DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL. SWYDDOGATEBOL YR AWDURDOD IECHYD ARBENNIG.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cyfarwyddo mai'r Prif Weithredwr ddylai fod yn Swyddog Atebol i’r Awdurdod Iechyd Arbennig.

Mae cyfrifoldebau perthnasol Swyddogion Atebol, gan gynnwys eu cyfrifoldeb am briodoldeb a chysondeb y cyllid cyhoeddus maen nhw’n atebol amdano, ac am gadw cofnodion priodol, yn cael eu manylu ym Memorandwm y Swyddog Atebol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Gallaf gadarnhau:

Hyd eithaf fy ngwybodaeth, nad oes unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol nad yw archwilwyr yr endid yn ymwybodol ohoni, ac fy mod i fel y Swyddog Atebol wedi cymryd yr holl gamau y dylwn fod wedi’u cymryd i wneud fy hun yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol ac wedi cadarnhau bod archwilwyr yr endid yn ymwybodol o'r wybodaeth honno.

Bod adroddiad blynyddol a chyfrifon IGDC yn eu cyfanrwydd yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy ac fy mod yn cymryd cyfrifoldeb personol am yr adroddiad blynyddol a’r cyfrifon a’r dyfarniadau sy’n ofynnol ar gyfer penderfynu ei fod yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy.

Mae’r Swyddog Atebol yn gyfrifol am awdurdodi cyhoeddi’r datganiadau ariannol ar y dyddiad y cawsant eu hardystio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Hyd eithaf fy ngwybodaeth a’m cred, rwyf wedi cyflawni’n briodol y cyfrifoldebau a nodwyd yn y llythyr sy’n fy mhenodi fel Swyddog Atebol.

Dyddiad: 9 Gorffennaf 2024
English