CENHADAETH 5:

Eleni yw ein trydedd flwyddyn fel Awdurdod Iechyd Arbennig. Rydym wedi pennu gweledigaeth a rhaglen waith uchelgeisiol i ni’n hunain ac mae Cenhadaeth 5 yn disgrifio’r galluogwyr sy’n sail i bopeth a wnawn.

Dyma rai o’r camau a gymerwyd gennym yn erbyn pob un o amcanion y Ddeddf:

Cymru sy’n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang.

Gwnaethom greu strategaeth gynaliadwyedd yn seiliedig ar ofynion System Rheoli Amgylcheddol ISO 14001 a chynllun cyflenwi ar gyfer datgarboneiddio. Mae ein prosesau caffael yn dilyn egwyddorion yr economi sylfaenol.

Cymru Lewyrchus.

Bu inni ganolbwyntio ar gynaliadwyedd ariannol, effeithlonrwydd, rheoli buddion a’n cynllun datgarboneiddio. Cryfhawyd ein perthynas â phrifysgolion a Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru (WIDI) i gefnogi ein hymrwymiad i uwchsgilio ein gweithwyr a darparu cyfleoedd trwy brentisiaethau, interniaethau, lleoliadau a rhaglenni academaidd.

Cymru Gydnerth.

Mae ein rhaglen Gwasanaethau Digidol ar gyfer Cleifion a’r Cyhoedd yn annog gwell cyfathrebu rhwng dinasyddion a darparwyr gofal iechyd. Rydym hefyd yn profi gwydnwch ein sefydliad trwy fentrau ansawdd megis achredu safonau ansawdd.

Cymru Iachach.

Mae ein 14 portffolio cyflawni yn dangos sut y gall ein gwasanaethau gefnogi’r amcan hwn drwy ddarparu’r data cywir am yr amser cywir i glinigwyr ni waeth ble mae cleifion yn cael eu trin.

Cymru sy’n Fwy Cyfartal.

Rydym yn blaenoriaethu cynllunio talent ac olyniaeth, gan alinio â fframweithiau sgiliau safonol fel y Fframwaith Proffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg (DDAT), a datblygu ein cynllun cydraddoldeb strategol.

Cymru o Gymunedau Cydlynus.

Mae ein strategaeth rhanddeiliaid a’n tîm ymgysylltu canolog yn canolbwyntio ar ddatblygu a chynnal ein perthnasoedd strategol gyda chleifion, defnyddwyr a chymunedau rhanddeiliaid ehangach.

Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn Ffynnu.

Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn cynnwys ymrwymiad i fod yn sefydliad dwyieithog gyda ffocws ar hyfforddiant Iaith Gymraeg.