Neidio i'r prif gynnwy

Ymunwch â'n Diwrnod Recriwtio Agored - 7 Hydref 2021

17 Medi 2021

Ydych chi’n chwilio am yrfa mewn sefydliad cenedlaethol sy'n arwain arloesedd iechyd digidol? Ymunwch â ni ar gyfer diwrnod recriwtio agored rhithwir ar 7 Hydref rhwng 9.45 a 11.30am.

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn tyfu’n gyflym ac yn awr yn recriwtio ar gyfer rolau arbenigol, technegol ac annhechnegol mewn data a gwybodaeth, rheoli prosiectau, gwasanaeth cwsmeriaid a mwy – pobl sydd wir eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau dinasyddion Cymru. Ai chi yw’r person hwnnw?

Dewch i glywed am ein gwaith arloesol, sut beth yw hi i weithio yn ein sefydliad a sut y gallwch chi fod yn rhan o'n llwyddiant. Bydd gennych y cyfle i ofyn cwestiynau a siarad â'n tîm am y cyfleoedd penodol sydd ar gael nawr.