Neidio i'r prif gynnwy

Systemau digidol yn 'ganolog' wrth ddarparu rhaglen frechu flaenllaw Cymru

21 Hydref 2021

Mae ffigwr blaenllaw o raglen frechu COVID-19 Cymru wedi disgrifio sut mae mynediad at y gwasanaethau digidol a ddarperir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi bod yn allweddol i’w roi ar waith yn llwyddiannus.

Defnyddir y gwasanaeth brechu digidol sy'n cefnogi'r rhaglen, System Imiwneiddio Cymru (WIS) ledled y wlad ar gyfer rheoli, dosbarthu ac adrodd ar y brechiadau COVID-19.

Fe’i cefnogir gan wybodaeth o hwb data COVID-19, sy’n rhan o’r Warws Data Cenedlaethol a reolir gan Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Gwybodaeth Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Dywedodd Jeremy Griffith, Prif Swyddog Gweithredol Rhaglen Frechu Profi, Olrhain, Diogelu (TTP) COVID-19 GIG Cymru a Chyfarwyddwr Uned Gyflawni GIG Cymru, fod defnyddio'r hwb data COVID-19 a WIS wedi helpu ei dîm i wneud penderfyniadau mwy gwybodus, ledled y wlad trwy gydol y pandemig. Mae'r system yn defnyddio gwybodaeth am ddemograffeg cleifion, grwpiau galwedigaeth a lefelau blaenoriaeth y cytunwyd arnynt ar gyfer derbyn y brechlyn, i ganiatáu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol drefnu apwyntiadau ar gyfer cleifion. Gall greu slotiau apwyntiad a chofnodi manylion am bob brechiad ar gyfer pob brechlyn COVID-19 a weinyddir yng Nghymru.

Mae Griffith yn gweithredu fel rhyngwyneb GIG Cymru â Llywodraeth Cymru ar gyfer Profi, Olrhain, Diogelu (TTP) a'r rhaglen frechu. Mae ei dîm yn defnyddio gwybodaeth o'r hwb, sy'n arddangos cymysgedd o ddelweddiadau data, tablau a ffynonellau, o storfa ddata COVID-19 i gefnogi rheolaeth lledaeniad COVID-19.

Mae'r hwb hefyd yn darparu data brechu gan bob bwrdd iechyd, i roi darlun clir o bwy sydd wedi cael eu brechu, ble a phryd, ynghyd â’r nifer o bobl sydd ag apwyntiad wedi’u archebu ar hyn o bryd i gael eu brechu. Gellir dadansoddi'r data yn gyffredinol, neu’n fwy benodol megis safleoedd brechu penodol a chleifion unigol.

“Roeddem angen rhywfaint o ddata da, cadarn, cyfoes a oedd yn seiliedig ar frechlynnau'n cael eu cofnodi. Ystyriais yr elfen dangosfwrdd o’r rhain, a oedd yn caniatáu imi a fy nhîm droi gwybodaeth dangosfwrdd yn wybodaeth reoli. Er mwyn i mi allu briffio gweinidogion, roeddwn i angen yr wybodaeth reoli honno bob amser ar flaenau fy mysedd i gefnogi Llywodraeth Cymru i wneud penderfyniadau allweddol ar gyfer y gymdeithas. Felly mae wedi bod yn hanfodol. ”

“Dim ond ar ôl i Gymru ddechrau cael rhywfaint o gydnabyddiaeth am y ffordd yr oeddem yn cyflwyno’r rhaglen o'n sefyllfa gyda'r dos cyntaf a'r ail [ddos], y gwnaeth gwledydd eraill o bob cwr o’r byd ymddiddori; yn enwedig ein cydweithwyr yn y DU yn yr Alban, yn ogystal ag eraill fel Awstralia a'r Almaen," ychwanegodd Griffith. "Roedd ganddyn nhw ddiddordeb yn y ffordd roedden ni'n gwybod ein sefyllfa gyda’r brechlyn, sut roedden ni'n cymryd stoc a'r holl lywodraethu ansawdd o amgylch rheoli brechlyn a oedd gennym ar flaenau ein bysedd. " 

Cafodd staff Iechyd a Gofal Digidol Cymru sy'n cefnogi'r systemau a'u defnyddwyr hefyd eu canmol a'u disgrifio fel rhai sy'n "ffocysu ar atebion" ac yn gwneud eu gwaith mewn modd "proffesiynol a charedig" wrth roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bawb yn llawn.

Crynhodd Griffith ei feddyliau trwy ddweud, “mae System Imiwneiddio Cymru (WIS) yn nifer o bethau sydd wedi dod ynghyd mewn un pecyn yr ydym i gyd yn ei ddefnyddio ledled Cymru, ac mae wedi bod yn ganolog wrth ddarparu [y rhaglen frechu]. Mae'n caniatáu inni rifo a rhoi tystiolaeth i naratif ac felly rhoi mwy o hyder i'r cyhoedd ”.

Mae gwaith y System Imiwneiddio Cymru yn parhau wrth inni symud i raglenni brechiad atgyfnerthu COVID-19 a brechu rhag y ffliw ar gyfer tymor yr hydref a’r gaeaf.