CENHADAETH 1:

Mae'r genhadaeth hon yn sail i bopeth yr ydym yn ei ddarparu, gan sicrhau bod gwybodaeth yn llifo'n ddiogel rhwng systemau ar seilwaith diogel. Mae maint y data iechyd a gofal a gasglwyd wedi tyfu’n gyflym yng Nghymru wrth i ni drosglwyddo i systemau digidol. Fodd bynnag, mae data yn aml yn dameidiog ac wedi'i gadw ar draws gwahanol systemau, gwasanaethau ac ardaloedd daearyddol oherwydd cymhlethdod y llwybrau gofal.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr angen am ddefnyddio data yn well i gefnogi gwneud penderfyniadau a gwella gofal yn ei Datganiad o Fwriad Gwybodaeth 2017 ac ym mholisi Cymru Iachach 2019. Rhwystr rhag rhannu data yw diffyg safonau technegol ar gyfer rhyngweithredu, diogelwch a seilwaith.

Mae IGDC yn bwriadu mynd i'r afael â hyn trwy weithredu pensaernïaeth 'platfform agored' cwmwl, safonau cenedlaethol, ac Adnodd Data Cenedlaethol (NDR) i ddod â data cleifion at ei gilydd mewn un lle. Bydd hyn yn gwella’r gwaith o storio data a’r gallu i’w ailddefnyddio, yn lleihau dibyniaeth ar gyflenwyr penodol, yn gwneud data’n fwy cludadwy a diogel, ac yn galluogi dadansoddeg ac ymchwil i gefnogi gwerth mewn gofal iechyd.