ADRODDIAD AR DÂL A STAFF

Mae’r wybodaeth yn yr adroddiad hwn yn ymwneud â thâl yr uwch reolwyr a gyflogir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC). Y diffiniad o “Uwch Reolwr” yw: 'yr unigolion hynny mewn swyddi uwch sydd ag awdurdod neu gyfrifoldeb dros gyfarwyddo neu reoli prif weithgareddau corff y GIG. Mae hyn yn golygu'r rhai sy'n dylanwadu ar benderfyniadau'r endid yn ei gyfanrwydd yn hytrach na phenderfyniadau cyfarwyddiaethau neu adrannau unigol.’ O ran IGDC, ystyrir mai’r uwch reolwyr yw mynychwyr rheolaidd cyfarfodydd y Bwrdd, h.y. Aelodau o'r Tîm Gweithredol a'r Aelodau Annibynnol.

Mae trefniadau cyflog presennol y sector cyhoeddus yn gymwys i bob aelod o staff gan gynnwys y Tîm Gweithredol.

Mae pob aelod o’r Tîm Gweithredol ar bwyntiau cyflog yn hytrach na graddfeydd cyflog.

Mae perfformiad y Tîm Gweithredol yn cael ei asesu yn erbyn amcanion personol a pherfformiad cyffredinol yr Awdurdod Iechyd Arbennig. Nid yw’r Awdurdod Iechyd Arbennig yn gweithredu cynllun tâl cysylltiedig â pherfformiad.

Cafwyd rhai taliadau i gyn Weithredwyr neu gyn uwch-reolwyr eraill yn ystod y flwyddyn, a manylir ar y rhain yn y tabl isod.

Gall y cyfansymiau yn rhai o'r tablau canlynol fod yn wahanol i'r rhai yn y Cyfrifon Blynyddol gan eu bod yn cynrychioli staff yn y swydd ar 31 Mawrth 2024 tra bod y Cyfrifon Blynyddol (nodyn 9.2) yn dangos nifer y gweithwyr ar gyfartaledd yn ystod y flwyddyn.

Tryloywder Tâl Uwch Reolwyr yn y Sector Cyhoeddus Datganoledig yng Nghymru – Canllaw ar Drechu Arferion Cyflogaeth Annheg a Hunangyflogaeth Ffug

Mae'r cyflog a'r telerau ac amodau cyflogaeth ar gyfer y Tîm Gweithredol a'r uwch-reolwyr wedi cael, ac yn mynd i gael eu pennu gan y Pwyllgor Tâl a Thelerau Gwasanaeth, o fewn y fframwaith a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae aelodau Pwyllgor Tâl yr Awdurdod Iechyd Arbennig i gyd yn Aelodau Annibynnol o'r Bwrdd. Cadeirydd yr Awdurdod Iechyd Arbennig sy'n cadeirio'r Pwyllgor. Adolygir Cylch Gorchwyl y Pwyllgor yn flynyddol. Ceir manylion am aelodaeth y Pwyllgor Tâl a Thelerau Gwasanaeth yn Atodiad 1.

English