Cyfrifoldebau Cyfarwyddwyr

Datganiad o Gyfrifoldebau'r Cyfarwyddwyr
Mae’n ofynnol i’r cyfarwyddwyr, o dan Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, baratoi cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Mae Gweinidogion Cymru, gyda chymeradwyaeth y Trysorlys, yn rhoi cyfarwyddyd y dylai’r cyfrifon hyn roi darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol yr Awdurdod Iechyd Arbennig ac o incwm a gwariant yr Awdurdod Iechyd Arbennig ar gyfer y cyfnod hwnnw.
Wrth baratoi’r cyfrifon hyn, mae’n ofynnol i’r cyfarwyddwyr wneud y canlynol:
- Cymhwyso ar sail gyson egwyddorion cyfrifyddu a osodwyd gan Weinidogion Cymru gyda chymeradwyaeth y Trysorlys
- Gwneud dyfarniadau ac amcangyfrifon sy’n gyfrifol ac yn ddarbodus
- Datgan p’un a ddilynwyd safonau cyfrifyddu perthnasol, yn amodol ar unrhyw wyriadau perthnasol a ddatgelwyd ac a esboniwyd yn yr adroddiad
Mae’r cyfarwyddwyr yn cadarnhau eu bod wedi cydymffurfio â’r gofynion uchod wrth baratoi’r cyfrifon.
Mae’r cyfarwyddwyr yn gyfrifol am gadw cofnodion cyfrifyddu cywir, sy’n datgelu gyda chywirdeb rhesymol sefyllfa ariannol yr awdurdod ar unrhyw adeg, a’u galluogi i sicrhau bod y cyfrifon yn cydymffurfio â’r gofynion a amlinellir yn y cyfarwyddyd uchod gan Weinidogion Cymru.
Drwy Orchymyn y Bwrdd
Dyddiad:
26 Mehefin 2025
Simon Jones | Cadeirydd
Helen Thomas | Prif Weithredwr