Cyfansoddiad y Bwrdd ac Aelodaeth
Cyfansoddiad y Bwrdd: Mae Atodiad 1 yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyfansoddiad y Bwrdd gan gynnwys cyfarwyddwyr gweithredol ac aelodau annibynnol, sydd ag awdurdod neu gyfrifoldeb am gyfarwyddo neu reoli prif weithgareddau IGDC yn ystod blwyddyn ariannol 2024/25. Mae hyn yn cynnwys enwau'r Cadeirydd a'r Prif Weithredwr. Mae Tabl 1 hefyd yn cynnwys enwau'r cyfarwyddwyr sy'n ffurfio'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd. Mae Atodiad 1 hefyd yn manylu ar y cyfarfodydd a fynychwyd yn ystod y flwyddyn a'r rolau hyrwyddwr y cytunwyd arnynt gan Aelodau'r Bwrdd ar gyfer y flwyddyn i ddod. Yn ogystal, gellir gweld bywgraffiadau byr o holl Aelodau'r Bwrdd ar wefan yr Awdurdodau Iechyd Arbennig.