Neidio i'r prif gynnwy

System Imiwneiddio Cymru yn cyrraedd carreg filltir o 7 miliwn o frechiadau

31 Mawrth 2022

Mae dros saith miliwn o frechiadau bellach wedi'u rhoi yng Nghymru gyda chymorth System Imiwneiddio Cymru (WIS).

Wedi'i ddatblygu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru mewn ymateb i bandemig COVID-19, mae WIS yn system wybodaeth sydd wedi ennill gwobrau ac sy'n cefnogi'r gwaith o reoli, dosbarthu ac adrodd ar raglen frechu COVID-19. Mae gweithwyr gofal iechyd yn defnyddio'r system i ddyrannu apwyntiadau, olrhain stoc y brechlyn, a chofnodi manylion am bob brechiad COVID-19 a'r pigiad atgyfnerthu a ddarperir yng Nghymru.

Cymru yw'r unig ran o'r DU i ddatblygu datrysiad rheoli brechlyn digidol gan ddefnyddio tîm meddalwedd mewnol sy'n bodoli eisoes.

Dywedodd Jeremy Griffith, Prif Swyddog Gweithredu Rhaglen Frechu COVID-19 Cymru: "Mae darparu saith miliwn o frechiadau yn garreg filltir bwysig, ac yn brawf o waith caled pawb sy'n gysylltiedig.

"Ni ellir gorbwysleisio'r arloesi a ddangosir gan y rhai sy'n datblygu, cynnal ac addasu WIS yn gyflym. Hoffwn hefyd gymeradwyo gwaith caled y rhai sy'n rhoi'r brechiadau. Mae wedi bod yn ymdrech amlddisgyblaethol wirioneddol."