ADRODDIAD BLYNYDDOL 2025

Llun bach o fideo crynodeb Simon a Helen

Datganiad gan ein Prif Weithredwr

Wrth i ni gwblhau ein pedwaredd flwyddyn, mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) yn parhau i dyfu a datblygu yn ein rôl arweinyddiaeth ddigidol.

Mae GIG Cymru yn wynebu pwysau cynyddol, ond mae ein gweithlu ymroddedig o fwy na 1,200 o bobl yn gweithio gyda’i gilydd gyda’n partneriaid i gyflawni rhai o brosiectau gofal iechyd digidol a data mwyaf y DU, tra’n cefnogi mwy na 100 o wasanaethau iechyd a gofal diogel o ansawdd uchel.

Trawsnewid ac Arloesi

Mae ein rhaglen Adeiladu Ein Dyfodol yn llunio'r ffordd rydym yn gweithio ac yn ein symud tuag at gyflawni ein strategaeth drwy ddod â gweithgareddau trawsnewid sefydliadol a thechnegol allweddol ynghyd, gan alluogi mwy o oruchwyliaeth ac eglurder o ran amcanion a chanlyniadau newid hanfodol.

Unwaith eto, cawsom ein rhoi ar y rhestr fer fel y Lle Gorau i Weithio ym maes TG yn y DU, gan ddangos ein hymrwymiad parhaus i adeiladu amgylchedd gwaith cadarnhaol a chynhwysol sy'n gwerthfawrogi arloesi, cydweithio, rhagoriaeth a thosturi. Cawsom ein cydnabod gyda Gwobr Canmoliaeth Uchel am Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yng Ngwobrau Cenedlaethol Cymdeithas Rheoli Pobl Gofal Iechyd, gan adlewyrchu ein dull rhagweithiol o hyrwyddo cynhwysiant.

Data, Seilwaith a Seiberddiogelwch

Bydd ein gwaith o ddatblygu Saernïaeth Darged Genedlaethol yn darparu'r sylfaen ar gyfer datblygu cynnyrch yn gyflymach ac yn fwy ystwyth. Mae'r Rhaglen Adnodd Data Cenedlaethol (NDR) yn parhau i ddatblygu atebion data iechyd diogel a hygyrch gyda'r nod o wella canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl Cymru drwy reoli data yn gyfrifol mewn ffordd lywodraethol, ddiogel a moesegol.

Rydym yn arwain ar lywodraethu gwybodaeth a seiberddiogelwch ar gyfer GIG Cymru, gan sicrhau cyfrinachedd, uniondeb ac argaeledd data GIG Cymru drwy annog penderfyniadau gwybodus sy'n canolbwyntio ar ddiogelwch. Rydym yn amddiffyn systemau a data GIG Cymru drwy fynd i'r afael â bygythiadau technegol, arwain y gwaith o ddylunio a gweithredu systemau TG diogel a hyrwyddo diwylliant diogelwch gwybodaeth cadarn wrth rannu arferion gorau.

Rhagoriaeth Weithredol

Gwnaethom gyflawni argaeledd gwasanaeth o 99.974% eleni ac rydym yn parhau i wella ein gwasanaethau gweithredol ar draws pob lleoliad. Cefnogodd System Imiwneiddio Cymru (WIS) raglenni brechu RSV a COVID ar raddfa fawr. Mae Canolfan Ragoriaeth Microsoft 365 GIG Cymru wedi sbarduno cydweithio cenedlaethol, gan optimeiddio effeithlonrwydd ac arbedion cost. Mae tîm y Ganolfan Ragoriaeth wedi arwain datblygiad offer fel y Porth Mynediad Deintyddol ac Ap Cyngor Symud Staff.

Grymuso Cleifion a Chlinigwyr

Mae'r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig bellach wedi dosbarthu miliwn o eitemau presgripsiwn ac mae'n cyflwyno un o'r newidiadau mwyaf ers degawdau i'r ffordd y mae GIG Cymru yn rheoli presgripsiynau. Mae Ap GIG Cymru yn cefnogi mynediad digidol i gleifion i wasanaethau iechyd a gofal ac mae bellach yn cael ei ddefnyddio gan dros 360,000 o bobl yng Nghymru, gyda mwy yn ei ddefnyddio bob dydd. I ddangos ei lwyddiant, mae Ap GIG Cymru wedi cyrraedd rhestr fer ar gyfer nifer o wobrau, gan gynnwys Gwobrau Digidol Cyfnodolyn y Gwasanaeth Iechyd (HSJ) a Gwobrau’r Entrepreneur Digidol. Mae'r Ap wedi cael ei gydnabod am ei arloesedd mewn gofal iechyd digidol a'i gyfraniad at rymuso cleifion yng Nghymru i reoli eu hiechyd.

Rydym wedi cefnogi gofal mwy diogel a mwy effeithlon drwy ddarparu offer digidol sy'n rhoi gwybodaeth allweddol i glinigwyr i gefnogi gwneud penderfyniadau. Mae Cofnod Gofal Nyrsio Cymru bellach ar gael ym mhob ysbyty yng Nghymru, gan arbed amser, gwella cywirdeb a lleihau dyblygu. Mae Porth Clinigol Cymru wedi bod yn allweddol wrth wella mynediad clinigwyr at wybodaeth am gleifion drwy ddarparu un platfform mewngofnodi sy'n integreiddio data ar draws byrddau iechyd. Mae datblygiadau allweddol ym Mhorth Clinigol Cymru yn cynnwys gwell dulliau electronig o geisio profion, mynediad cyflymach at ganlyniadau diagnostig, atgyfeiriadau cleifion, rheoli meddyginiaethau a galluoedd rhaglenni canser fel e-ffurflenni gofal lliniarol.

Cydnabyddiaeth a’r Dyfodol

Mae ymchwil ac arloesi yn parhau i ffynnu, gyda'n hymrwymiad i gefnogi datblygiadau iechyd digidol, datblygu'r gweithlu a gwelliannau gofal iechyd sy'n seiliedig ar ddata. Mae e-Lyfrgell GIG Cymru wedi ehangu mynediad at adnoddau o ansawdd uchel, tra bod ein menter Gwerth o Ddata yn gwella galluoedd dadansoddi a gwneud penderfyniadau.

Er ein bod yn hynod falch o'n holl gyflawniadau dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym hefyd yn cydnabod ein bod wedi parhau i wynebu nifer o heriau. Ym mis Mawrth, cawsom newyddion gan Lywodraeth Cymru fod ein statws uwchgyfeirio yn cael ei godi i lefel 3 (monitro uwch) ar gyfer y maes perfformiad a chanlyniadau sy'n gysylltiedig â chyflawni rhaglenni mawr. Mae rhai o'r heriau yr ydym wedi'u hwynebu wedi'u trafod yn y ddogfen hon ac rydym yn croesawu'r cyfle y mae'r ffocws a'r gefnogaeth gynyddol yn y maes hwn yn ei roi i ni.

Wrth edrych ymlaen, rydym yn parhau i fod yn ymroddedig i weithio gyda'n partneriaid i ddarparu atebion digidol sy'n gwella gofal cleifion, yn gwella effeithlonrwydd ac yn gwneud digidol yn rym er gwell ym maes iechyd a gofal yng Nghymru.

Alistair Neil – Aelod o’r Bwrdd
Chris Darling – Aelod o’r Bwrdd
Claire Osmundsen – Aelod o’r Bwrdd
Helen Thomas – Aelod o’r Bwrdd
Ifan Evans – Aelod o’r Bwrdd
Marian Jones – Aelod o’r Bwrdd
Marilyn Jones – Aelod o’r Bwrdd
Rhidian Hurle – Aelod o’r Bwrdd
Rowan Gardner – Aelod o’r Bwrdd
Ruth Glazzard – Aelod o’r Bwrdd
Samantha Morgan – Aelod o’r Bwrdd
Sam Hall – Aelod o’r Bwrdd
Sam Lloyd – Aelod o’r Bwrdd
Simon Jones – Aelod o’r Bwrdd
David Selway – Aelod o’r Bwrdd
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

IGDC

Pobl. Data. Effaith.