Adroddiad llywodraethu corfforaethol gyda siartiau ariannol a dadansoddiad.
 
Adroddiad Llywodraethu Corfforaethol

Mae’r Adroddiad Llywodraethu Corfforaethol yn rhoi trosolwg o’r trefniadau a’r strwythurau llywodraethu sydd ar waith ar draws Awdurdod Iechyd Arbennig Iechyd Digidol a Gofal Cymru yn ystod 2024/25. Mae'n cynnwys:

Datganiad llywodraethu blynyddol gyda data ariannol a throsolwg o berfformiad y cwmni.
 
Y Datganiad Llywodraethu Blynyddol

Mae’n nodi’r trefniadau a’r strwythurau llywodraethu ac yn dwyn ynghyd sut mae’r sefydliad yn rheoli llywodraethu, risg a rheolaeth.

Adroddiad y cyfarwyddwyr yn manylu ar berfformiad corfforaethol ac atebolrwydd.
 
Adroddiad y Cyfarwyddwyr

Yn darparu manylion y Bwrdd a'r Tîm Gweithredol, sydd ag awdurdod neu gyfrifoldeb am gyfarwyddo a rheoli prif weithgareddau'r Awdurdod Iechyd Arbennig yn ystod y flwyddyn. Darperir peth o'r wybodaeth a fyddai’n cael ei dangos yma fel arfer mewn rhannau eraill o'r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon Blynyddol a thynnir sylw at hyn lle bo’n berthnasol.

Arweinwyr corfforaethol yn trafod cyfrifoldebau llywodraethu mewn cyfarfod bwrdd.
 
Datganiad o Gyfrifoldebau'r Swyddog Atebol a Datganiad o Gyfrifoldebau'r Cyfarwyddwyr

Mae’r Swyddog Atebol, y Cadeirydd a'r Cyfarwyddwr Cyllid yn cadarnhau eu cyfrifoldebau wrth baratoi'r datganiadau ariannol a bod yr Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon, yn eu cyfanrwydd, yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy.