfennau rheoli a sicrwydd risg.

 
FFRAMWAITH SICRWYDD RISG A BWRDD

Mae'r hyfforddiant hwn yn targedu ehangu'r wybodaeth am risg strategol a'r ymagwedd a amlinellir yn y Strategaeth Risg a Fframwaith Sicrwydd y Bwrdd. Mae'n canolbwyntio ar y gwahaniaeth rhwng Fframwaith Sicrwydd y Bwrdd a'r Gofrestr Risg Gorfforaethol.

 

Mae perfformiad risg cyffredinol wedi bodloni disgwyliadau dros y 12 mis diwethaf gyda'n polisi rheoli risg yn cael ei wreiddio ar draws y sefydliad ac yn cyd-fynd â'n Fframwaith Sicrwydd Bwrdd.

Mae cynnydd parhaus wedi'i wneud o ran ymgorffori'r rheolaeth 3 yn ystod 2024/25. Mae'r Fframwaith, y polisi, a'r polisïau a gweithdrefnau cyswllt wedi'u cyfathrebu ar draws y sefydliad a darparwyd hyfforddiant. Mae prosesau newydd wedi'u cyflwyno i'r holl staff ac mae gweithgareddau glanhau data wedi gwella ansawdd data o ran ein sefyllfa proffil risg yn fawr.

Mae gennym dudalen rheoli risg fewnol i helpu staff i reoli risg yn gadarnhaol, ac mae canllawiau cyflym ar gael ochr yn ochr â’r polisïau a’r gweithdrefnau i alluogi staff i fod yn fwy call wrth sgorio ac yn fwy rhagweithiol wrth reoli eu risgiau yn unol â pholisi. Mae staff wedi'u grymuso'n well i nodi risgiau mewn modd clir a chyson ac i uwchgyfeirio lle bo'n briodol o ran gwneud penderfyniadau a lliniaru. Mae cofrestrau risg a Dangosfwrdd Risg byw ar gael i staff drwy'r mecanwaith diogel hwn ar gyfer bod yn agored, yn dryloyw a chaniatáu dull cydweithredol o nodi a rheoli risg.

Mae'r holl risgiau wedi'u halinio'n llawn â'n cenadaethau strategol ac wedi'u mapio'n glir yn erbyn eu prif faes risg a'u dibyniaethau. Mae adolygiadau risg manwl wedi helpu i nodi risgiau nad ydynt yn eiddo i IGDC eu perchnogi na'u lliniaru ac mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo drwy'r strwythurau Llywodraethu ac adolygiadau risg Clinigol i nodi a rhannu'r risgiau hyn ar gyfer perchnogaeth ac atebolrwydd cywir. O ganlyniad uniongyrchol i hyn, mae proffil risg IGDC bellach yn dod yn fwy syml a chywir gan ganiatáu i'r ffocws ar risgiau critigol a nodi risgiau sy'n dod i'r amlwg i'r sefydliad.

 
 

Er mwyn sicrhau bod ffocws priodol yn cael ei roi ar ein risgiau ar lefel gorfforaethol (Mawrth 2025,) mae Pwyllgorau ein Bwrdd yn archwilio'n ddwfn i feysydd penodol o bryd i'w gilydd. Yn ystod 2024/25, cynhaliwyd yr archwiliadau dwfn canlynol: Cynhaliwyd dadansoddiad o risgiau corfforaethol gan gynnwys y symudiad mewn risgiau corfforaethol ers sefydlu IGDC, o fis Hydref 2023 i fis Medi 2024, yn ystod y flwyddyn ac fe’i cyflwynwyd i’n Bwrdd ym mis Tachwedd 2024.

Y Fframwaith Rheoli

Nid yw'n ofynnol i sefydliadau GIG Cymru gydymffurfio â phob elfen o'r Cod Llywodraethu Corfforaethol ar gyfer adrannau llywodraeth ganolog. Fodd bynnag, mae'r datganiad llywodraethu hwn yn darparu asesiad o sut mae IGDC yn cydymffurfio â phrif egwyddorion y cod fel y maent yn berthnasol i sefydliad sector cyhoeddus y GIG.

Mae IGDC yn gweithredu yn unol â ysbryd y cod yn effeithiol, gan weithredu'n agored ac yn unol â'i egwyddorion. Er nad yw pob elfen adrodd wedi cael ei gynnwys yn fanwl yn y datganiad llywodraethu hwn, mae manylion wedi'u darparu yn yr Adroddiad Blynyddol ehangach.

Mae IGDC yn cynnal asesiad blynyddol o'i gydymffurfiaeth â'r Cod Llywodraethu Corfforaethol. Adroddwyd canlyniad yr asesiad diweddaraf i Fwrdd yr AIA ym mis Mawrth 2025, ac nid oedd unrhyw ymddangosiad o anghydymffurfiaeth wedi'i adrodd.

Mae fframwaith rheoli risg IGDC yn cydymffurfio'n sylweddol ag egwyddorion Llyfr Oren: Rheoli Risg, wedi'i addasu i adlewyrchu maint, strwythur ac anghenion gweithredol y sefydliad. Nid oes unrhyw anghydymffurfiaeth wedi'i hadrodd oddi wrth y Llyfr Oren.

Gellir cyrchu'r Llyfr Oren yma.

Effeithiolrwydd Codi Pryderon

Mae IGDC wedi ymrwymo i feithrin diwylliant o fod yn agored sy'n cefnogi ac yn annog staff i godi pryderon mewn amgylchedd diogel a pharchus.

Yn ystod 2024–25, roedd pedwar achos Codi Pryderon. Cafodd pob un eu rheoli drwy'r prosesau priodol ac fe'u hadroddwyd i'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd.

Mae canlyniadau Arolwg Staff GIG Cymru ar gyfer IGDC yn dangos:

  • 91.3% o'r staff fyddai'n teimlo'n ddiogel wrth godi pryderon am ymddygiad anfoesegol.
  • 84.8% sydd â hyder y byddai IGDC yn mynd i'r afael â phryderon.
  • 84.8% yn teimlo'n ddiogel i godi llais am unrhyw beth sy'n peri pryder iddynt yn IGDC.

Elfennau Eraill y Fframwaith Rheoli

Ansawdd a Dyletswydd Gonestrwydd

Daeth IGDC o dan y Dyletswydd Ansawdd a'r Dyletswydd Gonestrwydd ym mis Ebrill 2023, yn unol â Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020.

Yn unol â'r dyletswyddau hyn, mae IGDC wedi cynhyrchu ei Adroddiad Blynyddol Dyletswydd Ansawdd cyntaf ac Adroddiad Blynyddol Dyletswydd Gonestrwydd, gan amlinellu ei gydymffurfiaeth a'i hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd tryloyw a o ansawdd uchel.

Mae'r Dyletswydd Ansawdd wedi'i hymgorffori'n weithredol yng ngweithrediadau IGDC ers Ebrill 2023. Mae IGDC wedi dangos ei ymrwymiad trwy gynhyrchu ei Hadroddiad Blynyddol Dyletswydd Ansawdd cyntaf, gan amlinellu ei gydymffurfiaeth a'r cynnydd a wnaed. Mae'r fenter hon yn adlewyrchu ffocws IGDC ar gynnal safonau gofal uchel a sicrhau gwelliant parhaus, gan gyd-fynd â'r egwyddorion a nodir yn y Ddeddf.

Fel Awdurdod Iechyd Arbennig, mae gan IGDC rwymedigaeth statudol i fod â'r wybodaeth, prosesau a gweithdrefnau angenrheidiol i weithredu a rheoli Dyletswydd Gonestrwydd yn briodol.

I sicrhau hyn, caiff pob digwyddiad ei adolygu a'i weithredu gan y tîm Diogelwch Cleifion (lle bo angen ar y cyd â'r tîm Llywodraethu Corfforaethol), a rheolir unrhyw uwchgyfeirio, adolygiad dilynol o adroddiadau a dysgu gan ddigwyddiadau gan y Grŵp Adolygu Digwyddiad a Dysgu (IRLG), ac yn ei dro mae’r grŵp hwn yn adrodd i’r Pwyllgor Llywodraethu a Diogelwch Digidol.