CYFLWYNO A DADANSODDIAD PERFFORMIAD
IGDC.DHCW
Trosolwg Perfformiad
CENHADAETH 2:
Mae’r genhadaeth hon yn cwmpasu meysydd clinigol a lleoliadau gofal mawr, yn ogystal â’r systemau arbenigol cenedlaethol allweddol yr ydym yn eu hadeiladu neu’n eu prynu ar ran GIG Cymru. Mae llawer o gyfleoedd i:
'gynllunio llwybrau mwy cyfannol ac effeithlon sy'n canolbwyntio mwy ar yr unigolyn yn hytrach na bod llawer o wahanol dimau yn gweld cleifion sy’n canolbwyntio ar un agwedd ar eu hanghenion iechyd yn unig'
Fframwaith Clinigol Cenedlaethol
Mae Digidol yn cefnogi’r rhaglenni allweddol a sefydlwyd i gyflawni’r weledigaeth hon.
Cyflawni’r Rhaglen
Cyhoeddwyd Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol Cymru (NIF) gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2022. Mae’r fframwaith yn amlygu rôl bwysig technoleg ddigidol wrth ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o ansawdd uchel. Rydym wedi cael ein comisiynu i adolygu'r holl systemau brechu ac archwilio sut i wneud i'r systemau hyn weithio'n well gyda'i gilydd. Arweiniodd heriau yn y trydydd chwarter at amserlenni diwygiedig ar gyfer darganfod y Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol (NIF), ond mae gweithgarwch yn parhau, a derbyniwyd adroddiadau interim.
Mae System Imiwneiddio Cymru wrth wraidd rhaglen frechu COVID-19 yng Nghymru. Mae hefyd yn cefnogi gweinyddu brechiadau ffliw tymhorol ochr yn ochr â brechiadau COVID-19, neu mewn clinigau ffliw galw heibio. Mae cofnodion meddygon teulu cleifion yn cael eu diweddaru'n awtomatig pan fydd gwybodaeth yn cael ei hychwanegu at System Imiwneiddio Cymru. Defnyddir y system ar draws pob bwrdd iechyd, gyda bron i 14,000 o ddefnyddwyr mewn lleoliadau brechu, 8,187 mewn practisau meddygon teulu a 352 mewn fferyllfeydd.
Ers ei lansio ym mis Rhagfyr 2020, mae System Imiwneiddio Cymru (WIS) wedi’i gwella’n barhaus, gan ychwanegu nodweddion fel negeseuon trefnu a negeseuon atgoffa, ac integreiddio â’r Gwasanaeth Archebu Brechlyn.
Ar ddechrau'r flwyddyn ariannol, llwyddwyd i wahanu System Imiwneiddio Cymru oddi wrth y System Integredig Plant a Phobl Ifanc (CYPrIS). Mae gweithredu'r System Imiwneiddio Cymru fel system annibynnol wedi gwella sefydlogrwydd system, rhwyddineb cynnal a chadw a bydd yn galluogi moderneiddio pellach i ddiwallu anghenion defnyddwyr.
Ym mis Awst 2023, defnyddiwyd System Imiwneiddio Cymru ar gyfer ymgyrch Atgyfnerthu yr Hydref. Roedd gwelliannau mewn awtomeiddio profion a gweithredu System Imiwneiddio Cymru fel system annibynnol yn cefnogi ansawdd data gwell yn dilyn adnewyddu carfannau. Mae awtomeiddio profion wedi lleihau'r amser a gymerir i wneud newidiadau i System Imiwneiddio Cymru.
Ym mis Chwefror 2024 bu inni wneud newidiadau ar gyfer ymgyrch Atgyfnerthu y Gwanwyn mewn llai na 4 wythnos, bron i ddau fis yn gyflymach o gymharu ag ymgyrchoedd y gwanwyn blaenorol.
Er gwaethaf heriau yn Chwarter 4, megis cyfyngiadau adnoddau, heriau recriwtio ac oedi wrth sicrhau cyllid, cyflawnwyd cerrig milltir sylweddol megis cofnodi’r 10 miliynfed brechiad COVID ar System Imiwneiddio Cymru. Mae ffyrdd newydd o weithio ac awtomeiddio wedi cefnogi gwelliannau parhaus ac wedi ein galluogi i ymateb i anghenion Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol Cymru. Mae cyflawniadau'n cynnwys gwneud newidiadau i'r Rhaglen Imiwneiddio rhag Feirws Papiloma Dynol (HPV) o fewn y System Integredig Plant a Phobl Ifanc (CYPrIS) a symud ein cod CYPrIS i Git, gan wella arferion datblygu. Mae 3,821 o ddefnyddwyr mewn byrddau iechyd a 360 o ddefnyddwyr mewn practis cyffredinol.
Mae System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS) yn darparu offer digidol i nyrsys cymunedol, timau iechyd meddwl, gweithwyr cymdeithasol a therapyddion gydweithio'n well. Mae'n cefnogi gofal cymunedol, yn helpu i leihau arosiadau diangen yn yr ysbyty ac yn gwella'r broses o gadw cofnodion er mwyn osgoi dyblygu. Mae WCCIS hefyd yn sicrhau mynediad priodol at ddata sensitif ac yn cefnogi asesiadau integredig rhwng staff iechyd a gofal cymdeithasol, gan wella gwaith tîm amlddisgyblaethol. Ers 2016, mae 19 o sefydliadau, gan gynnwys 15 awdurdod lleol a phedwar bwrdd iechyd, wedi rhoi’r system ar waith.
Drwy gydol y flwyddyn, mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud o ran datblygu gwasanaethau gofal iechyd digidol o fewn y rhaglen strategol Gofal Sylfaenol, gyda’r nod o ddarparu mynediad di-dor i wasanaethau yn agos i’r cartref.
Wedi'i rheoli gan IGDC, mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar adeiladu, caffael a rheoli systemau ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae hyn yn cynnwys meddygon teulu, fferyllwyr cymunedol, deintyddion, a staff iechyd cymunedol, iechyd meddwl a gofal cymdeithasol.
Mae cyflawniadau allweddol yn cynnwys rhyddhau galluoedd symudol ar gyfer y system WCCIS a diweddariadau lluosog i lwyfan y Cyfarwyddwr Gofal yn y chwarter cyntaf. Dechreuodd ymgysylltiad gweinidogol drafodaethau ar yr Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Cam 2, ochr yn ochr â dechrau ar waith darganfod ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a phroffesiynau perthynol i iechyd.
Mae Rhaglen Mamolaeth Ddigidol Cymru yn anelu at ddarparu datrysiad mamolaeth ddigidol ledled Cymru sy’n cefnogi clinigwyr ac yn grymuso menywod a phobl sy’n geni i gymryd rhan mewn gofal diogel o ansawdd uchel sy’n cefnogi canlyniadau a phrofiadau gwell.
Mae Rhaglen Mamolaeth Ddigidol Cymru (DMC) wedi gwneud cynnydd drwy sefydlu trefniadau llywodraethu, recriwtio staff a dechrau ymgysylltu cyn-gaffael. Yn yr ail chwarter, cymeradwyodd Rhaglen Mamolaeth Ddigidol Cymru ei strategaeth, ei gweledigaeth, a’i model gweithredu targed. Fodd bynnag, erbyn y trydydd chwarter, roedd y rhaglen yn wynebu heriau cymeradwyo ac ansicrwydd ariannu, a arweiniodd at gyfyngiadau adnoddau ac oedi. Cynhyrchodd y rhaglen Achos Busnes Amlinellol drafft yn y pedwerydd chwarter ac mae bellach yn aros am adborth gan Lywodraeth Cymru ar y dull ariannu wrth symud ymlaen.
Nod y Rhaglen Gofal Llygaid Digidol Genedlaethol yw rhoi mynediad i offthalmolegwyr ysbytai ac optometryddion cymunedol i wybodaeth glinigol a rennir. Mae hyn yn helpu i fonitro iechyd llygaid a darparu gofal a rennir mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol fel optegwyr y stryd fawr, fel rhan o un llwybr cysylltiedig.
Mae’r Rhaglen Gofal Llygaid Digidol Genedlaethol yn cefnogi’r themâu buddsoddi canlynol gan Lywodraeth Cymru:
Trawsnewid gwasanaethau digidol ar gyfer cleifion a’r cyhoedd
Trawsnewid gwasanaethau digidol ar gyfer gweithwyr proffesiynol
Buddsoddi mewn data a gwybodaeth ddeallus
Eleni, trosglwyddwyd y Rhaglen Gofal Llygaid Digidol Genedlaethol i IGDC o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Ar gais Llywodraeth Cymru, gwnaethom gynnal 'saib ac adolygiad' o'r rhaglen a dechrau gweithgareddau i gefnogi'r mudo y bydd angen iddo fod o dan gontract cyflenwr newydd. Rydym wedi bod yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i ddod o hyd i’r dull caffael gorau a chyda phob bwrdd iechyd i benderfynu beth y gellir ei gyflawni o dan y contract presennol, sy’n dod i ben ym mis Ionawr 2025.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi rhoi’r system Cofnod Cleifion Electronig ar waith ar gyfer sawl is-arbenigedd ar wahanol safleoedd. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi rhoi’r system ar gyfer glawcoma ar waith, i gyd o fewn amlen ariannu lai.
Cafodd y Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng eu cyd-gynllunio gan arweinwyr clinigol a phroffesiynol. Maent yn cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn Rhaglen Lywodraethu 2021–2026, i ddarparu gofal iechyd effeithiol, cynaliadwy o ansawdd uchel mor agos at y cartref â phosibl, a gwella mynediad ac integreiddio gwasanaethau. Yn 2023/24, gwnaed cynnydd sylweddol o ran rheoli data gofal iechyd ac integreiddio gwasanaethau ledled Cymru.
1. Cydgysylltu, cynllunio a chymorth ar gyfer poblogaethau sydd â risg uwch o fod angen gofal brys neu ofal mewn argyfwng
2. Cyfeirio pobl ag anghenion gofal brys i’r lle iawn y tro cyntaf
3. Dewisiadau eraill sy’n ddiogel yn glinigol yn lle mynd i’r ysbyty
4. Ymateb cyflym os oes argyfwng corfforol neu argyfwng iechyd meddwl
5. Darparu’r gofal a’r ymarfer rhyddhau gorau posibl i’r claf ar ôl iddo gael ei dderbyn i’r ysbyty
6. Dull ‘gartref yn gyntaf’ a lleihau’r risg o orfod mynd yn ôl i’r ysbyty
Mae'r Chwe Nod ar gyfer y Rhaglen Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, er mwyn deall 'sut olwg sydd ar yr hyn sy’n dda' i gleifion sy'n cael gofal mewn Adran Achosion Brys. Mae angen Set Ddata Gofal Brys Cymru (WECDS) i gytuno ar safonau gofal, creu dull unffurf o fesur gweithgarwch a datblygu model gofal y cytunwyd arno’n genedlaethol ar gyfer adrannau achosion brys. Bydd hyn yn galluogi gwelliannau mewn canlyniadau clinigol, yn ogystal â phrofiad cleifion a staff.
Mae Set Ddata Gofal Brys Cymru yn cefnogi cyflawni Nod 4 o'r Chwe Nod. Cyflwynwyd y set ddata ddrafft a'r cynnig datblygu yng Ngrŵp Datblygu Gwybodaeth Cymru ar 7 Mawrth 2024 a disgwylir iddynt gael eu cyhoeddi yn chwarter cyntaf 2024/25. Yn y dyfodol, bydd y set ddata yn cael ei mabwysiadu gan y gwasanaeth ambiwlans yn ei wasanaethau 999 ac 111, gan arwain at integreiddio gwasanaethau’n well a mewnwelediadau mwy ystyrlon.
Mae'r Cofnod Gofal Cleifion (ePCR) a'r System ar gyfer Anfon Ambiwlansys gyda Chymorth Cyfrifiadurol (CAD) yn cefnogi Nodau 2 a 3 trwy greu set ddata gadarn i'w rhannu â byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, gan gysylltu â setiau data eraill i wella dealltwriaeth o'r gwasanaeth a llwybrau cleifion. Mae gwaith ar y gweill gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) a Phrifysgol Warwick i sefydlu’r set ddata sylfaenol a fydd yn cael ei rhannu â byrddau iechyd. Bydd y data hwn yn aros yn yr Adnodd Data Cenedlaethol (NDR).
Mae gwasanaeth Gofal Brys ar yr Un Diwrnod (SDEC), sy’n cefnogi Nod 3, yn dal i fod yn ei gamau datblygu cynnar ar draws pob bwrdd iechyd. Mae gwasanaeth SDEC yn rhan o ddull cam un Set Ddata Gofal Brys Cymru. Rydym wedi gweithio gydag arweinwyr Nodau 3 a 4 i ddatblygu mesurau amlinellol, ac mae’r rhain yn cael eu casglu ar hyn o bryd ar draws gwasanaethau SDEC ledled Cymru. Rydym yn parhau i weithio ar wella ansawdd data i sicrhau ei fod yn ystyrlon ac yn ddefnyddiadwy.
Mae’r Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys (UPCC), 111 a’r Gwasanaethau y Tu Allan i Oriau (OOH) wedi bod yn gweithio gyda’r tîm Safonau Data i ddiweddaru’r Hysbysiad Newid Safonau Data (DSCN) presennol o 2019, gan gefnogi Nod 2. Bwriedir cyhoeddi DSCN teleffoni, gan gynnwys gwaith UPCC, yn ystod chwarter cyntaf 2024/25.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda chyfarwyddwr Nod 6 i ddatblygu set ddata gyfanredol i fesur gweithgarwch Rhyddhau i Adfer ac Asesu (D2RA) ar draws byrddau iechyd.
Rydym wedi cynhyrchu dau ddangosfwrdd Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng newydd yn lle'r hen Ddangosfwrdd Gofal Heb ei Drefnu.
Dangosfwrdd gweithrediadau gyda metrigau a galwadau amser real neu amser real bron ar draws Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng.
Dangosfwrdd rheoli gyda metrigau sy’n ymwneud â pherfformiad gwasanaeth.
Aeth y dangosfyrddau, a reolir ac a gynhelir gan Wasanaethau Gwybodaeth IGDC, yn fyw ym mis Medi 2023 ac maent yn cael eu defnyddio ar draws GIG Cymru a Llywodraeth Cymru. Maent yn hygyrch heb fod angen Gliniadur GIG Cymru na mewngofnodi, gan alluogi cynnydd sylweddol o ran mynediad data i Lywodraeth Cymru.
Mae IGDC wedi bod yn cefnogi datblygu a phrofi System Wybodaeth Gofal Dwys Cymru (WICIS). Bydd WICIS yn casglu gwybodaeth amser real o ddyfeisiau monitro, pympiau ac offer anadlol a ddefnyddir ar gyfer gofal cleifion. Bydd y system yn rhoi mynediad hawdd at ddata a mewnwelediadau hanfodol, gan roi trosolwg cyflym a chlir i staff rheng flaen o statws cleifion a dyfeisiau ar draws y ward. Mae’r datrysiad digidol newydd yn bwriadu disodli'r holl siartiau papur ac arsylwadau llawysgrifen o arwyddion hanfodol. Gyda dros 10,000 o gleifion yn cael eu derbyn i ofal critigol yng Nghymru bob blwyddyn, bydd y system ddigidol hon yn helpu i leihau’r baich ar staff rheng flaen. Bydd yn cynnwys rheoli meddyginiaethau a bydd yn cael ei hintegreiddio i systemau digidol GIG Cymru, gan sicrhau bod gwybodaeth ar gael pryd a ble mae ei hangen.
Aeth cylchau profi ar gyfer WICIS yn eu blaenau fel y cynlluniwyd yn Ysbyty Grange, gan ddangos parodrwydd i fynd yn fyw. Fodd bynnag, daeth heriau i’r amlwg yn y trydydd chwarter yn dilyn profion derbyn defnyddwyr (UAT) a phrofion dilysu, a oedd yn gofyn am ailgynllunio gyda’r byrddau iechyd a Gweithrediaeth GIG Cymru. O ganlyniad, mae'r lansiad byw cyntaf o’r cylchau hyn wedi'i ohirio.
Yn gynharach yn y flwyddyn, cwblhawyd adolygiad strategol o brosiect System Adrannau Achosion Brys Cymru (WEDS) ac fe’i cyflwynwyd i’r Bwrdd prosiect cenedlaethol. Yn dilyn yr adolygiad hwn, penderfynwyd peidio ag ymestyn y broses gyflwyno y tu hwnt i'r safle peilot. O ganlyniad, mae trafodaethau masnachol wedi'u cynnal gyda'r cyflenwr a disgwylir i'r prosiect ddirwyn i ben.
Mae gwasanaethau diagnostig yng Nghymru yn wynebu heriau oherwydd galw cynyddol, newidiadau mewn gofal clinigol, diffyg safoni a phrinder arbenigedd. Nod GIG Cymru yw gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gwasanaethau drwy ad-drefnu gwasanaethau a darparu diagnosis yn nes at y claf. Mae technoleg ddigidol yn cael ei defnyddio i wella darpariaeth gwasanaeth, diogelwch cleifion, cyfathrebu, cyfraddau gwallau, costau a defnydd data.
Rydym yn gweithio i integreiddio datrysiadau gwybodeg labordy a radioleg newydd, ehangu ymarferoldeb ceisiadau electronig, a gwella argaeledd cenedlaethol canlyniadau diagnostig ac adroddiadau. Mae hyn yn golygu gwell mynediad at ganlyniadau profion, gan wella gofal cleifion a diogelwch clinigol. Mae gwell rhannu gwybodaeth ar draws ffiniau a gwell storio a dosbarthu delweddau hefyd yn nodau allweddol.
Mae delweddu diagnostig modern yn allweddol i ddiagnosis a thriniaeth yng ngofal modern cleifion. Mae gwasanaethau radioleg yn cael eu darparu mewn ystod eang o leoliadau gofal iechyd ar draws pob bwrdd iechyd ac iechyd yng Nghymru. Yn y dyfodol, bydd canolfannau diagnostig rhanbarthol yn ehangu’r ystod o wasanaethau a ddarperir y tu allan i amgylcheddau ysbyty arferol.
Nod y rhaglen Caffael System Gwybodeg Radioleg (RISP) yw caffael a gweithredu system newydd sy’n integreiddio archifo lluniau a chyfathrebu, rheoli dosau cleifion a swyddogaethau rheoli gwybodaeth radioleg. Bydd y system integredig yn cael ei chyflwyno ledled Cymru erbyn 2026.
Mae Rhaglen System Rheoli Gwybodaeth Labordy (LIMS2.0) yn cefnogi darparu gwasanaeth patholeg modern, cynaliadwy a diogel fel rhan o Ddatganiad o Fwriad Patholeg.
Trosglwyddwyd y ddwy raglen i IGDC o Gydweithrediaeth Iechyd GIG Cymru ym mis Ionawr 2023.
Yn y chwarter cyntaf, cymeradwywyd yr achos busnes llawn ar gyfer y prosiect RISP, gan ganiatáu i'r contract gael ei ddyfarnu. Parhaodd y cynnydd gyda gweithredu’r Prif Gytundeb Gwasanaeth (MSA) ym mis Mehefin a chymeradwyo Gorchmynion Defnyddio Lleol gan fyrddau iechyd lluosog. Fodd bynnag, cafwyd anawsterau oherwydd newidiadau yng nghynllun gweithredu'r cyflenwr ac mae trafodaethau'n parhau.
Daethpwyd i gytundeb gyda'r cyflenwr i derfynu'r contract ar gyfer y system wybodaeth labordy newydd. O ganlyniad, estynnwyd y tymor ar gyfer y system wybodaeth labordy etifeddol i fis Mehefin 2030. Dechreuwyd uwchraddio'r fersiwn meddalwedd diweddaraf yn yr ail chwarter a gwnaed cynnydd sylweddol yn LIMS2.0 erbyn y trydydd chwarter gyda'r rhaglen yn trosglwyddo i'r cam lansio. Mae'r prosiect yn parhau i symud ymlaen yn gyflym er gwaethaf amserlenni tynn ac mae bellach yn y cyfnod sefydlu ac adeiladu, tra bod profion integreiddio system wedi dechrau ar ryngwynebau cam un.
Mae'r ddwy raglen wedi wynebu cyfyngiadau o ran adnoddau a phryderon ynghylch amserlenni adeiladu uchelgeisiol a hyder cyflenwi cyflenwyr. Fodd bynnag, yn gyffredinol, gwnaed cynnydd sylweddol.
Mae cynllun ‘Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach 2019’ yn amlinellu’r canlynol: ‘Mae trawsnewid sydd ei angen i wneud y gorau o’r cynnydd mewn iechyd ar gyfer dinasyddion Cymru yn deillio o ryngweithio â’r proffesiwn fferyllol.’ Mae'r cynllun hwn hefyd yn canolbwyntio ar ddarparu mwy o werth a chanfod arbedion cost.
Mae Moddion Digidol yn cyfuno prosiectau a fydd yn cyflawni buddion dull rhagnodi cwbl ddigidol ym mhob lleoliad gofal yng Nghymru. Gan ymateb i adolygiad annibynnol, ym mis Medi 2021, nododd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol uchelgais ar gyfer cynllun moddion digidol cynhwysfawr i Gymru a gofynnodd i Iechyd a Gofal Digidol Cymru sefydlu’r rhaglen. Mae gan y rhaglen bedwar maes gwaith rhyng-gysylltiedig:
Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig Gofal Sylfaenol (EPS)
Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau Gofal Eilaidd yn Electronig (ePMA)
Cofnod Meddyginiaethau a Rennir (SMR)
Mynediad i Gleifion (Ap GIG Cymru)
Ym mis Tachwedd, aeth Prawf Cysyniad (SPoC) y rhaglen EPS yn fyw. Mae EPS yn disodli ffurflenni presgripsiwn papur gyda system ddigidol sy'n caniatáu i feddygon teulu anfon presgripsiwn yn electronig yn uniongyrchol i fferyllfa o ddewis y claf. Ymwelodd y Gweinidog dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan, â'r safleoedd prawf i nodi'r achlysur. Cwblhaodd y Prosiect Mynediad Cleifion y datblygiad meddalwedd ar gyfer y nodwedd “hysbysiad i nodi bod presgripsiwn yn barod” ar Ap GIG Cymru. Mae'r nodwedd hon yn rhoi gwybod i gleifion pan fydd eu presgripsiwn gan feddyg teulu yn barod i'w gasglu o'u fferyllfa gymunedol. Hefyd, dechreuodd datblygiad nodwedd sy'n caniatáu i gleifion enwebu fferyllfa gymunedol o fewn Ap GIG Cymru i dderbyn eu presgripsiwn gan Feddyg Teulu.
Ers lansio’r Rhaglen Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig Gofal Sylfaenol (EPS), mae 1,457 o bresgripsiynau a 3,196 o eitemau presgripsiwn wedi’u hanfon hyd yn hyn. Mae dwy system fferyllfa ychwanegol wedi'u cymeradwyo i ddefnyddio EPS ac mae'r gwasanaeth wedi'i gyflwyno i bractis meddyg teulu arall. Er bod dibyniaethau ar ddemograffeg cleifion wedi effeithio ar y Cofnod Meddyginiaethau a Rennir (SMR), mae profion gyda dau gyflenwr ar y fframwaith ePMA yn parhau. Rhoddodd y Prosiect Mynediad Cleifion flaenoriaeth i gleifion mudol yr effeithiwyd arnynt gan broblemau gyda Fy Iechyd Ar-lein.
Yn gyffredinol, mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud o ran datblygu mentrau rheoli presgripsiynau a meddyginiaeth electronig. Mae’r ymdrechion hyn yn dangos ymrwymiad parhaus i oresgyn heriau a sicrhau gweithrediad llwyddiannus er budd cleifion a darparwyr gofal iechyd ledled Cymru.
Cyflawniad Gweithredol
Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn dibynnu ar y dechnoleg a'r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu. Rydym yn gweithio'n rhagweithiol i sicrhau'r dibynadwyedd a'r argaeledd mwyaf posibl.
Rydym yn falch o nodi bod ein gwasanaethau gweithredol wedi perfformio'n dda dros y flwyddyn ddiwethaf, gan sicrhau argaeledd cyfartalog o 99.984%. Yn ystod y cyfnod hwn, cafwyd cyfanswm o 44 o ddigwyddiadau mawr.
Cymhariaeth Flynyddol o Argaeledd Gwasanaeth IGDC
Mae digwyddiadau mawr yn effeithio ar nifer fawr o ddefnyddwyr ac yn cynnwys materion fel oedi wrth brosesu canlyniadau profion, amser segur ar gyfer gwasanaeth neu amhariad rhannol ar wasanaeth. Roedd rhai o'r digwyddiadau hyn oherwydd problemau gyda chyflenwyr trydydd parti neu broblemau seilwaith yn adeiladau'r bwrdd iechyd. O'r digwyddiadau TG mawr hyn roedd 98% wedi'u datrys o fewn targed yr amseroedd datrys.
Mae systemau cyfrifiadurol wrth wraidd gofal sylfaenol ac yn rheoli miliynau o gofnodion cleifion bob blwyddyn. Rydym yn darparu gofal sylfaenol gydag ystod gynyddol o offer digidol i helpu meddygon teulu i reoli cofnodion, trefnu tasgau dyddiol a gofalu am gleifion.
Ymhellach i sefydlu'r Gyfarwyddiaeth Gofal Sylfaenol, Cymunedol ac Iechyd Meddwl ddiwedd y llynedd, rydym wedi datblygu ein Strategaeth Gofal Sylfaenol. Wedi’i chyhoeddi yn chwarter dau, nod y strategaeth yw rhoi llwyfan i IGDC y gallwn ei ddefnyddio i ddarparu cynnyrch a gwasanaethau digidol gyda gwell gwerth a buddion.
Ymgymerwyd â phroses gystadleuaeth fach y Contract Fframwaith Systemau Meddygon Teulu eleni, a dyma'r broses a ddefnyddir i bob meddygfa i ddewis eu system glinigol nesaf. Ar ôl i'r broses hon ddod i ben, cadarnhaodd un o gyflenwyr systemau meddygon teulu ei fod yn tynnu'n ôl o Gymru. Mae hyn wedi gofyn am gynllunio i symud 198 o bractisau meddygon teulu i system glinigol arall, gan amlygu heriau o ran dyrannu adnoddau.
Mae Dewis Fferyllfa yn helpu fferyllfeydd cymunedol i ddarparu gwasanaethau i gleifion a’r cyhoedd, gan ryddhau apwyntiadau meddygon teulu ar gyfer pobl ag anghenion mwy cymhleth. Mae’n cefnogi fferyllwyr wrth wneud penderfyniadau clinigol ac yn gwella diogelwch cleifion trwy gynnig:
cyngor a chymorth hygyrch ar adeg ac mewn lle sy'n gyfleus i gymunedau lleol.
templedi digidol sy'n helpu i arwain fferyllwyr trwy ymgynghoriad â chleifion.
O'r rhai a holwyd, dywedodd 77% ohonynt (344,371) y byddent wedi gwneud apwyntiad gyda'u meddyg teulu pe na bai Dewis Fferyllfa ar gael. Eleni, gwnaethom hefyd gyflwyno gwasanaeth Heintiau’r Llwybr Wrinol (UTI) ledled Cymru i gynorthwyo fferyllwyr i ddarparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn nes at eu cartrefi.
Mae System Gweinyddu Cleifion Cymru (WPAS) yn cadw manylion adnabod cleifion, apwyntiadau cleifion allanol, llythyrau gweinyddol, nodiadau a data atgyfeiriad am driniaeth (RTT) cleifion. Rydym yn gweithio tuag at un olwg ar y data hwn, gan hyrwyddo cysylltiadau di-dor â Phorth Clinigol Cymru a safoni data cyfeirio a ffyrdd o weithio. Defnyddir WPAS mewn chwe bwrdd iechyd yng Nghymru a Chanolfan Ganser Felindre.
Dechreuodd y flwyddyn gyda lansiad llwyddiannus enghraifft gyfunol o System Gweinyddu Cleifion Cymru ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gan wneud gwybodaeth a rhyngweithiadau cleifion ar gael yn hawdd ar draws y bwrdd iechyd cyfan. Mae hyn yn arbed amser, yn cynyddu diogelwch cleifion ac yn gwella profiad cleifion.
Mae gwaith yn parhau i fynd i'r afael â goblygiadau'r newid yn y ffin rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar WPAS a systemau cysylltiedig.
Yn ogystal, rhoddwyd swyddogaethau ar waith i alluogi timau amlddisgyblaethol i gydweithio'n effeithiol.
Pwyntiwch i weld manylion:
Defnyddwyr Cofrestredig WPAS a Thrafodion (Miliynau)
System TG glinigol yw WLIMS a ddefnyddir gan staff patholeg ledled Cymru i storio, cofnodi a chyfnewid gwybodaeth fel canlyniadau profion gwaed. Mae'r system hefyd yn cysylltu â'r peiriannau sy'n perfformio testunau ac yn dadansoddi'r samplau. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rheolodd y system 40 miliwn o brofion. Mae WLIMS yn cysylltu â Phorth Clinigol Cymru, gan ganiatáu i weithwyr iechyd proffesiynol weld yr holl brofion blaenorol a gynhaliwyd ar gyfer claf a gofyn am rai newydd, ni waeth ble y maent yng Nghymru.
Eleni, aeth ochr trallwysiad gwaed y gwasanaeth yn fyw ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, sy'n golygu bod data trallwyso gwaed bellach ar gael ledled Cymru ar gyfer staff labordy a chlinigol, gan alluogi dull mwy cydgysylltiedig.
System fferylliaeth ysbytai ddigidol yw WHPSMS a ddefnyddir yn genedlaethol mewn 28 o safleoedd ar draws saith bwrdd iechyd ac un ymddiriedolaeth yng Nghymru. Wedi'i roi ar waith yn 2022, mae'n gwella cywirdeb gweinyddu cyfrifiadurol a rheoli stoc meddyginiaethau, gan ddisodli meddalwedd 30 oed. Mae'n cynnig gwell perfformiad, dibynadwyedd a rheolaeth effeithlon ar feddyginiaethau. Mae'r eglurder data gwell yn sicrhau cydymffurfiaeth â llywodraethu cenedlaethol, sy'n golygu gofal mwy diogel a mwy cyson i gleifion.
Yn 2023/24 cyflwynwyd y Gyfnewidfa Patholeg Genedlaethol gennym. Mae'r system hon yn galluogi defnyddwyr fel nyrsys i olrhain statws presgripsiynau heb ffonio'r fferyllfa am ddiweddariadau. Mae hyn yn arbed amser ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i gleifion.