Perfformiad Cyffredinol

Pwrpas yr Adroddiad: Mae'r adroddiad perfformiad yn rhoi crynodeb o'n cyflawniadau, ein canlyniadau a’n heriau allweddol. Mae'n manylu ar sut rydym wedi perfformio yn erbyn ein cynlluniau a thargedau Llywodraeth Cymru gyda ffocws ar ansawdd.

 
 
Meddyg yn dal tabled gyda delwedd feddygol o glaf ar y sgrin
 

Ein Gweledigaeth

Darparu gwasanaethau digidol o’r radd flaenaf, gan rymuso pobl i fyw bywydau iachach.

 
Dau feddyg yn adolygu gwybodaeth ar dabled ac yn trafod achos y claf
 

Ein Pwrpas

Gwneud digidol yn rym er gwell ym maes iechyd a gofal.

 
Meddyg yn dal tabled gyda delwedd feddygol o glaf ar y sgrin
 
Dau feddyg yn adolygu gwybodaeth ar dabled ac yn trafod achos y claf
 

Pwy ydym ni a beth rydym ni’n ei wneud?

Sefydlwyd Iechyd a Gofal Digidol Cymru fel Awdurdod Iechyd Arbennig ar 1 Ebrill 2021, dan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru i:

  • Ddylunio, datblygu a darparu platfformau, systemau a gwasanaethau digidol
  • Cefnogi eraill i ddylunio, datblygu a darparu platfformau, systemau a gwasanaethau digidol
  • Cefnogi datblygiad a gweithrediad safonau cyffredin ar gyfer platfformau, systemau a gwasanaethau digidol
  • Cynghori a chynorthwyo Gweinidogion Cymru mewn perthynas â diogelwch platfformau, systemau a gwasanaethau digidol
  • Cefnogi datblygiad o’r gweithlu digidol

Cyflawnir ein diben drwy ein cenadaethau a’n hamcanion strategol. Gwireddir ein gweledigaeth drwy ein hegwyddorion strategol:

Rhoi pobl yn gyntaf.

Mae ein gwasanaethau yn galluogi staff iechyd a gofal i gyrchu’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud penderfyniadau am iechyd a gofal, ac i gofnodi’r camau a gymerwyd ganddynt. Rydym yn croesawu dull dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr i ddatblygu cymwysiadau digidol gyda staff iechyd a gofal, gan flaenoriaethu deall sut y bydd ein systemau'n cael eu defnyddio.

Symleiddio popeth ry’n ni’n gwneud.

Er mwyn gallu gwneud mwy, mae angen bod yn fwy cynhyrchiol fel sefydliad. Gellir gwneud hyn drwy fireinio’r ffordd rydym yn gweithio, gan ganolbwyntio llai ar waith pwrpasol, a mwy ar gydrannau y gellir eu hailddefnyddio. Mae gan safonau a rheolau rôl bwysig i'w chwarae hefyd. Mae safonau data yn helpu i symleiddio ein cynnyrch a'n gwasanaethau. Yn yr un modd, mae safonau rheoli rhaglenni a phortffolio yn helpu i symleiddio'r ffordd rydym yn rhedeg ein portffolios, rhaglenni a phrosiectau.

Cynllunio am fwy o ddata, mwy yn ddigidol.

Mae’r GIG yng Nghymru ar drobwynt. Mae'r heriau rydym yn eu hwynebu yn gymhleth ac yn newid yn barhaus; gwella iechyd a lleihau anghydraddoldebau yn erbyn cefndir o effeithiau parhaus pandemig COVID-19 a chyllid cyfyngedig. Ond mae'r cyfle i drawsnewid iechyd a gofal yn arwyddocaol, ac mae digidol a data yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflawni hyn, ond mae'n dod â chost uwch, felly rydym yn archwilio ffyrdd o ddod yn fwy cynaliadwy yn ariannol.

Canfod gwerth ychwanegol.

Rydym yn cydweithio i ddarparu datrysiadau i'r problemau sydd bwysicaf i'n partneriaid ac yn gweithredu fframwaith rheoli buddion cadarn. Mae hyn yn helpu i wella effeithlonrwydd, gwella profiadau, a darparu mwy o werth i staff, cleifion a'r cyhoedd.

Dysgu o ddoe, camu at fory.

Mae cyflymder newid technolegol yn cyflymu, a rhaid i ni addasu ac ystwytho ein cyfeiriad strategol yn unol â hynny. Mae ein strategaeth yn darparu canllawiau ar gyfer ein cyfeiriad strategol, ond nid yw’n gynllun anhyblyg. Byddwn yn parhau i fonitro a gwerthuso’r dirwedd newidiol, a byddwn yn barod i addasu ein cynlluniau yn ôl yr angen.

Rydym yn trawsnewid ein dull o ddylunio a darparu cynhyrchion a gwasanaethau digidol drwy raglen Adeiladu Ein Dyfodol sydd wedi'i strwythuro o amgylch y pum egwyddor strategol a amlinellwyd uchod. Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen hon ar gael o dan Genhadaeth 5 yn ddiweddarach yn yr adroddiad hwn.

Mae'r holl bethau uchod wedi'u hategu gan ein gwerthoedd o gydweithio, arloesedd, cynhwysiant, rhagoriaeth a thosturi ac wedi'u tanlinellu gan ein hymrwymiad i welliant parhaus trwy alluogwyr a meysydd Dyletswydd Ansawdd.

Ein Sefydliad

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn Awdurdod Iechyd Arbennig sydd â rôl unigryw o ran darparu gwasanaethau digidol, data a thechnoleg cenedlaethol i gefnogi darparu iechyd a gofal yng Nghymru.

Mae mwy na hanner ein gweithwyr yn weithwyr technegol, gan gynnwys peirianwyr meddalwedd, dadansoddwyr data a phenseiri digidol. Mae ein Portffolios CTCI yn gymysgedd o weithrediadau a rhaglenni/prosiectau newydd. Mae 80% o'n hadnoddau wedi'u hymrwymo i wasanaethau gweithredol. Mae'r rhaniad hwn yn amrywio fesul Portffolio. Mae gan ein gwaith effaith amlwg, fel y gwelir drwy'r mwy na 100 o wasanaethau gweithredol a ddefnyddir bob dydd gan ein partneriaid.

Un o'r heriau allweddol y mae GIG Cymru yn parhau i'w hwynebu yw data iechyd a gofal dameidiog. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i ddefnyddio data yn well, fodd bynnag, mae diffyg data a safonau technegol yn rhwystr i rannu data.

Wedi'i sefydlu at ddiben helpu a chefnogi darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol digidol trwy dechnoleg ddigidol, data a safonau, mae IGDC yn sefydlu saernïaeth agored trwy blatfform data Cymru gyfan, gan weithio gyda chydweithwyr GIG Cymru a phartneriaid yn y sector preifat i ddefnyddio safonau rhyngweithredu i rannu data yn ddiogel ac yn saff.

Rydym yn casglu data o ddigwyddiadau gofal drwy adeiladu a phrynu'r systemau a ddefnyddir yn GIG Cymru ar gyfer darparu iechyd a gofal. Mae ein rôl yn cynnwys arwain gwasanaethau masnachol, caffael, rheoli rhaglenni/prosiectau a newid busnes i hwyluso casglu data. Er mwyn sicrhau bod yr holl ddata a gesglir yn strwythuredig ac yn ystyrlon, rydym yn datblygu, yn cefnogi ac yn hyrwyddo defnyddio safonau gwybodaeth.

Oni bai ei fod yn cael ei ddiogelu a'i storio mewn amgylchedd sefydlog, mae casglu'r data hwn yn dod yn wrthgynhyrchiol. Dyna pam rydyn ni'n darparu'r seilwaith ar gyfer storio data iechyd a gofal yn ddiogel, gan gynnwys canolfannau data, gwasanaethau Cwmwl a seiberddiogelwch.

Bydd yr Adnodd Data Cenedlaethol a'r Saernïaeth Darged Genedlaethol yn cynorthwyo trawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru trwy ddefnydd cysylltiedig a chydweithredol o ddata, gyda chefnogaeth ein Fframwaith Llywodraethu Gwybodaeth, i alluogi rhannu data a lleihau gweithio ar wahân.

Mae'r gwaith pwysig hwn yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal di-dor sy'n cynnig mynediad cyflym a chyfartal at ofal i bob dinesydd.

Cefnogaeth Cyfrifiaduron wedi'i Rheoli

Darparu gwasanaeth cymorth cyfrifiaduron wedi’i reoli’n llawn i 17,000 o ddefnyddwyr ar draws GIG Cymru, gan gynnwys Practisiau Meddygon Teulu a sefydliadau cenedlaethol.

Achosion Busnes Cenedlaethol

Arwain datblygiad achosion busnes cenedlaethol, gan gynnwys fframweithiau buddion ar gyfer mentrau digidol cenedlaethol newydd.

Rheoli Microsoft 365

Rheoli tenantiaeth Microsoft 365 ar gyfer 120,000 o ddefnyddwyr yn GIG Cymru.

Arwain datblygiad proffesiynol y gweithlu digidol ar gyfer GIG Cymru.

Cyngor Strategol

Cynghori Llywodraeth Cymru a sefydliadau partner ar y cyfeiriad strategol ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal digidol, gan gefnogi canfyddiadau adolygiad Llywodraethu Digidol 2024.

Arddangosfa o'n Gwaith

Gwyliwch arddangosfa o'n gwaith: DHCW – Arddangosfa o'n gwaith IGDC – Arddangosiad o’n gwaith

Ein Cenadaethau

Nid yw hi erioed wedi bod yn fwy amlwg bod angen chwyldro digidol a data wrth ddarparu iechyd a gofal. Sicrhau canlyniadau gwell mewn gwasanaethau iechyd a gofal diogel ac ymatebol yw’r nodau rydym yn ceisio eu cyflawni. Mae digidol a data yn alluogwyr allweddol ar gyfer hyn, yn awr ac yn y dyfodol.

Mae ein strategaeth wedi’i fframio o amgylch yr un pum cenhadaeth â’n Cynllun Tymor Canolig Integredig tair blynedd, a’n Cynllun Busnes blynyddol.

Mae ein Cenadaethau yn dwyn ynghyd y portffolios gwaith a’r swyddogaethau galluogi yn ein sefydliad. Mae pedair o’r Cenadaethau yn canolbwyntio ar gyflawniad, gan ddisgrifio sut mae mabwysiadu ac esblygiad cynhyrchion digidol a data yn ysgogi gwell gwerth a chanlyniadau i staff iechyd a gofal, cleifion a’r cyhoedd.

Mae’r bumed Genhadaeth yn canolbwyntio ar sut yr ydym yn gweithredu, gan gynnwys ein gallu i weithredu o fewn ein cyllid dyranedig, i gynnal gweithlu arbenigol, brwdfrydig, ac i gyflawni ein rhwymedigaethau o ran ansawdd a diogelwch, llywodraethu a chynaliadwyedd.

01

Darparu platfform ar gyfer galluogi trawsnewid digidol
  • Symud ein holl storfeydd data a gwasanaethau i blatfform Data NDR i greu un Storfeydd Data Clinigol genedlaethol
  • Ailgynllunio ein cymwysiadau â’n gwasanaethau i bensaernïaeth agored a diogel sy’n seiliedig ar safonau
  • Ymestyn safonau data i ofal cymdeithasol a phartneriaid eraill
  • Creu fframwaith data iechyd a gofal cymdeithasol Cymru gyfan
  • Symud ein holl wasanaethau byw i'r cwmwl a chau ein canolfannau data
Cenhadaeth 1

02

Darparu cynhyrchion a gwasanaethau digidol o ansawdd uchel
  • Mae’r holl ragnodi a rheoli meddyginiaethau yng Nghymru wedi’u galluogi’n ddigidol
  • Mae ein systemau iechyd digidol a gofal cymdeithasol yn llifo data i’r platfform NDR
  • Cofnod Iechyd Electronig Cymru gyfan
  • Cofnod Gofal Cymdeithasol Electronig Cymru gyfan
Cenhadaeth 2

03

Ehangu’r cofnod iechyd a gofal digidol
  • Yn cael ei ddefnyddio ar draws pob lleoliad yng Nghymru
  • Mae Ap GIG Cymru yn cael ei ddefnyddio gan dros filiwn o bobl
  • Ymhlith y chwarter uchaf am foddhad defnyddwyr
Cenhadaeth 3

04

Gyrru gwerth a chanlyniadau gwell trwy arloesi
  • Amgylchedd Data Diogel NDR ar gyfer mynediad ymchwil diogel
  • Gwasanaeth mewnwelediadau data gyda budd net
  • Defnyddio deallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio i wella cynhyrchiant y GIG
Cenhadaeth 4

05

Bod yn bartner strategol dibynadwy ac yn sefydliad cynhwysol ac uchelgeisiol o ansawdd uchel
  • Ymagwedd academaidd at ddatblygu staff drwy raglenni datblygu talent ac arweinyddiaeth sy’n cyd-fynd â’r fframwaith gallu
  • Cadarnhaol yn ariannol dros y tymor hir
  • Ôl troed carbon 34% yn is a map ffordd tuag at sero net
  • Piblinell o raglenni wedi’u blaenoriaethu dan arweiniad partneriaid
  • Ymhlith y chwarter uchaf am ymrwymiad staff a rhanddeiliaid
Cenhadaeth 5

Ein blwyddyn mewn rhifau a gwerth

2,700+ Nifer y bygythiadau seiber a ddargyfeiriwyd
Cyfanswm cyllid IGDC £196.48m wedi’i ddadansoddi fel Busnes Craidd (~80%), Rhaglenni (~20%)
360,000+ Nifer y lawrlwythiadau o Ap GIG Cymru gan ddefnyddwyr
1.4 miliwn Nifer yr eitemau presgripsiwn gan feddygon teulu a hawliwyd drwy EPS
Defnydd trwydded M365: 136,195 cyfrif defnyddiwr – cynnydd o 6.8% ers 2023
Dros 450k o ymgynghoriadau am anhwylderau cyffredin drwy Ddewis Fferyllfa
Atgyfeiriadau Electronig gan Feddygon Teulu – Gellir gweld canlyniadau profion, delweddau a dogfennau gofal ar draws ffiniau byrddau iechyd (heb fod angen eu hailadrodd na gofyn amdanynt)